Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symud Ymlaen

Helpu’r myfyrwyr i ddelio â’r adegau rheini yn eu bywydau pan fydd rhaid iddyn nhw ‘symud ymlaen’.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddelio â’r adegau rheini yn eu bywydau pan fydd rhaid iddyn nhw ‘symud ymlaen’.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Defnyddiwch y wefan asiantaeth dai i ddangos i’r myfyrwyr sut y byddech yn mynd ati i chwilio am dy - a chael hyd i eiddo eich breuddwydion! Gwnewch hyn yn rhyngweithiol trwy ofyn i wahanol fyfyrwyr gynnig i chi feini prawf y byddech chi’n eu hystyried wrth chwilio am dy. Adroddwch wrthyn nhw am eich profiad personol am adeg pryd y gwnaethoch chi symud ty.  

  2. Pa un ai wrth symud ty, symud ysgol neu hyd yn oed wrth symud i wlad arall, mae yna adegau’n aml yn ein bywyd, pryd y byddwn yn cael y teimlad o orfod symud ymlaen. Sut deimlad yw hynny i chi, o orfod symud ymlaen? Cynhyrfus? Cyffrous? Digalon? Pryderus? Ofnus?

  3. Mae peidio â symud ymlaen yn teimlo fel yr opsiwn diogel ambell waith, ond mewn difrif gall hynny fod yn ddrwg iawn i ni. Fe wnaeth gwyddonwyr arbrawf un tro lle’r oedden nhw wedi gosod ameba, organeb un gell fach iawn, mewn safle delfrydol o amgylchedd cyfforddus a  di-straen.  Nid oedd angen iddo newid na gwneud unrhyw addasiadau o unrhyw fath, er hynny bu’r ameba farw. Pam? Oherwydd y mae hyd yn oed amoeba angen rhywfaint o newid a her, yn union fel y mae angen bwyd a dwr arnom ni. Gall byd rhy gyfforddus ein lladd ni!

  4. Efallai eich bod wedi clywed am grancod meudwyol (hermit crabs). Maen nhw’n cael hyd i gragen sy’n eu ffitio nhw, yna’n byw ynddi nes y byddan nhw’n tyfu’n rhy fawr iddi.  Ydych chi’n gwybod beth mae’r cranc yn ei wneud wedyn? Mae’n gadael y gragen sydd wedi mynd yn rhy fach iddo ac yn symud yn sydyn o amgylch llawr y môr i chwilio am gragen fwy i fyw ynddi, cyn i rywbeth ddod heibio iddo a’i fwyta! Yn ystod ei fywyd, bydd y cranc yn mynd trwy’r broses hon nifer o weithiau.

  5. A ydych chi’n dal eich gafael mewn rhyw ddilledyn sydd bellach ddim yn eich ffitio, dim ond am ei fod yn gyfforddus? Os ydych am aeddfedu’n bersonol mae’n ofynnol i chi fentro allan o’ch hafan gysurus a symud ymlaen, hyd yn oed os yw hyn yn golygu delio â thipyn bach o anawsterau. Efallai eich bod yn rhy hen i fod yn aelod o glwb, neu wedi rhoi’r gorau i ryw hobi, efallai y byddwch am ail-edrych ar berthynas sydd gennych neu newid rhyw ymddygiad sy’n profi’n ddinistriol.  Waeth beth, peidiwch â setlo ar fod yn rhy sefydlog a braf eich byd, fel nad ydych chi’n barod i adael i rai pethau fynd, a symud ymlaen pan fydd raid i chi.

  6. Mewn bywyd, byddwn weithiau yn dod wyneb yn wyneb â rhwystrau fydd yn ceisio’n hatal rhag symud ymlaen yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, a hyd yn oed yn ysbrydol. Weithiau gall ddigwydd oherwydd ein bod ni wedi gadael rhywle cyfarwydd, neu ein bod wedi cael profiad o golli un annwyl i ni, wedi cael anaf neu afiechyd, neu fod ein perthynas gyda rhywun wedi chwalu.  Cyn gallu symud ymlaen, rhaid i chi wneud tri pheth:

    (1) Maddau i’r rhai hynny sydd wedi’ch brifo chi.  Peidiwch â gadael i’r gorffennol eich rheoli chi.  Yn y stori The Lion King, rhaid i’r llew ifanc Simba hepgor rhywbeth sydd wedi digwydd yn ei orffennol – sef marwolaeth ei dad – digwyddiad y mae ef yn teimlo’n euog o’i achosi (ei ewythr cas Mufasa oedd wedi dweud wrtho mai ef oedd yn gyfrifol). Yn y stori, mae Simba yn rhedeg i ffwrdd ac yn gwrthod wynebu ei orffennol. Ond, gyda chymorth ei ffrindiau Timon a Pumbaa, a’i gariad bore oes Nala, mae’n dychwelyd i gymryd ei le fel y llew frenin y bwriadwyd iddo fod.

    (2) Cyffesu eich camgymeriadau, cyfaddef eich bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, edifarhau a derbyn maddeuant. 

    (3) Rhoi rhywbeth yn ôl trwy helpu eraill i ddelio â’u trafferthion. Bod yn garedig gyda phobl nad ydych o bosib yn eu hoffi, oedolion a phlant bach yn ogystal â phobl o’r un oed â chi.

Amser i feddwl

Wrth i ni nesu at ddiwedd blwyddyn ysgol arall, a fydd hefyd i rai ohonoch chi yn flwyddyn olaf yn yr ysgol, peidiwch â chanolbwyntio’n unig ar yr hyn y byddwch chi’n ei adael ar ôl.
Meddyliwch am yr hyn y byddwch yn ei gymryd gyda chi pan fyddwch chi’n ymadael: rhai atgofion da, gobeithio.
Efallai y byddwch chi’n gweld eich bod wedi ennill hyder, hunanwerth, doethineb a ffydd ar gyfer y sialens nesaf sydd o’ch blaen.
Dysgwch o’r hyn sydd wedi digwydd a symudwch ymlaen.
Ydych chi’n barod i wynebu pethau mwy?
Pan fydd hi’n amser symud ymlaen fe ddigwydd hynny, fel i’r cranc meudwyol, oherwydd bod yno gragen arall allan fan draw sydd yn eich ffitio chi’n well.
Ond allwch chi ddim symud i’ch cragen newydd nes y byddwch chi wedi ymadael â’r hen un.
Cofiwch fod mwy o’ch blaen nag sydd y tu ôl i chi - mae’r gorau i ddigwydd eto!

Gweddi
Wrth i chi feddwl am y cam nesaf yn eich bywyd,
Boed yn ddosbarth newydd neu fywyd newydd tu allan i’r ysgol,
Ystyriwch yr holl bethau da y byddech yn hoffi eu cymryd gyda chi.
Gadewch i’r hen ddigwyddiadau, sy’n eich dal chi’n ôl, fynd.
Ac edrychwch i fyny wrth i chi wynebu’r dyfodol!

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon