Ynghylch Democratiaeth
Archwilio cysyniad democratiaeth, ac annog y myfyrwyr hynaf i ymarfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Archwilio cysyniad democratiaeth, ac annog y myfyrwyr hynaf i ymarfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr luniau o arweinwyr y gwahanol bleidiau gwleidyddol.
- Fe fydd arnoch chi angen cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl, a cherddoriaeth addas yn gefndir i’ch myfyrdod.
Gwasanaeth
- Yn achos y rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop, gwasanaethu’r bobl yw swyddogaeth y wladwriaeth. Mae hyn yn ffodus yn wir - mae’r wladwriaeth yn nerthol dros ben, a gall ddefnyddio swm enfawr o rym i amddiffyn ei dinasyddion. Fodd bynnag, un cwestiwn sydd wedi peri syndod i wyddonwyr gwleidyddol ac athronwyr dros filoedd o flynyddoedd yw bod y grym hwnnw’n gallu cael ei wyrdroi a’i ddefnyddio er budd unigol gan leiafrif nerthol, ar draul y mwyafrif. Nid oes raid edrych ymhellach na’r papur newydd dyddiol i weld hyn yn digwydd heddiw.
- Un rheswm pam fod gwladwriaethau Ewrop a Gogledd America, yn neilltuol, heb ildio i’r ffenomen hon yw’r ffaith bod democratiaeth yn cael lle amlwg yn y gwladwriaethau hynny. Dyna un ddadl dros ddemocratiaeth. Mae llawer mwy. Mae’n hollol amlwg ei bod hi’n deg fod pobl yn cael penderfynu pwy sy’n cael cymryd y penderfyniadau drostynt. Os yw’r llywodraeth yn methu â gwireddu’r gobeithion hynny oedd yn rheswm dros eu hethol, fe all hi gael ei hamnewid. Yn wir, mae’n anodd dadlau yn erbyn rhyw ffurf o ddemocratiaeth. Os yw grwp o bobl gyda’i gilydd yn penderfynu bod democratiaeth yn beth drwg ac y dylid ei amnewid, maen nhw’n ymarfer ewyllys democrataidd ac felly’n dewis pa fath o gymdeithas y maen nhw’n dymuno byw ynddi.
- Mae gwrthblaid, felly, yn seiliedig ar ffurfiau neilltuol o ddemocratiaeth. Delfryd yw democratiaeth, delfryd o ffurf o reoli cenedl trwy lywodraeth sydd wedi ei hethol yn unol ag ewyllys pobl y genedl honno. Mae gwahanol systemau yn bodoli i geisio dal a dylanwadu ar yr ewyllys honno. Ym Mhrydain yr ydym yn ethol cynrychiolwyr i leisio barn eu cymunedau. Bydd grwp o arweinwyr hyn yn cymryd gofal o rannau neilltuol o’r llywodraeth, fel iechyd, addysg, amddiffyn a thrafnidiaeth. Maen nhw’n cydweithio â gweithwyr sifil, pobl sydd heb fod yn etholedig, er mwyn cyflawni’r nodau hynny a addawodd y blaid, sy’n ffurfio’r llywodraeth, ymgodymu â nhw, yn ystod yr ymgyrchoedd etholiadol. Beth bynnag yw eich barn am y llywodraeth bresennol, mae yna rinweddau i’r system.
- Wrth gwrs, nid yw democratiaeth yn berffaith. Gall ewyllys y bobl gael ei newid trwy gyfrwng propaganda, a bydd rhesymeg weithiau’n cael ei gymylu gan emosiwn. Yn fwy na hynny, nid pob amser y gwna’r bobl y dewis gorau. Ni ddylai unrhyw ladmerydd dros ddemocratiaeth anghofio bod Hitler wedi cael ei ethol trwy’r union broses, er nad oedd y system wleidyddol yn yr Almaen yr adeg honno ond yn rhannol ddemocrataidd. Mae Democratiaeth yn fregus: gall gymryd blynyddoedd lawer i’w hadeiladu a gellir ei dinistrio ar amrantiad.
- Yn wir, mae’n hollol bosibl y gallai llywodraeth Brydeinig, o fod wedi colli’r hawl i lywodraethu trwy bleidlais, wrthod rhoi’r awenau i blaid arall. Pe byddai’r llywodraeth yn rheoli’r fyddin a’r heddlu, byddai’n anodd iawn eu disodli. Fodd bynnag, pe byddai llywodraeth yn ceisio gwneud hynny, y posibilrwydd yw na fyddai’r heddlu a’r lluoedd milwrol yn ufuddhau i’w gorchmynion a byddai’r gwrthryfel yn methu. Pam y bydden nhw’n gwneud hynny? Y rheswm yw na fydden nhw’n edrych ar y llywodraethiad hwnnw fel un cyfreithlon.
- Dyna beth sy’n rhan hardd a gwerthfawr ynghylch ddemocratiaeth : mae'n cynhyrchu’r gred bod dymuniadau’r bobl yn werthfawr ac yn cynrychioli hawl i lywodraethu. Gydag ethos o’r fath, mae’r posibilrwydd o gael llywodraeth sy’n wir annymunol yn rhywbeth annhebygol. Hyd yn oed os yw’r bobl weithiau yn gwneud dewis anghywir, byddai’r ethos hwnnw yn werth ymladd drosto.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll a chwaraewch gerddoriaeth addas ar gyfer myfyrio.
Meddyliwch am y system yr ydym yn byw ynddi, y system ddemocrataidd sy’n caniatáu i bawb sydd dros ddeunaw oed fod yn rhan ohoni trwy bleidlais.
Meddyliwch am yr agweddau ar waith y llywodraeth yr ydych yn cytuno â nhw.
A meddyliwch am yr agweddau hynny yr ydych chi’n ei chael hi’n anodd eu derbyn.
Pan fyddwch yn pleidleisio, byddwch yn cyfrannu at fywyd y wlad gyfan, i’n cymdeithas ac i’ch cymuned leol.
Gweddi
Rhoddwn ddiolch am ein democratiaeth.
Boed i ni gyfranogi ohono mewn balchder,
a gwerthfawrogi ein cyfrifoldeb a’n rhyddid.
Cerddoriaeth
Byddai dewis o gerddoriaeth glasurol yn fwy addas ar gyfer y gwasanaeth yma.