Fant Ydych Chi'n Werth?
Meddwl am hunanwerth wrth ystyried y gwerth enchwythedig enfawr sy’n cael ei roi ar chwaraewyr enwog.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am hunanwerth wrth ystyried y gwerth enchwythedig enfawr sy’n cael ei roi ar chwaraewyr enwog.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y newyddion diweddaraf am drosglwyddiadau chwaraewyr pêl-droed, a pharatoi dau neu dri o fyfyrwyr i ddarllen y darnau hynny.
- Fe allech chi baratoi gwirfoddolwr parod i gael ei roi ar ‘ocsiwn’.
- Cerddoriaeth a awgrymir: ‘I’m Special’ gan y Pretenders.
Gwasanaeth
- Cwpan y Byd: dyna i chi olygfa oedd honno. (Efallai y byddwch yn dymuno dweud rhyw air neu ddau ar ganlyniad y twrnamaint a sut y gwnaeth rhai o’r gwledydd berfformio.)
Bu’r profiad i rai chwaraewyr yn fodd i newid eu bywyd. Yn sydyn fe ddaethon nhw’n werthfawr iawn. Dyma’r rhestr trosglwyddiadau diweddaraf gyda’r cytundebau sydd wedi eu sicrhau.
Gofynnwch i’r myfyrwyr ddarllen y manylion am bwy sy’n symud i ble ac am faint o arian. - Mae'r rhain yn symiau anhygoel o arian. Sut y gall dwy fraich, dwy goes a phen fod yn werth cymaint? Sut y gellir cyfiawnhau’r fath symiau o arian? Mae cyfarwyddwyr ariannol prif glybiau’r byd yn datgan bod chwaraewr yn werth yr arian mewn tair ffordd:
Yn gyntaf, mae’n denu cefnogwyr i mewn i’r stadiwm. Gyda thocynnau mynediad i weld timau sydd yn chwarae yn y Brif Gynghrair yn gwerthu am oddeutu £30 y tro, yna mae stadiwm sy’n llawn yn werth miliynau o bunnoedd i’r clwb.
Yn ail, bydd chwaraewr disglair yn gwella siawns clwb i gyrraedd y rowndiau terfynol o brif gystadlaethau cwpan, fel cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr y Cynghreiriau. Incwm o gemau Ewropeaidd sydd wedi cynyddu datblygiad timau fel Manchester United, Chelsea, Arsenal, a (hyd yn ddiweddar) Lerpwl.
Yn olaf, bydd gwerthiant crysau’r clwb a chof-bethau yn cynyddu pan gysylltir yr eitemau hynny gydag enw chwaraewr enwog. Mae Rooney, Fabregas, Drogba and Torres yn gwerthu crysau, posteri, mygiau a phapur wal sy’n creu cyfanswm o filiynau o bunnoedd bob tymor.
Pe byddech chi’n edrych ar bethau o’r safbwynt hwn, yna mae’n bosib gweld y gall clwb gynyddu ei incwm yn enfawr trwy fuddsoddi mewn chwaraewr, hyd yn oed am y prisiau afresymol hyn. - Beth amdanoch chi? Ydych chi wedi derbyn cynigion yn ddiweddar? Fyddech chi’n fuddsoddiad da?
Efallai y byddwch yn dymuno gwahodd myfyriwr i ddod ymlaen a threfnu ocsiwn iddo fo neu hi. Siaradwch am ei nodau gwerthu unigryw, ei botensial, neu ei photensial, a’r hyn y mae wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Yn y diwedd fe fydd y cynigion yn dueddol o fod yn isel o ran gwerth. - Fel person ifanc, mae’n beth cyffredin i fynd trwy gyfnod pryd y bydd ein syniad o hunanwerth yn isel. Gall hynny ein gadael yn teimlo’n ddigalon, unig, anghyflawn, heb gymhelliant, neu’n negyddol yn ein disgwyliadau. Beth, tybed, yw achos y math yma o deimlad? Yr achosion cyffredin yw dadl gyda’n rhieni, colli ein lle mewn tîm chwaraeon, canlyniadau gwael, cael ein gwrthod gan ein cariad, methu prawf gyrru neu glyweliad efallai, neu’n syml yn dioddef yn enbyd o gyflwr y croen sy’n achosi plorod ar yr wyneb.
- Felly, beth allwn ni ei wneud i wrthweithio hynny? Y peth cyntaf yw ystyried y ffaith nad yw gwerth byth yn digwydd mewn gwagle. Gwerth unrhyw bêl-droediwr yw’r arian y mae rhywun yn fodlon ei dalu amdano, waeth faint y mae ef ei hun yn feddwl beth yw ei werth. Rydych chi’n werth yr hyn y mae pobl eraill yn feddwl yw eich gwerth, pa mor fach y byddwch chi’n feddwl ohonoch eich hun. Rydych chi’n werthfawr pan fydd pobl eraill yn dewis bod yn eich cwmni, ac yn gofyn i chi am eich cyngor, yn eich edmygu, yn ymuno mewn sgwrs â chi, yn ymddiried ynoch chi i gyflawni rhyw dasg, neu yn eich llongyfarch am ryw lwyddiant bach. Rydych chi’n werthfawr i’ch rhieni neu i’ch gwarchodwyr, i’ch ffrindiau, i’ch athrawon, i aelodau’ch tîm, ac i bob person sy’n cymryd y drafferth i ddweud ‘helo’ wrthych chi pan fyddan nhw’n mynd heibio i chi. Mae Cristnogion yn credu ein bod hefyd yn werthfawr yng ngolwg Duw. Dyna paham y mae Duw wedi dewis gosod ei Ysbryd creadigol ym mhob un ohonom.
Duw yn buddsoddi ym mhob un ohonom? Yn y pen draw, allwch chi ddim bod yn fwy gwerthfawr na hynny.
Amser i feddwl
Treuliwch ychydig o amser yn ystyried y syniadau canlynol. Efallai yr hoffech eu defnyddio fel gweddi:
Byddwch ddiolchgar am y ffaith eich bod yn berson unigryw.
Nid oes neb wedi ei greu yn union fel chi, ac rydych chi’n gweddu’n unigryw i rai o sefyllfaoedd bywyd.
Byddwch yn edifar am osod gwerth isel arnoch eich hun.
Gwnewch gynllun i weithredu ar rai o’r pethau a drafodwyd yn y gwasanaeth heddiw.
Efallai y byddwch am ddangos i rywun arall eu bod yn bwysig yn eich golwg chi wrth i chi ofyn am eu help.
Efallai y byddwch am ddweud gair neu ddau o werthfawrogiad neu anogaeth wrth rywun.
Trwy wneud hynny yr ydych yn debygol o ddarganfod y byddwch hefyd yn teimlo’n well ynddoch eich hun.