Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Enwogion Byd Y Bel-droed

Annog y myfyrwyr i ystyried sut y gall chwaraeon helpu gyda datblygiadau rhyngwladol.

gan Tim Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried sut y gall chwaraeon helpu gyda datblygiadau rhyngwladol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pêl-droed a glôb (yn ddelfrydol, un y gallwch ei chwythu). Argraffwch gopi o fap y byd sydd ar wefan Wikipedia, yr un sy’n dangos y gwledydd a enillodd le i chwarae yng ngemau Cwpan y Byd wedi’u hamlygu mewn gwyrdd: http://en.wikipedia.org/wiki/File:2010_world_cup_qualification.png.

  • Fel rhan o’r gwasanaeth, fe allech chi ofyn i’r myfyrwyr beth sydd yn gyffredin yn y gwledydd sydd wedi’u lliwio’n wyrdd. Yna, gofynnwch i wirfoddolwr ddangos i chi ar y glôb ble mae De Affrica. Darllenwch enwau nifer o wledydd fu’n chwarae, a gofynnwch i rai o’r myfyrwyr enwi’r cyfandir ble mae’r wlad honno.

  • Dyma restr o’r gwledydd fu’n chwarae yng ngemau Cwpan y Byd FIFA:
    De Affrica (y wlad sy’n llwyfannu’r gemau y tro yma)
    Affrica: Algeria, Cameroon, Ghana, Ivory Coast, Nigeria
    Asia: Awstralia, Japan, Gogledd Korea, De Korea
    Ewrop: Denmarc, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Serbia, Slovakia, Slofenia, Sbaen, y Swistir
    De America: Ariannin, Brazil, Chile, Paraguay, Uruguay
    Gogledd a Chanolbarth America: Honduras, Mecsico, yr Unol Daleithiau
    Asia/Oceania: Seland Newydd

  • Paratowch gyflwyniad PowerPoint gyda lluniau o’r peldroedwyr canlynol: Craig Bellamy, Didier Drogba a Patrick Viera.

  • Awgrymir chwarae cerddoriaeth fel un o’r darnau sy’n gysylltiedig â chystadleuaeth Cwpan y Byd.

Gwasanaeth

  1. Y mis diwethaf, bu cynulleidfa o filiynau ledled y byd yn edrych ar y gemau terfynol yng Nghwpan y Byd yn cael eu chwarae yn Ne Affrica. Mae pêl-droed yn gêm boblogaidd gan bobl ym mhob man. Roedd yn dymor yr haf llawn cyffro. Faint wyddoch chi am y wlad sy’n llwyfannu’r gemau y tro yma? Oeddech chi’n gwybod mai dyma’r tro cyntaf erioed i Gwpan y Byd gael ei chynnal mewn gwlad ar gyfandir Affrica? Bron iawn 6 mlynedd ers ei hetholiadau democrataidd cyntaf, mae De Affrica yn chwarae rôl fyd-eang bwysig fel economi mawr sy’n datblygu yn y byd. 

    Nifer poblogaeth De Affrica yw 48.6 miliwn, a’r disgwyliad oes yw 50 oed yn unig, o ganlyniad i nifer uchel o achosion HIV ac AIDS.

  2. Ydych chi wedi ystyried erioed fod chwaraewyr pêl-droed yn ennill gormod o arian? Pa un ai ydych chi’n credu eu bod yn haeddu'r fath arian ai peidio, mae rhai chwaraewyr yn dewis defnyddio’u henwogrwydd a’u harian i ymladd yn erbyn tlodi, ac fe hoffwn i ddweud rhyw air neu ddau wrthych chi am rai o’r chwaraewyr hynny. Pa un ai a fyddwch chi ryw dro yn enwog ai peidio, meddyliwch am y modd y gallech ddefnyddio’ch doniau i helpu’r bobl dlotaf yn y byd.

  3. Craig Bellamy (Manchester City a Chymru). Yn y flwyddyn 2007 aeth Craig Bellamy i ymweld â ffrind iddo yn Sierra Leone, gwlad sydd wedi cael enw drwg am yr ymryson gwaedlyd sy’n gysylltiedig â’i hadnoddau mwynol. Mae yno ryfel cartref sydd bellach yn mynd ymlaen ers naw mlynedd.  Er gwaethaf y tlodi a’r anobaith sydd yno, fe sylweddolodd Bellamy y potensial o sefydlu prosiect a allasai gynnig llygedyn o obaith. Crëwyd y ‘Craig Bellamy Foundation’ i ysbrydoli datblygiad personol a chymdeithasol mewn plant trwy gyfrwng chwaraeon. Mae’r sefydliad wedi trefnu rhwydwaith genedlaethol o gynghreiriau datblygu pêl-droed ar gyfer bechgyn rhwng 10 ac 14 oed, sydd â 1,600 o aelodau cofrestredig. Er mwyn annog y plant i fynd i’r ysgol yn rheolaidd, mae’n rhaid i bob chwaraewr fod yn mynychu ysgol. Mae cynghreiriau pellach ar gyfer genethod a phobl ifanc anabl ar y gweill.

  4. Didier Drogba (Chelsea a Côte d’Ivoire). Ym mis Ionawr 2007, fe benodwyd Didier Drogba yn llysgennad ewyllys da gan Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig - UN Development Programme (UNDP), gan ymuno gydag enwogion pêl-droed fel Ronaldo and Zinédine Zidane. Mae gan Drogba gonsyrn neilltuol am ei gartref-gyfandir, Affrica. ‘Nid wyf am anghofio fy ngwreiddiau,’ meddai. ‘Fe gefais i gyfleoedd i lwyddo mewn bywyd, ond rydw i bob amser yn meddwl am y rhai na chafodd y cyfle hwn. Mae’n rhaid i bob un ohonom ni gyfrannu i gael gwared â thlodi.’ Saethwr Chelsea yw sylfaenydd y ‘Didier Drogba Foundation’, sy’n helpu i ddatrys materion gofal iechyd ac addysg yn Côte d’Ivoire. Yn ddiweddar addawodd Drogba roi £3 miliwn mewn cronfa er mwyn adeiladu ysbyty yno.

  5. Patrick Vieira (Manchester City a Ffrainc). Patrick Vieira yw un o gefnogwyr enwog y ‘Diambars Institute’, sydd yn academi arloesol er darparu addysg o’r radd flaenaf i fechgyn Affricanaidd, ac yn rhoi cyfle i’r bechgyn greu enw iddyn nhw’u hunain wrth chwarae pêl-droed proffesiynol. Wedi ei eni yn Senegal, roedd Viera yn awyddus i wneud rhywbeth fyddai o fudd gwirioneddol i’w famwlad. Pêl-droed yw’r gyriant sy’n gefn i’r addysg yn yr athrofa. Mae’n amcanu i gael o leiaf 20% o’r myfyrwyr sy’n rhan o’r rhaglen i fynd ymlaen i fod yn chwaraewyr pêl-droed proffesiynol. Ond, maen nhw hefyd yn datgan: ‘Rydym eisiau gwarantu bod y rhai sydd ddim yn cyrraedd y nod yn parhau i ddod yn bencampwyr mewn bywyd.’

  6. Mewn pêl-droed mae hyd yn oed y chwaraewr gorau angen aelodau’r tîm i’w helpu i gael gafael ar y bêl, neu ni all fyth sgorio. Yn y byd hwn, mae angen i bawb ohonom gydweithio i sgorio’r gôl fydd yn lleihau tlodi a’i ganlyniadau ofnadwy, a hyd yn oed ei wared o’n byd am byth, rhyw ddydd efallai.

Amser i feddwl

Nid yn unig y mae pêl-droed a chwaraeon eraill yn hwyl dda, ond mae hefyd yn ffordd o adeiladu pontydd rhwng pobl o wahanol wledydd a chyfandiroedd, gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, boed yn dlawd neu’n gyfoethog, du neu wyn, Cristnogol neu Fwslimaidd, yn bobl anabl neu’n bobl holliach.  

Gweddi
Arglwydd,
Diolch i ti am yr hwyl a gawn o chwarae gemau fel pêl-droed,
a’r modd y gallan nhw helpu i uno gwahanol bobl  
a dod â llawenydd, ffocws, gobaith a chyfleoedd newydd
i rai o’r bobl dlotaf yn y byd. 

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon