Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

10 Yn 2010

Helpu myfyrwyr i werthfawrogi arwyddocâd degawd newydd trwy fyfyrio ar y rhif 10 mewn bywyd o ddydd i ddydd, ac yn y Beibl, a rhoi ystyriaeth i’r hyn y mae’r Deg Gorchymyn yn ei olygu i ni heddiw.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu myfyrwyr i werthfawrogi arwyddocâd degawd newydd trwy fyfyrio ar y rhif 10 mewn bywyd o ddydd i ddydd, ac yn y Beibl, a rhoi ystyriaeth i’r hyn y mae’r Deg Gorchymyn yn ei olygu i ni heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cerdyn pen-blwydd i blentyn 10 oed a darlun o 10 Downing Street.

  • Raced tenis, darn 10 ceiniog, papur £10, a chlorian o ryw fath.

  • Beibl – mae’r Deg Gorchymyn i’w gweld yn Ecsodus 20.2–17 and Deuteronomium 5.6–21.

  • Gellir gweld fersiwn da o’r Deg Gorchymyn ar: http://www.fincher.org/quotes/TenCommandmentsForKids.shtml
  • Ar gyfer darllen cefndir perthnasedd y Deg Gorchymyn heddiw, rwy’n argymell Just 10 gan J. John (cyhoeddwyd gan y Philo Trust).

Gwasanaeth

  1. Wrth i ni ddechrau’r ddegawd newydd hon - dim ond deg oed yw’r 21ain ganrif (dangoswch y cerdyn pen-blwydd) - mae’n dda cymryd rhywfaint o amser (10 munud, efallai) i feddwl am yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, a meddwl tybed ble byddwn ni ar ddiwedd y 10 mlynedd nesaf: beth fyddwn ni wedi ei gyflawni, pa fath o bobl fyddwn ni, ble byddwn ni’n byw, a pha beth fyddwn ni’n ei wneud, o bosib. Ond yn gyntaf, gadewch i ni feddwl am y rhif 10.

  2. Rhif 10 Downing Street yw cartref y Prif Weinidog. Eleni, fe fydd etholiad cyffredinol ac, o bosib, Brif Weinidog newydd yn Rhif 10. Dewis rhydd pawb sydd wedi eu cofrestru a fydd yn penderfynu pwy fydd y Prif Weinidog nesaf. Rydym yn byw mewn gwlad ddemocrataidd, ac os ydych chi dros 18, fel y bydd pob un ohonoch erbyn diwedd y ddegawd nesaf, fe fydd hawl gennych chi i bleidleisio dros eich Aelod Seneddol lleol. Pa fath o wlad fyddech chi’n dymuno i Brydain fod ymhen 10 mlynedd? Trwy bleidleisio gallwch leisio’ch barn a chynorthwyo i benderfynu pa fathau o werthoedd cenedlaethol a pholisïau fydd yn cael effaith ar bob un ohonom.  Gadewch i mi eich annog i ddefnyddio’ch pleidlais pan ddaw’r cyfle.

  3. Mae pawb yma (o bosib) yn ffodus o gael 10 o fysedd a 10 o fodiau!  Dyna un o’r pethau cyntaf y bydd bydwraig yn edrych amdano, pan gaiff baban ei eni. Weithiau bydd rhai babanod yn gorfod cael llawdriniaeth i gael gwared â bys neu fodyn ychwanegol ar eu dwylo neu’u traed.

  4. A fydd y tîm pêl-droed yr ydych chi’n ei gefnogi ymysg y 10 tîm uchaf yn y gynghrair eleni? Gallwch feddwl bod y peth nesaf rydw i’n mynd i sôn amdano yn rhywbeth braidd yn smala, ond dyma raced Ten-is (ten - deg) ! Eleni, fel pob blwyddyn arall bydd twrnamaint Tenis Wimbledon yn cael ei gynnal. Tybed a fydd Andy yn aros ymhlith y 10 chwaraewr gorau yn y byd? Os gwnaiff, bydd yn parhau i ennill degau o filoedd o bunnoedd.

  5. Wrth sôn am arian, wyddech chi mai dim ond ers 1971 yr ydym wedi cael arian degol yn y wlad hon (hyd at y flwyddyn honno roeddem yn defnyddio punnoedd, sylltau a cheiniogau – 12 ceiniog mewn swllt ac 20 swllt mewn punt)? Arian degol yw’r enw a ddefnyddiwn i ddisgrifio unrhyw arian lle mae’r gymhareb rhwng yr unedau sylfaenol o arian yn cynyddu yn eu pwer fesul 10.  Yn y D.U. mae’r £1 yn cynnwys 100 is-unedau (ceiniogau). Ac mae 10 o 10 ceiniogau yn gwneud £1, felly bydd 100 o’r rhain (darnau 10c) yn cyfateb i un o’r rhain (papur £10). Heddiw, mae’r arian sydd ddim yn ddegol yn rhai sydd heb is-unedau o gwbl, ar wahân i (a) ouguiya Mauritius (1 ouguiya = 5 khoum), a (b) yr ariary o Madagascar (1 ariary = 5 iraimbilaja).

  6. Nawr, rwyf am siarad am bwysau.  Dangoswch y glorian. Dywedwch eich bod yn gobeithio nad ydych yn pwyso dros 10 stôn, oherwydd i chi gael eich temtio i fwyta mwy nag arfer dros y gaeaf, ac o ganlyniad y bydd raid i chi golli pwysau cyn yr haf. Eglurwch fod y rhan fwyaf o bobl yn parhau i feddwl am bwysau mewn stôn yn hytrach nag mewn kilo (degol) - ond gall hynny fod ar newid.  Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo i ddangos os ydyn nhw’n defnyddio stôn a phwysau neu yn defnyddio kilogramau erbyn hyn.

  7. Bydd athrawon fel rheol yn gosod profion gyda 10 o gwestiynau.  Bydd rhai myfyrwyr yn sgorio 10 allan o 10. Pan fyddwn yn sôn am bobl eraill, bydd ein barn amdanyn nhw yn cael ei fesur allan o 10. Mae rhai pobl yn credu bod Duw hyd yn oed yn rhoi sgôr allan o 10 i ni, yn ôl y ffordd byddwn ni’n ymddwyn.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr a oes rhai ohonyn nhw wedi clywed am y Deg Gorchymyn? A oes rhywun yn gwybod beth ydyn nhw, ac a ydyn nhw’n gallu enw rhai ohonyn nhw? (Mae’r rhestr gyflawn i’w gweld yn Ecsodus 20.2-17 a Deuteronomium 5.6-21.) 

    Rhestr o reolau neu ganllawiau yw’r Deg Gorchymyn a gafodd eu rhoi i bobl Dduw filoedd o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw’n dangos sut beth fyddai cymdeithas ddelfrydol, ac yn dangos sut y dylai pobl ymwneud â phobl eraill ar y Ddaear hon.  Maen nhw’n parhau’n berthnasol a phwerus hyd heddiw.  I sawl gwlad, yn cynnwys Prydain, maen nhw’n parhau i fod yn sylfaen deddfau statudol a gwerthoedd cenedlaethol.

Amser i feddwl

Darllenwch y Deg Gorchymyn.  Gadewch i’r myfyrwyr feddwl drostyn nhw am ychydig funudau, a meddwl am y rhai y maen nhw’n eu cael yn anodd eu deall. Yna, gofynnwch iddyn nhw feddwl am y rhai y maen nhw’n eu cael yn anodd ufuddhau iddyn nhw.

Wrth i ni feddwl am y gorchmynion hyn, meddyliwch am un gorchymyn y byddwch chi’n ceisio ei gadw heddiw, efallai un gorchymyn y byddwch yn ei gael yn anodd cadw ato. Meddyliwch am sefyllfaoedd pryd y byddai’n anodd cadw at y gorchymyn hwnnw, a chynlluniwch strategaeth i’ch helpu i’w gadw. 

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon