Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Noson Dathlu Symud Ymlaen O'r Ysgol

Sgwrsio am ddiwedd y tymor ysgol ac am y ‘Noson i Ddathlu Symud Ymlaen o’r Ysgol’.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Sgwrsio am ddiwedd y tymor ysgol ac am y ‘Noson i Ddathlu Symud Ymlaen o’r Ysgol’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi baratoi cyflwyniad PowerPoint i ddarlunio’r elfen o ddathlu diwedd cyfnod, fel mae’n cyfeirio ati yn nes ymlaen yn y gwasanaeth yma.

  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll ar gyfer yr Amser i feddwl.

  • Cerddoriaeth a awgrymir: ‘Dancing Queen’ gan Abba.

Gwasanaeth

  1. Tybed beth mae disgyblion y blynyddoedd uchaf yn yr ysgol yma’n edrych ymlaen fwyaf tuag ato ar ddiwedd blwyddyn ysgol fel hyn? Tybed ai edrych ymlaen at ddechrau astudio pynciau newydd diddorol tuag at eu Lefel A? Tybed ai edrych ymlaen tuag at fynd i  goleg? Efallai mai edrych ymlaen at gael gorffen dysgu ffurfiol y byddan nhw, a chael symud ymlaen gyda gyrfa benodol. Efallai y bydd rhai disgyblion yn falch o weld diwedd ar arholiadau, neu efallai at beidio gorfod astudio rhai pynciau neilltuol sydd ddim yn ddiddorol yn eu golwg.

  2. Beth bynnag, efallai mai un peth y mae disgyblion y blynyddoedd uchaf mewn sawl ysgol yma’n edrych ymlaen fwyaf tuag ato ar ddiwedd blwyddyn ysgol fydd noson y dathlu. Dathlu symud ymlaen, mewn noson arbennig o bosib - noson y School Prom y byddai rhai yn ei galw. Os byddwch chi’n cael cyfle i ddathlu fel hyn, mae’n debyg y byddwch chi eisiau i hon fod yn un o nosweithiau pwysicaf eich bywyd hyd yn hyn. Dyma gyfle i chi’r merched fod yn dywysoges am y tro a threulio noswaith gyda’ch tywysog efallai! Go brin y byddwch chi eisiau colli dathlu diwedd y flwyddyn?

  3. Mewn llawer ysgol ledled y wlad, fe fydd disgyblion Blynyddoedd 11, 12 ac 13 yn cynllunio eu Prom arbennig nhw eu hunain yn ystod yr wythnosau nesaf. Fe fydd angen iddi fod yn noson i’w chofio, gan mai hwn fydd y tro olaf i lawer o’r disgyblion fod gyda’i gilydd, felly bydd yn rhaid iddi fod yn noson arbennig.

    Hyd yn oed pan fyddan nhw’n sefyll eu harholiadau TGAU, AS neu Lefel A, fe fydd rhai disgyblion yn meddwl am noson diweddu’r tymor. Erbyn hyn, mae llawer o’r digwyddiadau yma wedi mynd yn ddigwyddiadau crand a drud iawn, wedi’u seilio ar y digwyddiadau Americanaidd gwreiddiol. Meddyliwch am ffilmiau fel American PieTwilight a She’s All That, a hyd yn oed Grease.

  4. Gall y costau ar gyfer noson y Prom fod yn rhai cannoedd o bunnau i ferch, wedi i chi dalu am y ffrog, gwneud y gwallt, cael lliw haul ffug, trin yr ewinedd ac efallai gosod ewinedd ffug, a chofiwch am yr esgidiau a’r holl bethau eraill y mae’n rhaid eu cael sy’n cyd-fynd â’r wisg .....  Cyfrwch yn fras yn eich pen faint ydych chi’n feddwl fyddai’r gost. Mae’n bosib y byddwch chi’n synnu. 

    Fyddai’r gost ddim mor uchel i fachgen, mae’n debyg - fyddai £80 yn ddigon am logi siwt, a chael torri gwallt ac ati? Ond wedyn, fyddai hynny ddim yn cynnwys y cludiant i’r digwyddiad. Efallai y byddai rhai’n dymuno llogi car arbennig fel stretch limousine, neu gar o dras (vintage), neu hyd yn oed injan dân! 

    Gall hyn i gyd brofi’n ddrud iawn i gyllideb teulu cyffredin.

  5. Ond, tybed ydi hi’n bosib cynnal gweithgaredd fel yma yn rhatach, a dal i gael hwyl dda a phawb yn edrych yn dda? Mae nifer o safleoedd gwe y gallech chi ddod o hyd iddyn nhw, trwy ddefnyddio Google er mwyn chwilio am ffyrdd o gadw’r costau i lawr. Yn sicr, mae achlysur ymadael â’r ysgol yn achos dathlu, dathlu bod yr arholiadau y buoch chi’n gweithio ar eu cyfer yn awr wedi dod i ben, a dathlu bod cyfnod newydd o’ch blaen. Felly, y prif fwriad yw gorffen y flwyddyn ar nodyn hapus yng nghwmni eich ffrindiau sydd wedi gwneud eich amser yn yr ysgol yn arbennig? Dydi’r noson ddim wedi ei bwriadu i wneud i unrhyw un ddisgyn i drap dieflig y diwylliant prynu, gan feddwl bod pawb yn dweud edrychwch beth sydd gan hon a hon amdani, a faint mae hwn neu hon wedi ei wario, a bod yn rhaid i bopeth fod yn berffaith.

  6. Pan fyddwch chi’n chwilio am glustdlysau eraill, oherwydd nad yw’r rhai sydd gennych chi ddim cweit yn iawn, neu pan fyddwch chi’n clywed rhyw ferch yn dweud bod ffrog merch arall wedi’i phrynu mewn siop gwerthu pethau rhad a’i ffrog hi’n cario label dylunydd neilltuol, neu’n gwatwar bod mam rhywun yn dod a hi i’r Prom am na allan nhw fforddio llogi  limo, meddyliwch am y rheswm gwreiddiol pan mae’r noson yn cael ei chynnal.

  7. Noson o ddathlu yw noson - cyfle i chi ddathlu eich holl waith caled a’ch penderfyniad i lwyddo yn yr arholiadau. Mae bron fel bod yn ddefod newid byd, mae’n gyfnod yn eich bywyd sy’n nodi eich bod yn dod yn eich blaen. Mae un drws yn cau y tu ôl i chi tra mae drws cyfle arall yn agor o’ch blaen. Bydded hwnnw’n ddrws ym myd addysg neu fel arall, rydych chi’n cael dathlu bod drws newydd yn agor. 

    Yna, fe allwch chi ystyried pobl ifanc mewn gwledydd eraill sydd ddim yn gallu cynnal nosweithiau fel y Proms, gwledydd lle mae addysg yn fraint a lle y byddai cost eich gwisg am y noson yn gallu bwydo teulu cyfan am flwyddyn gron. Ar ôl i chi feddwl am hyn, a sylweddoli pa mor lwcus ydych chi, ewch  a mwynhewch eich hunain! Da iawn chi!

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a rhowch gyfle i’r myfyrwyr fyfyrio. Dangoswch y delweddau sydd gennych chi ar eich cyflwyniad PowerPoint.
Wrth i ni edrych ymlaen at ein noson cloi’r cyfnod ysgol, neu at yr amser y byddwn ni’n gadael, gadewch i ni feddwl yn ôl dros yr amser y buom ni yn yr ysgol.
Rydyn ni’n diolch am yr adegau da gawsom ni, ac am yr atgofion pleserus sydd gennym ni am yr ysgol.
Rydyn ni’n meddwl am unrhyw beth y mae arnom ni angen ymddiheuro amdano cyn i ni ymadael.
Ac rydyn ni’n gallu edrych ymlaen tuag at y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon