Dydd Iau Cablyd
Myfyrio ar ran sydd heb fod mor gyfarwydd o stori’r Pasg.
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Myfyrio ar ran sydd heb fod mor gyfarwydd o stori’r Pasg.
Paratoad a Deunyddiau
- Cyfeiriadaeth Feiblaidd: Ioan 13.1–17, 31b–35.
- Fe allech chi lwytho i lawr rai lluniau o dai nodweddiadol o gyfnod y Testament Newydd, sy’n dangos rhai o’r cawgiau mawr yr oedden nhw’n eu defnyddio i ddal dwr.
- Mae’n bosib i chi dorri’r stori’n rhannau i’w darllen gan fwy nag un o’r myfyrwyr, a gallai gwisgoedd traddodiadol ychwanegu at yr awyrgylch.
- Fe fydd arnoch chi angen cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl.
Gwasanaeth
Cyflwynwch y stori fel arall eiriad dychmygol o un rhan o stori’r Pasg.
Golchi traed y disgyblion
Dwr: sylwedd od. Byth ddigon ohono mewn cartref fel hwn, a’m swydd i yw gofalu bod digon ar gael. Felly, ar y mwyafrif o ddyddiau, byddaf yn mynd draw at y ffynnon dro ar ôl tro. Ac mae rhai pobl yn gwerthfawrogi hynny, ac eraill ddim. Fe gawsom ni’r plant rheini’n dod yma ar ymweliad y dydd o’r blaen - gwastraff, gwastraff, gwastraff. Y peth gwaethaf yw mai fi sy’n gorfod cael gwared â’r dwr sy’n cael ei golli ar lawr hefyd. Felly erbyn diwedd y dydd rydw i’n falch o gael sblasio peth ohono ar fy wyneb, a mynd i’r gwely. Ond fe fyddaf hefyd yn hoffi golchi fy nhraed cyn mynd i’r gwely, ac mae llawer yn gweld peth felly yn wastraff o ddwr. Ond, ar ôl i’r Athro fod yma, rydw i’n ei weld yn fwy fel gweddi nag unrhyw beth arall - ffordd o’i gofio Ef, a’i ffrindiau.
Gwyl y Bara Croyw oedd hi pan ddaeth heibio; dod i fwyta pryd o fwyd gyda’i ffrindiau. Ond roedd hi’n amser peryglus iawn iddyn nhw erbyn hynny, roedd yr offeiriaid wedi dechrau meddwl am ffordd o gael gwared ohono. Roedd yn tynnu blewyn o drwyn yr hierarchaeth ym mhob ffordd bosib, a doedden nhw ddim yn gallu fforddio’r risg o golli’r breintiau Rhufeinig oedd ganddyn nhw. O fod yn grefydd swyddogol ag ati, rhaid bod yn wyliadwrus nad ydych yn tramgwyddo’r gwarchodwyr, neu gallwch yn hawdd cael eich hun yn y sefyllfa o fod yn gweithredu tu ôl i ddrysau caeedig - erledigaethau a marwolaethau. Na, doedden nhw ddim am fentro colli eu statws swyddogol er mwyn Iesu a’i gyfeillion.
Y peth od oedd, wnaeth o ddim gwneud hynny pan gyrhaeddon nhw gyntaf. Roeddwn i wedi golchi traed pawb fel yr oedden nhw’n dod i mewn, fel y byddaf yn ei wneud bob amser. Roedden nhw wedi eistedd, ac wedi dechrau bwyta. Ymhen ychydig, aeth popeth yn dawel. Roedden nhw i gyd yn dyfalu beth fyddai’n digwydd nesaf. Cododd Iesu ar ei draed ac amneidiodd arnaf i fynd ato. Mi wnes i fynd drosodd ato, gan feddwl ei fod am i fynd ar neges drosto neu rywbeth. Ond na, yn gyntaf tynnodd ymaith ei ddillad allanol, yna cymerodd y tywel roeddwn i newydd fod yn ei ddefnyddio - doedd o ddim yn rhy lân erbyn hynny - ac fe’i clymodd am ei ganol. Cododd y jwg dwr a fy nysgl i oddi ar y stand, ac aeth drosodd at Simon, neu Pedr fel yr oedd yn cael ei alw. Penliniodd Iesu o flaen Pedr, a dechreuodd dywallt dwr dros ei draed, ac yna eu sychu. Nid yn frysiog, ffwrdd â hi, fel yr oeddwn i’n ei wneud, rydw i’n cyfaddef, ond roedd yn golchi ei draed yn ofalus, gan sychu rhwng y bodiau fel y bydd mam yn ei wneud i’w baban.
Roedd Pedr wedi ei syfrdanu. Neidiodd ar ei draed a gwaeddodd ar Iesu. ‘Beth wyt ti’n ei wneud? Dwyt ti ddim yn golchi fy nhraed i – mae’r gwas eisoes wedi gwneud hynny!’
Rhoddodd Iesu un edrychiad arno. Roedd o’n aml yn gwneud hynny. Yna ysgydwodd ei ben yn araf.
‘O Pedr, dwyt ti ddim yn deall.’
‘Na, dw’i ddim yn deall,’ atebodd Pedr. ‘Wyt ti am olchi fy mhen a’m dwylo hefyd?’
Arhosodd Iesu. Eisteddodd Pedr i lawr, ac aeth Iesu yn ôl at y dasg.
Golchodd draed y cyfan ohonyn nhw. Gyda gofal a chryn sylw i’r hyn yr oedd yn ei wneud. Roedd hi’n ymddangos ei fod yn mwynhau’r cyswllt â’i ddisgyblion. Roedd hi’n annioddefol o drist, a dirdynnol, wrth iddyn nhw edrych arno ac yna ddisgwyl iddo fo egluro.
Rhoddodd ei ddillad allanol yn ôl amdano ac eisteddodd i lawr. Roedd pob un ohonyn nhw ar bigau’r drain yn disgwyl iddo ddweud wrthyn nhw beth ar y ddaear oedd yn digwydd.
Ochneidiodd.
Yna siaradodd gydag ef ei hun, mor ddistaw fel na chlywodd neb ohonyn nhw beth ddywedodd; ond fe glywais i. Roeddwn i’n sefyll yn y cysgodion, lle roeddwn bob amser yn sefyll, yn aros ac yn disgwyl.
'Dydyn nhw ddim yn barod, Nhad,’ meddai.
Yna trodd a siaradodd; yn bennaf gyda Pedr, ond yn ddigon uchel hefyd i’r gweddill glywed.
‘Myfi yw eich Arglwydd a’ch athro, rydych chi yn fy ngalw i yn hynny. Roeddwn am ddangos i chi nad os y fath beth â hierarchaeth yn nheyrnas Duw. Nid oes neb yn well na neb arall. Rydym i gyd yn gyfartal gerbron ein Tad Nefol. Felly, fe wnes i olchi’ch traed i ddangos i chi mai fel yna y mae hi. Os galla’ i olchi’ch traed chi, yna fe allwch chi olchi traed eich gilydd. Ac unrhyw un arall sydd angen cael golchi ei draed neu ei thraed. Yn y deyrnas, mae pawb yn gyfartal'.
Ochneidiodd eto. Ymhen rhyw funud neu ddwy, rhoddodd ddarn o fara i Jwdas, ac fe gymerodd Jwdas y darn a’i fwyta.
Rhoddodd fara i’r lleill hefyd, ond fe wnes i sylwi fod Jwdas wedi ymadael ar ôl iddo fwyta’r darn a roddwyd iddo. Aeth oddi yno yn ddistaw heibio i mi ac allan i’r nos. Rydw i’n cofio sylwi pa mor dywyll oedd hi y tu allan.
Fe adawodd pawb ohonyn nhw yn fuan wedi hynny. Fe ddywedodd rhai eraill wrthyf eu bod wedi mynd i ardd Gethsemane, ac fe wyddom i gyd i ble y dygwyd Iesu wedi hynny.
Y gweddill? Does neb yn gwybod yn iawn i ble yr aethon nhw’r noson honno. Diflannu, i’r ddaear, dyna ble’r aethon nhw. Fe wnes i dwtio dipyn, ac yna fe es i fy ngwely. Yn ystod y diwrnod canlynol y cefais i glywed beth oedd wedi digwydd i Iesu. Oedd o’n gwybod beth oedd o’i flaen? Rydw i’n meddwl i fod o. A oedd o’n gwybod y cyfan o’r hyn oedd yn mynd i ddigwydd? Wel dyna gwestiwn na fedra’ i mo’i ateb.
Y noson honno, fe gerddodd Iesu i’r tywyllwch, ac fe arhosodd hi’n dywyll iddo hyd yn oed pan gododd yr haul y bore’r dydd Gwener hwnnw. Fe arhosodd yn dywyll i lawer ohonom ninnau hefyd, y rhai ohonom a arhosodd i ddisgwyl, disgwyl i’r haul godi.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll, ac anogwch y myfyrwyr i feddwl am y stori y maen nhw newydd ei chlywed.
Sut ydych chi’n dygymod â’r sefyllfa pan fydd pobl yn chwalu’r gwahanfuriau rhyngoch chi â nhw fel y gwnaeth Iesu yn y stori yma? Ydych chi’n addasu a gwenu, ynteu a ydych chi’n ymateb mewn ffordd ymosodol, trwy geisio cadw’r ffiniau traddodiadol yn eu lle?
Mae Iesu eisiau i’w ddilynwyr fod yn weision. Pa mor hawdd yw hynny?
Canwch emyn fel gweddi, er enghraifft, gweddi Sant Ffransis o Assisi: 'Iôr gwna fi’n offeryn dy hedd'. (Caneuon Ffydd rhif 868, hefyd i’w chael mewn llyfrau eraill)