Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grym Syniadau

Dathlu rhai dyfeisiadau pwysig.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu rhai dyfeisiadau pwysig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen siart troi neu fwrdd gwyn.

  • Dewisol - Cyflwyniad PowerPoint o hoff bethau technolegol yr oes hon.

  • Fe allech chi chwarae cerddoriaeth i greu awyrgylch wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, ac wedyn wrth iddyn nhw ymadael.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr enwi eu hoff ddyfeisiau, er enghraifft: Teledu, iPod, Nintendo Wii. Gallwch drefnu sioe sleidiau ‘PowerPoint’ i ddangos gwahanol ddyfeisiadau.

  2. O ble, dybiwch chi, y mae syniadau da yn dod?  (Neilltuwch amser ar gyfer meddwl ac ateb.) Trwy hanes, mae’r byd wedi cael ei fendithio gan bobl oedd wedi eu hysbrydoli i’r fath raddau fel bod eu syniadau wedi newid ein bywydau i gyd.  Gadewch i mi roi un neu ddwy o enghreifftiau i chi, ond mae yna lawer mwy.

  3. Dyfais 1. Am ganrifoedd, yr oedd llawdriniaethau yn cael eu gwneud heb unrhyw fodd o leddfu’r boen. Cyflwynodd meddyg o’r Alban, o’r enw James Young Simpson, rywbeth yr oedd ef yn ei alw’n ‘gwsg artiffisial’.  A fedrwch chi ddyfalu beth a ddyfeisiodd? Anaesthesia - lleddfwr poen sy’n caniatáu i lawfeddygon wneud triniaethau’n effeithiol. Fyddech chi’n fodlon i feddyg roi llawdriniaeth i chi hebddo? Heb anaesthetig?!
    Roedd gan Simpson ddiddordeb mewn llawdriniaethau, ond roedd yn gweld y boen arteithiol a’r raddfa uchel o farwolaethau oedd yn digwydd wrth eu gwneud. Roedd Simpson yn Gristion a darllenodd yn ei Feibl y stori honno am Adda ac Efa: ‘Yna parodd yr Arglwydd Dduw i drwmgwsg syrthio ar ddyn’ (Genesis 2.21). 

    Darganfyddodd Simpson fod cemegyn o’r enw clorofform yn gallu rhoi pobl i gysgu. Yn y lle cynaf, fe arbrofodd gyda’r cemegyn arno’i hun, gan arbrofi gyda gwahanol ddosau oedd yn angenrheidiol i beri i unigolyn syrthio i gyflwr anymwybodol am gyfnod o amser priodol. Yn 1847 cafodd y tair llawdriniaeth gyntaf eu gwneud gan ddefnyddio clorofform. Ar y dechrau fe brofodd y meddyg ifanc dipyn o wrthwynebiad. Fodd bynnag, wedi i’r Frenhines Victoria roi genedigaeth i’w hwythfed plentyn gyda chymorth clorofform, fe fynegodd ei bod hi yn fodlon iawn - ‘greatly pleased with its effect’ - a chafodd defnyddio clorofform ei dderbyn yn eang ar gyfer llawdriniaethau, a bu’n gymorth i filiynau o bobl drwy’r byd. 

    Dyfais 2. Yn 1824, dyfeisiodd  Ffrancwr system o ddotiau gwrymiog ar bapur, a oedd yn caniatáu i’r deillion, a rhai oedd yn rhannol ddall, allu darllen am y tro cyntaf erioed, gan ddatgloi cymaint o agweddau ar addysg iddyn nhw. Erbyn heddiw, mae’r system wedi cael ei haddasu ar gyfer bron pob iaith sy’n bodoli. Pa ddyfais yw hon? Braille. Mae’r ddyfais wedi ei henwi ar ôl y sawl â’i dyfeisiodd, Louis Braille.

  4. Efallai fod yna bethau yr ydych wedi clywed amdanyn nhw sy’n digwydd yn y gymdeithas heddiw sy’n peri pryder i chi. Beth allech chi wneud yn eu cylch?

    Ydych erioed wedi meddwl am y talentau a’r doniau sydd gennych chi, a’r modd y gallwch chi eu defnyddio? Penderfynwch ar y peth yr ydych yn gallu ei wneud orau a gwnewch y peth hwnnw! 

    Fe glywsoch chi sôn am Thomas Edison, y dyfeisiwr a ddyfeisiodd (ymhlith pethau eraill) y bwlb golau trydan. Fe osododd Thomas Edison nod iddo’i hun. Roedd yn awyddus i ddyfeisio rhywbeth pwysig iawn bob chwe mis, a rhywbeth llai pwysig bob deng niwrnod. Pan fu farw, roedd ganddo1,093  o batentau i’w enw! Fe ddarganfyddodd Edison yr hyn yr oedd yn ei wneud orau, ac fe lynodd at hynny.

  5. Un cyngor da i chi yw dechrau yn y fan lle’r ydych chi ar hyn o bryd. Yn union fel gyda thaith o 1,000 o filltiroedd, mae’r ffordd sy’n arwain at lwyddiant yn cychwyn gyda’r cam cyntaf.  Dyma gam o ffydd.

Amser i feddwl

Mae pawb yn meddu ar dalentau gwahanol, ond mae pob un ohonom o bryd i’w gilydd yn cael syniadau sy’n fodd i wneud y byd yn well lle.
Peidiwch â chymharu eich hun ag eraill a meddwl nad ydych yn ddigon talentog.
Nid faint o ddawn neu dalent sydd gennych chi sy’n bwysig, ond y modd yr ydych yn mynd ati i ddefnyddio’r un dalent efallai sydd gennych chi.
Pa beth ydych chi’n gallu ei wneud yn dda? Canolbwyntiwch ar y peth hwnnw a bydd yn eich arwain i fywyd cyflawn iawn a llwyddiant. 
Gall un syniad newid cymaint. Heddiw, gosodwch sialens i chi’ch hun i feddwl am syniad fydd yn fendithiol i eraill. Yna gweithredwch ar y syniad hwnnw!
Does dim terfyn ar syniadau da, a byddwch yn rhyfeddu at yr hyn all ddigwydd!
Os oes gennych chi ffydd, gofynnwch i Dduw eich helpu.

Gweddi
Diolch am roi syniadau i bobl, a’r gallu i wneud iddyn nhw ddigwydd,
i ddyfeisio meddyginiaethau newydd, dyfeisio pethau ym myd technoleg, busnesau, elusennau, cerddoriaeth a phob math o bethau eraill.
Rho ysbrydoliaeth i ni gael syniadau newydd a fydd yn gymorth ac yn fendith i eraill.
Gad i ni weld a defnyddio’n talentau a’n doniau i’r eithaf.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon