Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Leaving

Edrych yn ôl dros y flwyddyn sydd wedi bod, a meddwl am eich bywyd fel profiad o ddysgu parhaus.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Edrych yn ôl dros y flwyddyn sydd wedi bod, a meddwl am eich bywyd fel profiad o ddysgu parhaus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl, a cherddoriaeth addas fel y gallwch chi fyfyrio wrth wrando arni.

  • Cerddoriaeth a awgrymir: ‘The Power of Goodbye’ gan Madonna (oddi ar yr albwm Ray of Light).

Gwasanaeth

  1. Mae’n ddiwedd y flwyddyn ysgol, ac fe fydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n symud ymlaen i ddosbarth neu flwyddyn arall y tymor nesaf. Fe fydd rhai ohonoch chi’n gadael yr ysgol yn gyfan gwbl. Fe fydd hynny’n newid mawr i bawb, ac fe ddylen ni i gyd sylweddoli hynny.

    Dydi bywyd ddim yn aros yn ei unfan, ond mae’n mynd yn ei flaen fel pe byddech chi mewn dawns. Er mor braf, efallai, yw eich bywyd ar hyn o bryd, mae’n rhaid newid a symud ymlaen. Mae pobl yn tyfu’n hyn ac mae eu personoliaeth yn newid ac yn tyfu. Ochr yn ochr â hyn, fe fydd ein hamgylchiadau’n newid hefyd.

  2. Dim ond am 13 o flynyddoedd y mae eich gyrfa yn parhau yn yr ysgol. Mewn oes gyfan, ychydig iawn o amser yw hynny. Eto, mae’n bwysig iawn nodi diwedd pob blwyddyn ysgol. Mae eich addysg yn newid cymaint gyda phob blwyddyn, fel yn wir y mae eich cymeriad hefyd. Yn anad dim, mae diwedd pob blwyddyn yn gyflawniad. Un flwyddyn arall wedi dod i ben. Un flwyddyn yn llai i fynd eto. Gwaith blwyddyn drosodd.

  3. Ond gyda phob blwyddyn mae’r gwaith yn mynd yn fwy anodd. Nid rhywbeth i fod yn anniddig yn ei gylch yw hynny, ond rhywbeth i’w ddathlu. Rydych chi’n tyfu’n hyn ac rydych chi’n dod yn fwy gwybodus. Mae eich ymennydd yn datblygu ac yn dod yn fwy  soffistigedig yn y ffordd y mae’n prosesu eich dysgu. Rhaid i’ch addysg adlewyrchu hynny. Mae hyd yn oed y rhai hynny sy’n ymadael â’r ysgol yn symud ymlaen i gyfnod arall, cyfnod anoddach efallai, ond cyfnod fydd yn dod â gwobr ar ei ddiwedd gobeithio. Wrth i chi fynd yn hyn, mae’r cyfrifoldeb rydych chi’n ei gael, a’r ymreolaeth y mae disgwyl i chi ei dangos, yn tyfu. Mae angen dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud, ond peth arall yr un mor werthfawr yw’r disgwyliadau newydd sy’n cael eu gosod arnoch chi.

  4. Fe fydd y rhai sy’n gadael yr ysgol am y tro olaf o bosib yn gorfod ‘goddef’ (yn dibynnu ar eich safbwynt wrth gwrs!) rhyw ddawns ddefodol neu noson ffurfiol o ryw fath. Wrth gwrs, mae’n bwysig cael cyfle i weld pawb unwaith eto am y tro olaf. Mae atgofion da yn werth llawer mwy na rhai sâl, ac mae eich cyd-ddisgyblion yn haeddu cael eu gweld ar eu gorau. Blwyddyn arall drosodd; ond mae bywyd yn brofiad dysgu ar ei hyd. Os oes rhai ohonoch chi’n meddwl eich bod wedi cael gorffen gyda dysgu am byth, meddyliwch eto!

  5. Bydd y rhai hynny ohonoch chi sy’n mynd ymlaen i’r chweched dosbarth, ac wedyn i’r brifysgol, yn graddio yn y brifysgol honno ar derfyn eich cwrs. Fe fyddwch chi, ar ôl gweithio’n ddyfal iawn am dair neu bedair blynedd, yn cael eich anrhydeddu mewn seremoni raddio. Fe allai hynny ymddangos yn fawr o ddim ar ôl gweithio mor galed. Wedi’r tair neu’r pedair blynedd o waith anodd, beth gewch chi ond darn o bapur a chael ysgwyd llaw â rhywun enwog, a chithau wedi’ch gwisgo mewn clogyn a het od ac anghyfforddus. Er hynny, fel y gall unrhyw un sydd wedi bod trwy seremoni o’r fath, nid beth rydych chi’n ei gael gan yr unigolyn ar y llwyfan y diwrnod hwnnw sy’n bwysig. Yr hyn sy’n cyfrif yw beth rydych chi eisoes wedi’i gyflawni. Ac mae hynny’n wir am bob un ohonoch chi sy’n symud ymlaen i flwyddyn ysgol arall: nid yn gymaint rhoi mwy o gyfrifoldeb a chyflawniad i chi yr ydym ni, ond yn hytrach cydnabod eich bod chi eisoes yn berchen ar y cyfrifoldeb hwnnw ac wedi llwyddo yn eich cyrhaeddiad.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a chwaraewch gerddoriaeth addas i fyfyrio yn ei sain.)

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl sut un oeddech chi’r adeg yma llynedd.
Ydych chi wedi newid rhywfaint ers hynny?
Sut mae eich bywyd wedi newid yn y cyfnod yma?

Meddyliwch am y pethau da sydd wedi digwydd i chi,
Ac am y pethau hynny oedd ddim cystal.

Meddyliwch am eich gobeithion:
Am yr haf sydd o’ch blaen,
Ac am y flwyddyn sydd o’ch blaen.

A diolchwch am y modd rydych chi wedi datblygu,
Ac am y cynnydd yn eich gwybodaeth,
A dywedwch ‘ie, iawn’ wrth yr hyn a fydd.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon