Thomas Edison
Dangos sut y gall doniau a gwaith caled rhai pobl helpu i roi bywyd gwell i weddill pobl y byd.
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Dangos sut y gall doniau a gwaith caled rhai pobl helpu i roi bywyd gwell i weddill pobl y byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Lluniau o ddyfeisiau sydd wedi llunio ein bywyd (gwelwch rif 2).
- Lluniau o ddyfeisiau Thomas Edison.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r myfyrwyr a ydyn nhw wedi clywed ryw dro am ddyn o’r enw Thomas Edison. Nodwch awgrymiadau’r myfyrwyr ar bwy y gall fod. Yna, hysbyswch y myfyrwyr bod Edison yn ddyfeisiwr enwog iawn oedd yn byw yn y ganrif ddiwethaf.
- Dangoswch ddarluniau o ddyfeisiadau pwysig iawn (yr olwyn, torth o fara wedi ei thafellu, tuniau bwyd, awyren, peiriant motor, briciau a mortar, bylb golau, gramoffon neu chwaraeydd CD, ac ati.). Trafodwch sut y bu i’r dyfeisiadau yma helpu’r gymdeithas gyfan. Gofynnwch i’r myfyrwyr sut y byddai ein bywyd ni heddiw hebddyn nhw.
- Gofynnwch i’r myfyrwyr am y broses feddyliol y mae’n ofynnol i ddyfeisiwr fynd trwyddo. Cymhellwch y myfyrwyr i ddod i gytundeb bod yn rhaid i ddyfeisiwr feddu ar ryw ysbrydoliaeth yn gyntaf er mwyn mynd ati i feddwl am rywbeth fydd yn fodd i wella bywydau pobl; yna’r broses o astudio er mwyn canfod beth sydd wedi cael ei ddysgu o’r blaen gan eraill; yna archwiliad i weld a yw’n bosib datblygu ei syniad ef neu hi ymhellach.
- Dywedwch wrth y gynulleidfa bod Thomas Edison wedi dyfeisio miloedd o bethau, ac fe ddangoswyd dau ohonyn nhw yn y lluniau blaenorol. Dywedwch wrth y myfyrwyr na fyddan nhw, y noson honno pan fyddai’r haul yn machlud, yn chwilio am ganhwyllau a lampau nwy, a hynny oherwydd Edison. Pan fyddwn yn gwrando ar ein hoff CD - mae’r diolch am hynny i Edison. Eleni byddwn yn cofio bod 75 mlynedd wedi mynd heibio ers ei farwolaeth.
- Pan oedd yn llencyn, bu Thomas Edison yn meddwl beth fyddai’n digwydd pe byddai’n rhoi ty gwair ei dad ar dân. Cafodd ei chwilfrydedd y gorau arno ac fe gyneuodd y tân. Hwnnw oedd un o’i arbrofion cynharaf, ac roedd dau ganlyniad i’r digwyddiad: y cyntaf oedd ty gwair wedi ei losgi; yr ail oedd cael cweir iawn gan ei dad. Er gwaethaf y ffaith bod gan Edison feddwl chwilfrydig ac ewyllys i wthio hyd at eithafion gwybodaeth, cafodd ei anfon adref o’r ysgol ar ôl tri mis. Roedd ei athro ar y pryd yn rhy rwystredig gyda’i holl gwestiynau! Cafodd ei addysgu gartref, ac fe ofalodd ei fam fod ei awydd naturiol i ddysgu am bethau newydd yn cael ei feithrin.
- Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, y cyn-heuwr tân ifanc oedd y gwyddonydd mwyaf adnabyddus yn y byd. Roedd yn cael ei ganmol ym mhob man, ac yn cael ei alw’n ddewin ac yn athrylith am ei ddyfeisiadau. Ond ni adawodd i’w ben chwyddo, a wfftiodd y syniad o fod yn athrylith trwy ddweud:
‘Ysbrydoliaeth sydd i gyfrif am 1% o fod yn athrylith ac mae 99% yn chwys.’ (‘Genius is 1 per cent inspiration and 99 per cent perspiration.’) Gofynnwch i’r myfyrwyr beth oedd Edison yn ei olygu wrth ddweud hyn. Siaradwch am y gwaith caled sydd ynghlwm wrth ddyfeisio pethau newydd. - Dechreuodd Edison ar ei ddyfais orau pan ddywedodd ei fod yn mynd i gynhyrchu golau trydan. Ei wawdio a wnaeth dyfeiswyr a gwyddonwyr eraill trwy ddweud nad oedd hynny’n bosibl, am ei fod yn golygu mynd yn groes i bob rheol a oedd yn wybyddus ym myd Ffiseg. Ni chymerodd Edison sylw o hynny a bwriodd ymlaen â’r broblem â chryn ymdrech ac ymrwymiad. Roedd yn gwybod y gallai gynhyrchu golau wrth basio cerrynt trydan trwy ddarn bach iawn o fetel. Ymhen dim byddai’r metel yn poethi ac yn tywynnu.
Ac yntau’n awyddus i lwyddo, arbrofodd Edison gyda llawer o ddeunyddiau, yn cynnwys gwallt dynol, ond roedd y mwyafrif yn llosgi’n rhy fuan. Ond yr oedd yn dal i gredu bod rhyw ddeunydd a fyddai’n gwneud y gwaith iddo. Fe ddarganfyddodd bod haenau tenau o bren bambw wedi eu twymo gan drydan mewn bwlb gwydr yn cynhyrchu digon o oleuni i wneud golau trydan yn bosib. Nid dyna oedd y diwedd. Er mwyn gwireddu ei freuddwyd o ddefnyddio trydan i greu golau mewn ty, bu’n rhaid iddo adeiladu’r rhwydwaith mewnol (y ceblau, y mesuryddion trydan ac ati) a ddefnyddiwn ni yn awr.
- Yn ystod ei fywyd, datblygodd Edison lawer o ddyfeisiadau a chodi patent arnyn nhw. Fe wnaeth ei ddyfeisiadau a’i waith caled fywyd pawb yn rhwyddach a hapusach. Felly, pan fyddwch chi’n pwyso ar switsh y golau heno ac yn gwrando ar eich chwaraeydd recordiau, cofiwch am waith caled Thomas Edison a’i ymroddiad. Yn bwysicach, gadewch i’w gred, sef “bod athrylith yn 99% o chwys” fod yn ysbrydoliaeth i ni ymdrechu’n galetach i gyrraedd at y nodau a osodwn i ni ein hunain: i beidio â digalonni gan watwar pobl eraill, nac ychwaith i beidio â digalonni pan na fyddwn ni wedi llwyddo’r tro cyntaf.
Amser i feddwl
Nid person hawdd i fyw gydag ef oedd Edison, yn yr ysgol nac ychwaith yn ei fywyd personol. Ond o dan y bersonoliaeth bigog honno roedd yno wir athrylith yn cuddio. Cafodd ei wawdio a thynnwyd ei goes trwy gydol ei fywyd.
Meddyliwch pa mor anodd oedd bywyd Edison: a fydden ni’n gallu bod yn dosturiol wrth athrylith anodd pe byddai’r person hwnnw neu honno’n ffrind i ni?
Mae bod â ffydd a chred yn yr egwyddorion sydd gennym yn bwysig iawn, ond mae hi hefyd yn bwysig ein bod yn talu sylw i safbwyntiau pobl eraill sydd yn wahanol i’n rhai ni, a pheidio ag ymateb iddyn nhw’n negyddol ond ceisio’u hwynebu’n bositif.
Gweddi
Arglwydd, helpa ni i gael y nerth a’r dyfalbarhad i gyrraedd at y nodau a osodwn i ni ein hunain.
Gad i ni gofio am y bobl hynny sydd yn gwneud ein bywyd yr hyn ydyw heddiw.