Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Iau Dyrchafael

Egluro ystyr y Dyrchafael, yr adeg y gadawodd Iesu ei ddisgyblion gan roi cyfarwyddiadau arbennig iddyn nhw.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Egluro ystyr y Dyrchafael, yr adeg y gadawodd Iesu ei ddisgyblion gan roi cyfarwyddiadau arbennig iddyn nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Eleni, mae Dydd Iau Dyrchafael ar 13 Mai.

  • Darlleniad o’r Beibl: Mathew 28.19 - 20.

Gwasanaeth

  1. Tybed a oes rhywun wedi dweud wrthych chi ryw dro fod yn rhaid i chi wneud rhywbeth arbennig?  Er enghraifft, fe fydd rhywun wedi dweud wrthych chi heddiw bod eisiau i chi ddod i’r gwasanaeth yma, ac eistedd yn ddistaw.  A ydych wedi clywed eich mam neu’ch tad yn dweud, ‘Fe hoffwn i ti wneud hyn i mi cyn i mi ddod yn ôl’? A yw eich nain neu eich taid, neu hyd yn oed rhyw berthynas arall, wedi dweud wrthych chi, ‘Gwna dy orau nes y byddaf yn dy weld di eto’? Rwy’n siwr eich bod chi.

  2. Yn ein hachos ni oedolion hefyd, mae rhywrai o hyd yn dweud wrthym beth i’w wneud. Yr enw ar hynny yw cyfarwyddiadau.  Er mwyn dysgu gyrru cerbyd mae angen cael hyfforddwr gyrru.  Os am ddysgu nofio bydd angen hyfforddwr nofio arnoch chi. Ar gyfer unrhyw beth nad ydych wedi ei wneud o’r blaen, byddwch angen rhywfaint o hyfforddiant a rhywun i roi cyfarwyddiadau i chi. Byddwn yn prynu llawer o bethau sydd â chyfarwyddiadau yn dod gyda nhw, pethau fel peiriant gochi, ffonau symudol a chyfrifiaduron. Efallai y bydd y rhaid i ni dreulio cryn dipyn o amser yn edrych ar y cyfarwyddiadau er mwyn i ni gael gwybod sut mae rhywbeth yn gweithio, neu er mwyn gweld sut i roi’r pethau at ei gilydd. Bydd oedolion yn cael hwyl am ben dodrefn ‘flat pack’sy’n cynnwys cyfarwyddiadau annealladwy neu sydd bron yn amhosib eu dilyn!

  3. Dywedir bod bywyd hefyd yn dod gyda chyfres o gyfarwyddiadau. Gadawodd Iesu rai cyfarwyddiadau i’w ddisgyblion cyn iddo ymadael â nhw a mynd i’r nefoedd i fod gyda Duw. Byddwn yn cofio am hynny ar yr Wyl Gristnogol y Dyrchafael. 

    Mae Dydd Iau'r Dyrchafael yn cael ei ddathlu union 40 diwrnod yn dilyn Sul y Pasg, ac ar ddydd Iau bob amser yn y chweched wythnos wedi’r Pasg.  

  4. Wrth i ni feddwl am y gair Dyrchafael, beth yn union yr ydych yn ei wneud pan fyddwch yn dyrchafu? Rydych yn mynd i fyny, fel dringo mynydd.  Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei ddyrchafu - wedi mynd i fyny - i’r nefoedd i fod gyda Duw.

  5. Cyn i Iesu fynd i fyny i’r nefoedd rhoddodd nifer o gyfarwyddiadau pwysig i’w ddisgyblion. Mae’n dweud wrthyn nhw ei fod eisiau iddyn nhw fynd allan i’r byd a dysgu pawb am newyddion da’r Efengyl. Dyma’r hyn a welwn yn Mathew (28.19–20): 

    ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblon o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi.  Ac yn awr, yr wyf gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.’

  6. Yr hyn efallai sydd o bwysigrwydd mawr yw bod Iesu yn dweud wrthyn nhw y bydd ef gyda nhw.  Felly, er bod Iesu wedi cael ei ‘ddyrchafu’, fydd o ddim yn gadael y disgyblion. Fel rheolwr tîm pêl-droed sy’n sefyll ar y llinell ochr, neu hyfforddwr gyrru sy’n eistedd wrth eich ymyl yn y modur, neu fel athro neu athrawes sy’n gweithio gyda chi. Efallai hyd yn oed fel nofis o awyrblymiwr (skydiver), sydd wedi cael ei glynu’n sownd yn ei hyfforddwr wrth i’r ddau gamu allan o awyren i’r gwagle islaw. 

    Felly, y tro nesaf y byddwch yn derbyn cyfres o gyfarwyddiadau, cofiwch y byddan nhw’n gymorth i chi i gael pethau mewn trefn, yn union fel dilynwyr yr Iesu. 

Amser i feddwl

Caniatâ i mi weld bod yna gyfarwyddiadau i’m helpu innau.
Gad i ni gofio’r cyfarwyddiadau a adawodd Iesu i ni
A chofio ei fod ef gyda ni bob amser, er na allwn ni ei weld.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon