Goroeswyr
Meddwl beth mae’n ei olygu i oroesi, ac i fod eisiau goroesi.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl beth mae’n ei olygu i oroesi, ac i fod eisiau goroesi.
Paratoad a Deunyddiau
- Ewch i’r wefan http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/8459090.stm i ddod o hyd i hanesion am y daeargryn yn Haiti. Dewiswch rai y credwch chi eu bod yn addas i’w dangos. Fe allech chi ofyn i rai o’r myfyrwyr eu darllen.
Gwasanaeth
- Rwy’n siwr y bydd pob un ohonoch yn cofio am y delweddau neu’r lluniau brawychus ddaeth atom o Ynys Haiti yn y Caribî yn dilyn y daeargryn mawr fu yno ym mis Ionawr 2010. Faint ohonoch sydd wedi bod ar eich gwyliau yng Ngweriniaeth Dominica, efallai, ac oedd yn gwybod mai Haiti oedd y wlad nesaf i’r gyrchfan wyliau adnabyddus honno? Cawsom ein cyffwrdd i gyd gyda’r lluniau o’r marwolaethau a’r chwalfa a achoswyd gan y daeargryn.
Un ddelwedd sydd yn aros ar gof llawer ohonom yw’r un o’r baban bach iawn hwnnw oedd wedi cael ei adael ymhlith pentwr o gyrff meirw eraill, heb neb i’w hawlio na neb i alaru drosto, fel llawer o’r bobl eraill yn y trychineb hwnnw pryd y collodd tua 200,000 o bobl eu bywydau. - Er gwaethaf popeth, hyd yn oed ymhlith y meirw roedd bywyd - bywyd taer, yn anadlu â chalon yn curo’n gyflym. Gwrandewch ar rai o’r storïau o obaith, goroesiad ac achubiaeth wyrthiol gan bobl a oroesodd y daeargryn.
Adroddwch rai o storïau’r unigolion a wnaeth oroesi, neu gofynnwch i’r myfyrwyr eu darllen nhw. Gallwch ofyn, beth sy’n gwneud y bobl hyn yn rhai lwcus? Sut y gwnaethon nhw oroesi pan fu farw cymaint o bobl eraill?
Mae yna gyflwr seicolegol sy’n cael ei alw’n ‘euogrwydd y goroeswr’, sy’n digwydd pan yw person yn cael y teimlad hwnnw sy’n dweud wrtho ef neu wrthi hi nad yw’n iawn eu bod nhw wedi goroesi digwyddiad trawmatig pan yw cymaint o bobl eraill, weithiau yn agos atyn nhw wedi marw. Yn dilyn y tsunami ar ddydd San Steffan yn 2004, bu raid i lawer o’r rhai a wnaeth oroesi dderbyn gwasanaeth cwnsela i ddod i delerau â’r math yma o deimladau. - Yn Haiti, cafwyd hyd i bobl yn fyw, ddyddiau, a hyd yn oed wythnosau ar ôl y daeargryn cychwynnol. Disgrifiwyd goroesiad y bobl hyn fel rhywbeth gwyrthiol. Diffiniad llythrennol o wyrth fel ‘effaith neu ddigwyddiad anghyffredin yn y byd ffisegol sydd yn gyfan gwbl y tu hwnt i ddealltwriaeth ddynol ac sy’n cael ei osod ymhlith achosion goruwchnaturiol’. Mae’n rhywbeth sy’n torri ar reolau natur, sy’n anesboniadwy, ac sydd weithiau yn cael ei briodoli i Dduw.
- Ar un adeg roedd rhai rhesymau clir i egluro pam yr oedd pobl yn goroesi. Efallai eu bod wedi cael eu dal mewn lleoedd ble roedd pocedi o aer, neu fod cyflenwad o ddwr wrth law a bod eu hanafiadau ddim cynddrwg ag anafiadau rhai pobl eraill.
Fodd bynnag, un peth nad yw hyn yn ei egluro, ac na ellir ei brofi, yw ysbrydoliaeth ac ewyllys yr unigolyn i oroesi. Dyma’r ewyllys, neu’r frwydr, i fyw. Nid oes yr un ohonom yn gwybod pa mor rymus yw’r mecanwaith i oroesi hyd nes y byddwn yn wynebu’r prawf mewn gwirionedd. Rydych yn gwrthod ildio ac yn gwrthod cael eich gadael i farw ar ben eich hun o dan y rwbel. Felly, rydych chi’n gweiddi, yn taro pethau, yn canu caneuon neu’n gwneud unrhyw beth arall er mwyn i rywun allu eich clywed chi. Cafodd un eneth fach ei hachub pan oedd gohebydd yn digwydd bod yn ffilmio yn ymyl y mae lle’r oedd hi’n gaeth. Fe wnaeth y gohebydd ei chlywed yn galw a dechrau tyllu i’w rhyddhau. - Gall ffydd gadarn fod yn ffynhonnell o ewyllys i oroesi. Roedd nerth y ffydd oedd gan y bobl y byddai Duw yn eu hachub yn syfrdanol yn rhai o’r storïau achub ddaeth o Haiti. Roedden nhw’n credu yng ngrym gweddi y byddai Duw yn anfon rhywun i’w hachub. Y syniad sydd ynghlwm wrth hynny yw’r syniad nad ydych wedi cael eich gadael ar ôl.
Ena Zizi oedd un o’r rhai a gafodd ei thynnu allan o’r rwbel yn fyw. ‘Fe wnes i siarad efo’m bos yn unig, Duw,’ meddai, ‘a doedd dim angen bod dynol arall.’ Mae’n ymddangos yn rhyfeddol bod ffydd a chred wedi gallu cadw pobl yn gryf. Wnaethon nhw ddim eistedd i roi’r bai ar Dduw am y ffaith eu bod yn gaeth. Wnaethon nhw ddim rhoi’r bai ar yr adeiladau nac ar y bobl a gododd yr adeiladau hynny gan ddweud nad oedden nhw’n ddiogel i fyw ynddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddefnyddio’u ffydd i’w cryfhau, ac i roi cyflenwad wrth gefn iddyn nhw o nerth a gwytnwch nad oedden nhw’n ymwybodol o’i fodolaeth; ac iddyn nhw, fe ddaeth oddi wrth Dduw. Roedd hi’n fater o godi’r ysbryd yn uwch na’r materol, a chael y teimlad, hyd yn oed pan oedd y gobaith o gael achubiaeth yn fach iawn, doedd yna ddim rheswm dros ildio a marw.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y rhai hynny a oroesodd ar ynys Haiti.
Pan fydd pethau’n mynd yn anodd i ni, gadewch i ni gofio’r bobl hynny gafodd eu tynnu o’r rwbel yn fyw. Gadewch i ni dynnu nerth o’r nerth sydd ganddyn nhw, a rhyfeddu at wyrth eu ffydd a gwyrth eu goroesiad.
Gweddi
Dduw Hollalluog,
Ti yw Tad y trugareddau.
Ti yw Arglwydd tosturi.
Ti yw Ysbryd anogaeth.
Ti yw gwaredwr nerth a rhoddwr bywyd.
Helpa ni i gael nerth oddi wrth y rhai hynny sy’n dangos i ni eu ffydd ar waith.
Cerddoriaeth
Fe allech chi chwarae un o’r traciau cerddoriaeth a ryddhawyd er budd apêl Haiti.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.