Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arwyr Anenwog

Meddwl am hanes Sant Joseff, tad daearol Iesu Grist, y sant y byddwn ni’n cofio amdano ac yn dathlu ei fywyd ar 19 Mawrth.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am hanes Sant Joseff, tad daearol Iesu Grist, y sant y byddwn ni’n cofio amdano ac yn dathlu ei fywyd ar 19 Mawrth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch gân ar gyfer yr Amser i Feddwl sy’n cynnwys llinell fas nodedig.

Gwasanaeth

  1. Tybed faint ohonoch chi fyddai wrth eich bodd yn cael bod yn aelod o fand cerddoriaeth boblogaidd? Nifer go dda, rydw i’n credu. Byddai rhai ohonoch eisiau bod yn brif leisydd, yn arwain y band, yr un yn y cylch golau.  Byddai eraill ohonoch yn hoffi bod yn brif gitarydd, yn chwarae unawdau deinamig yng nghanol y gân. Yna, mae chwaraewr yr allweddellau neu’r chwaraewr sacsoffon, yn ychwanegu swn newydd yn y toriad offerynnol. Yn olaf, mae’r drymiwr. Mae pawb eisiau cael eistedd wrth y drymiau a’u taro. 

    Ond nid yw hynny’n cynnwys yr holl gerddorion yn y band. Yn gorwedd rhywle yng nghanol y cymysgiad y mae rhywun sydd â’i rôl yn hanfodol, yr un sy’n gosod y rhythm digyfnewid, sy’n rhoi’r sylfaen i’r gân.  Yn aml, dyma’r aelod distawaf o’r band, yr un sy’n sefyll yn agos at gefn y llwyfan, yr un sy’n mynd ymlaen â’i waith neu â’i gwaith.  Rwy’n siarad am y chwaraewr bas. Yr arwr anenwog.

  2. Mae 19 Mawrth yn Wyl Sant Joseff, un o arwyr anenwog yn y Testament Newydd yn y Beibl.‘Pwy yw hwnnw?’ bydd llawer ohonoch yn gofyn, sydd yn profi fy mhwynt am ei rôl yn y cefndir. Gadewch i ni atgoffa’n hunain.

    Pwy oedd mam Iesu? Yr ateb, fel y mae llawer ohonoch y gwybod, yw Mair.  Hi yw cymeriad canolog y stori. 

    Pwy oedd tad Iesu? Mae’r ateb i’r cwestiwn hwn braidd yn fwy anodd. Caiff Iesu ei adnabod fel Mab Duw, ac yn ôl yr hanes daeth Mair yn feichiog trwy weithred Ysbryd Glân Duw. Dyna paham yr oedd Iesu yn honni bod yn ddynol yn ogystal â bod yn ddwyfol. Felly, i ba ran o’r stori y mae Joseff yn perthyn?

  3. Tad daearol Iesu oedd Joseff, y ffigur sydd yn y cefndir yn stori’r Nadolig.  Wyddon ni fawr ddim amdano. Roedd o, yn ôl pob golwg, yn saer coed neu’n grefftwr, mewn geiriau eraill, un a oedd yn gweithio â’i ddwylo. Yr oedd, fodd bynnag, yn un o ddisgynyddion uniongyrchol y Brenin Dafydd, arwr mawr yn hanes yr Iddewon. 

    Cawn wybod bod Joseff wedi cytuno i briodi Mair, hyd yn oed pan ddarganfyddodd ei bod yn feichiog, ac fe dderbyniodd ei stori o sut y digwyddodd hynny. Roedd yn bresennol yn ystod y Geni a bu’n allweddol yn hebrwng ei wraig a’i fab mabwysiedig i’r Aifft pan ddaeth hi’n amser rhy beryglus i’r bachgen bach aros ym Mhalestina. 

    Mae’n ymddangos ei fod yn fyw pan oedd Iesu’n ddeuddeng mlwydd oed, ond dyna pa bryd y mae stori Joseff yn gorffen. Ar yr adeg pan ddechreuodd Iesu ar ei weinidogaeth o bregethu ac iachau, mae’n amlwg mai gwraig weddw oedd Mair. Wrth iddi hi ddod yn gymeriad arwyddocaol yn y stori, mae Joseff yn cilio i’r gorffennol.

  4. Ai presenoldeb arwyddocaol yn unig yw Joseff? A fyddai stori Iesu wedi bod yr un fath hebddo? Dydw i ddim yn credu. 

    Yn y lle cyntaf, rhoddodd Joseff hygrededd cymdeithasol i Mair. Byddai mam ddi-briod wedi cael bywyd yn anodd iawn yn ystod y dyddiau hynny.  Cyflawnodd Joseff rôl gwr a chafodd blant eraill gyda hi. Fe ddarparodd y math o batrwm gwrywaidd a ddilynodd Iesu am y rhan fwyaf o’i fywyd. Fe ddarparodd ddiogelwch ariannol i’r teulu yn yr hwn yr oedd y bachgen Iesu’n tyfu i fyny ynddo. 

    Ef hefyd roddodd i Iesu ei dreftadaeth Iddewig. Tyfodd Iesu i fyny fel aelod o’r teulu ‘brenhinol’, hyd yn oed os oedd y dreftadaeth honno megis rhyw atgof pell o genedlaethau a fu. Yr oedd gan Joseff rôl gefnogol hanfodol yn y stori.  Roedd yn arwr anenwog.

Amser i feddwl

Mae yna arwyr anenwog o’n cwmpas ninnau bob amser: pobl sy’n aros yn y cefndir, ond eto sy’n galluogi i’n bywyd ddigwydd. Yn yr ysgol hon gallwn feddwl, er enghraifft, am y technegwyr TG, y staff glanhau a’r bobl hynny sy’n gweithio yn swyddfa’r ysgol. Yn ein clybiau chwaraeon neu glybiau hamdden mae nifer o hyfforddwyr, gyrwyr a threfnwyr, a go brin y byddai unrhyw beth yn digwydd yn y canolfannau hynny heb eu gwaith nhw. Mae yna rywun o bosib gartref hefyd sy’n gofalu fod popeth yn ei le. Efallai y gall gwyl Sant Joseff fod yn ddiwrnod pryd y gallwn ni ganu clodydd yr arwyr a’r arwresau anenwog. 

Treuliwch funud yn ystyried y pethau canlynol. Efallai yr hoffech chi eu troi’n weddi:

Byddwch yn ddiolchgar am y bobl hynny sy’n trefnu’r gweithgareddau y byddwch chi’n cymryd rhan ynddyn nhw.

Byddwch yn edifeiriol eich bod weithiau yn cymryd y bobl hyn yn ganiataol.

Lluniwch gynllun i weithredu ar rai o’r materion sydd wedi amlygu eu hunain yn y gwasanaeth heddiw.

Cerddoriaeth

Diweddwch y gwasanaeth gyda chân sy’n cynnwys llinell fas nodedig. Er enghraifft, ‘Stand By Me’ gan Ben E. King neu ‘You Can Call Me Al’ gan Paul Simon.

Hefyd, mae’r gân ‘Wind Beneath My Wings’, sydd wedi cael ei recordio gan nifer o wahanol artistiaid, yn sôn am rôl rhywun sydd yn y cefndir.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon