Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Aflonyddwch Ym Mhakistan

Archwilio’r rhesymau dros y cynnydd yn y trais sy’n digwydd ar y ffin rhwng Pakistan ac Afghanistan.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r rhesymau dros y cynnydd yn y trais sy’n digwydd ar y ffin rhwng Pakistan ac Afghanistan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nid oes angen unrhyw ddeunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Ers 2001, bu lluoedd arfog rhyngwladol yn rhan o’r gwrthdrawiadau yn Afghanistan. Mewn ymateb i’r ymosodiadau 9/11, fe arweiniodd yr Unol Daleithiau, gyda chefnogaeth nifer fawr o wledydd, yn cynnwys gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, ymgyrch filwrol yn erbyn rhwydwaith terfysgol mewnol y wlad, a llywodraeth y Taliban a oedd yn rhoi lloches i’r grwpiau terfysgol hynny. Er gwaethaf y ffaith bod nifer fawr o derfysgwyr wedi cael eu lladd neu eu dal yn garcharorion, ni lwyddodd y lluoedd rhyngwladol i ddwyn trefn a sefydlogrwydd i rannau helaeth o Afghanistan. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae lluoedd y Taliban ac al-Qaida wedi symud y frwydr dros y ffin i wlad Pakistan.

  2. Mae gan Bakistan hanes hir o ymladd. Mae’r wladwriaeth yn gwario symiau enfawr o’i hincwm ar y lluoedd arfog, tra bo miliynau o’i phobl yn parhau i fyw mewn tlodi. Nid yw llawer o ferched yn neilltuol yn derbyn addysg ddigonol, ac mae hynny’n wir iawn yn yr ardaloedd gwledig a mynyddig.

  3. Cyhuddir llywodraeth a lluoedd arfog Pakistan yn aml o bryderu mwy am eu cymydog India, cystadleuydd mawr iddi, ond sy’n wladwriaeth heddychol. Nid yw’r lluoedd yn y rhanbarthau hynny sydd ar ffin Ogledd-orllewinol Pakistan, ond yn rhannol dan reolaeth y llywodraeth.  Yno, mae traddodiadau’r llwythau yn parhau i fod mewn grym. Un rhan bwysig o hyn yw’r lletygarwch sy’n cael ei gynnig i ddieithriaid sy’n gofyn am gymorth, y math o letygarwch y mae’n ymddangos fod ymladdwyr y Taliban ac al-Qaida yn elwa ohono. Bydd y lluoedd gwrth-lywodraethol yn aml yn trefnu ymosodiadau terfysgol sy’n cael effaith enfawr: cafodd dros 3,000 o bobl Pakistan eu lladd o ganlyniad i drais milwriaethus yn 2009. Dylid nodi, fodd bynnag, bod o gwmpas hanner y rhai a fu farw yn derfysgwyr milwriaethus gafodd eu lladd gan fyddin Pakistan neu gan ymosodiadau drôn o bell yr UDA.

  4. Mae’r trais wrth reswm yn drychineb ofnadwy, ond mae hefyd yn datguddio rhai cwestiynau anodd. Mae Pakistan yn wlad sy’n meddu ar rym niwclear, felly mae unrhyw siawns y gall y lluoedd milwriaethus gael eu gafael ar y wlad yn peri crisis rhyngwladol. Mae hynny, a’r cysylltiadau ag Afghanistan, yn golygu fod yr hyn sy’n digwydd ym Mhakistan, yn broblem i bawb yn y byd, nid Pakistan yn unig. Gall un hefyd weld y gwrthdaro rhwng y ffyrdd  mwy traddodiadol o fyw a gwladwriaeth sy’n gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau tir y mae hi’n ei ystyried fel tir sy’n perthyn iddi hi.

  5. Mae'r rhain yn broblemau anodd y bydd pobl ar draws y byd yn gorfod eu hwynebu yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Fodd bynnag, bydd y dulliau a ddefnyddir gan yr holl bleidiau yn bresennol ddim ildio ateb boddhaol i bawb yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd y gwrthdaro’n parhau, gyda’r canlyniad y bydd llawer mwy o bobl ddiniwed yn dioddef yn ddiangen. Yn y pen draw, bydd cyfaddawd cydweithredol sy’n cynnig rhai consesiynau i bawb, yn debygol o fod y deilliant gorau: mae’r gorffennol wedi dangos mai dysgu cyd-fyw â’n gilydd yw’r unig ffordd i ddiweddu’r trais afresymol hwn. 

Amser i feddwl

Mae’r trais ym Mhakistan yn peri cwestiwn mawr i bob un ohonom.

A yw’n iawn i’r gwledydd mwyaf pwerus yn y byd ymglymu eu hunain â gwleidyddiaeth gwledydd eraill?

A yw’n iawn fod gwledydd y Gorllewin yn pwmpio arian i brynu arfau i mewn i wledydd lle mae llawer yn ei chael hi’n anodd goroesi oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o adnoddau sylfaenol fel bwyd ac addysg?

Sut y gallwn ni ddwyn dylanwad ar wledydd i weithio am heddwch?

Beth yw rôl y Cenhedloedd Unedig mewn sefyllfaoedd fel hyn?

Ac, yn nes adref:

Mae pob crefydd yn chwennych heddwch. Dywedodd Iesu ‘Gwyn fyd y tangnefeddwyr’ (Mathew 5.9).

Sut ydym ni’n gweithredu fel tangnefeddwyr yn ein cymunedau ni?

Mae’r weddi hon wedi ei sylfaenu ar eiriau Sant Fransis:

Arglwydd, gwna fi’n offeryn dy hedd.
Lle mae casineb, boed i mi hau cariad,
Lle mae camwedd, maddeuant,
Lle mae amheuaeth, ffydd,
Lle mae anobaith, gobaith,
Lle mae tywyllwch, goleuni,
Lle mae tristwch, llawenydd.

O Feistr Dwyfol, caniatâ fy mod 
nid yn gymaint yn ceisio cysur, ond yn ei roi,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy neall, ond yn ceisio deall,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy ngharu, ond yn rhoi cariad;
oherwydd, wrth roi y derbyniwn,
wrth roi maddeuant y derbyniwn faddeuant,
wrth farw y deffrown i fywyd tragwyddol.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon