Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hiliaeth: Stori Rosa Parks

Meddwl am yr anghyfiawnderau sydd yn y byd, a sut y mae modd i un weithred gan unigolyn neilltuol wneud gwahaniaeth.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am yr anghyfiawnderau sydd yn y byd, a sut y mae modd i un weithred gan unigolyn neilltuol wneud gwahaniaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch nifer o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y gwasanaeth.

  • Neilltuwch amser i’r myfyrwyr ymarfer eu rhan yn yr olygfa.

  • Lluniwch fasgiau i gynrychioli’r cymeriadau yn y stori.

  • Casglwch nifer o lyfrau amrywiol.

  • Paratowch un o’r myfyrwyr i ddarllen stori Iesu a’r gwahangleifion.

  • Llwythwch i lawr un neu ddau o’r darnau cerddoriaeth a awgrymir ar gyfer dod i mewn i’r gwasanaeth ac ymadael (gwelwch isod).

  • Dewisol ar gyfer yr Amser i feddwl: Llwythwch i lawr ran o araith enwog Martin Luther King ‘I have a dream’.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y casgliad o lyfrau amrywiol sydd gennych i’w dangos i’r myfyrwyr – rhai gyda chloriau cyffrous yr olwg a rhai eraill â chloriau digon anniddorol. Holwch y myfyrwyr pa rai fydden nhw’n hoffi eu darllen fwyaf. Bydd y myfyrwyr yn cael eu denu at yr un sydd yn edrych fwyaf cyffrous.  Pan fyddan nhw’n gwneud hyn, darllenwch chi ddarn o lyfr ar gyfer babanod iddyn nhw neu’r math o stori a geir yn y gyfres ‘Peter and Jane’. Yna cymerwch lyfr sy’n ymddangos yn anniddorol a darllenwch ran sy’n gyffrous gydag agoriad cofiadwy. Trafodwch y pwysigrwydd o beidio â beirniadu pethau ar bwys eu hymddangosiad, ond ar yr hyn sydd oddi mewn iddyn nhw – dyna sy’n cyfrif.
  1. Darllenwch y stori o’r Beibl am Iesu a’r gwahangleifion:

    Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria. Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, 'Feistr! Iesu! Wnei di'n helpu ni?'
    Pan welodd Iesu nhw, dywedodd wrthyn nhw, "Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid." Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!
    Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, "Clod i Dduw!" Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am beth roedd wedi ei wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn!) 
    Meddai Iesu, "Roeddwn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall? Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?" Yna dywedodd wrth y dyn, "Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu."

    (Luc 17.11–19, www.beibl.net).
  1. Trafodwch sut y mae gwahangleifion wedi cael eu trin yn y gorffennol a sut y buasai gweithredoedd Iesu wedi bod yn arbennig, hyd yn oed pe na fyddai wedi iachau’r gwahanglwyf.
  1. Cyflwynwch y stori fodern ar gyfer heddiw o sut y bu i weithredoedd un person newid y modd y mae pobl yn cael eu trin. Dywedwch wrth y myfyrwyr bod yr ailddeddfiad hwn yn rhan o stori wir am ddynes o’r enw Rosa Parks. Eglurwch beth a olygai’r rheolau arwahanu hiliol a oedd mewn grym yn America yn y 1950au, a bod dynes groenddu wedi cael ei harestio am iddi wrthod ildio’i sedd ar fws i ddyn gwyn.   

    Golygfa:

    Dechreuwch gyda deg o fyfyrwyr yn eistedd i ffurfio siâp bws, yn cynnwys y gyrrwr.  Mae hanner y bobl ar y bws yn bobl wyn a’r hanner arall yn bobl ddu (defnyddiwch fasgiau neu labeli i nodi prun ai Americanwr Affricanaidd neu ddyn gwyn yw pob myfyriwr, fel bo’r angen). Mae dynes (ddu) yn dod ar y bws ac yn eistedd ar sedd yn y canol.

    Llefarydd: Yn 1955, roedd deddfau’r UDA yn datgan ei bod yn ofynnol i berson du ei groen symud o’i sedd er mwyn i berson gwyn ei groen gael eistedd ar y sedd honno.  Pan ddaeth Rosa Parks, dynes 42 mlwydd oed, i fyny ar y bws, roedd hi’n teimlo’n oer ac yn flinedig.  Eisteddodd ar sedd yng nghanol y bws.  Ymhellach ymlaen ar y daith daeth dyn gwyn ei groen ar y bws a safodd i ddisgwyl i Rosa symud a gwneud lle iddo. 

    Rosa: Rydw i’n oer ac wedi blino.  Rydw i wedi gweithio trwy gydol y dydd, ac rydw i’n gwrthod symud i chi dim ond am eich bod chi’n wyn.  Pe byddech chi’n blentyn neu yn berson oedrannus fe fyddwn i’n symud o fy sedd yn ddirwgnach. 

    Llefarydd:  Fe ddechreuodd y person gwyn ei groen golli ei dymer a chwynodd wrth y gyrrwr. Cysylltodd y gyrrwr â’r heddlu, a hebryngodd yr heddlu Rosa i Swyddfa’r Heddlu, lle cyhuddwyd hi’n ffurfiol. Roedd hyn yn golygu y byddai’n gorfod sefyll ei phrawf mewn llys barn. Yn ystod y misoedd rhwng y digwyddiad a’r achos llys, fe sbardunodd y digwyddiad ymgyrch boicot ar y bysiau, a chanlyniad yr achos llys a gymerodd le wedyn oedd bod y weithred o arestio Rosa Parks am iddi wrthod ildio’i sedd i ddyn gwyn ei groen yn anghyfansoddiadol (eglurwch beth mae hynny’n ei olygu). Roedd yr achos hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau pwysig a helpodd yn y pen draw i wella cysylltiadau hiliol yn America.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll (chwaraewch araith Martin Luther King) a gadewch i’r myfyrwyr ystyried unrhyw adeg yn eu bywyd pryd yr oedden nhw wedi teimlo eu bod wedi cael eu trin mewn modd rhagfarnllyd.

Yn awr meddyliwch am yr adegau hynny pryd yr ydych chi wedi ymddwyn mewn modd rhagfarnllyd.

Gweddi
Helpa ni bob amser i chwilio am y daioni sydd i’w gael mewn pobl, ac nid i feirniadu pobl am yr hyn a welwn.  Boed i ni wrthsefyll rhagfarn o unrhyw fath.

Cerddoriaeth

Mae sawl darn o gerddoriaeth am ‘ddu a gwyn’, fel cân Paul McCartney a Stevie Wonder, ‘Ebony and Ivory’ neu gân Michael Jackson, ‘Black or White’.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon