Etholiadau Cyngres Yr Unol Daleithiau
Dangos sut y mae gweithredoedd unigolyn neilltuol yn gallu ysbrydoli pobl eraill, a gwneud gwahaniaeth mawr.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Dangos sut y mae gweithredoedd unigolyn neilltuol yn gallu ysbrydoli pobl eraill, a gwneud gwahaniaeth mawr.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim gwaith paratoi o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Mae llawer o bobl yn edrych ar ethol Barack Obama i arlywyddiaeth Unol Daleithiau America yn 2008 fel digwyddiad arwyddocaol byd-eang. Mae grym a dylanwad Americanaidd mor fawr fel bo llawer o bobl, rhai nad oedden nhw’n ddinasyddion Americanaidd hyd yn oed, wedi dathlu buddugoliaeth Obama. Er gwaethaf ei boblogrwydd byd-eang, mae Obama yn colli cefnogaeth gartref, lle mae hynny’n holl bwysig iddo. Ym mis Tachwedd bydd etholwyr yr UDA yn pleidleisio i ethol y 112fed Gyngres.
- Mae gan yr UDA system wleidyddol ddeuol, gyda’r arlywyddiaeth yn rhannu grym gyda’r Gyngres. Bu’r etholiadau diwethaf i’r Gyngres yn y flwyddyn 2006. O ganlyniad i anfodlonrwydd pobl ag arlywyddiaeth George W. Bush, rhoddodd yr etholwyr y mwyafrif o seddau i’r blaid Ddemocrataidd ganolig yn Nhy’r Cynrychiolwyr (House of Representatives) a’r Senedd (Senate). (Dyma ddwy adain ddeddfwriaethol o lywodraeth sydd yn ymwneud â llunio cyfreithiau. Yr arlywyddiaeth yw’r adain weithredol, sydd yn ymwneud â deddfu. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, bydd y ddwy rôl yn aml yn gorgyffwrdd.)
Yn etholiad arlywyddol 2008, pryd yr enillodd Obama (ymgeisydd y blaid Ddemocrataidd), fe gafodd y Democratiaid fwy o lwyddiannau. Cyfanswm y seddau sydd ar gael yw 435, gyda’r Democratiaid ar hyn o bryd yn dal 59% ohonyn nhw, a’r Gweriniaethwyr yn dal 41%.
- Mae cael arlywyddiaeth a Chyngres sy’n berthynol yn rhywbeth anghyffredin iawn, ac fe ddefnyddiodd Obama’r cyfle hwnnw i ymladd am, a phasio yn y diwedd ddiwygiadau gofal iechyd. Hyd yn oed dan yr amgylchiadau perffaith hyn iddo, ni allodd gael y maen i’r wal heb fisoedd o drafod a dadlau, newidiadau a chynnig bargeinion i gael pleidleisiau. Dyma un deilliant o ddemocratiaeth sydd yn cael ei gynrychioli’n lleol: mae rhai rhanbarthau yn gallu bod yn fwy o werth yn wleidyddol na rhai eraill ac yn gallu elwa o arian gan y llywodraeth ar gyfer prosiectau neilltuol; arian y byddid fod wedi ei wario ar brosiectau o ddiddordeb cenedlaethol, fel amddiffyn neu ddiwygio’r drefn bleidleisio. Mae’r diwygiad mewn gofal iechyd, ynghyd â’r swm enfawr o $787-biliwn i achub y banciau rhag mynd i’r wal ar ddiwedd arlywyddiaeth Bush, costau y rhyfel yn Irac ac Afghanistan, a’r toriadau uchel yn y trethi, i gyd wedi cyfrannu at lywodraeth sydd mewn dyled enfawr. Mae hyn wedi cythruddo pobl i adweithio yn erbyn y llywodraeth.
- Bydd Plaid y Gweriniaethwyr, sydd ar hyn o bryd yn wrthblaid, ac sy’n cefnogi trethiant isel, economi ryddfrydol ac i raddau werthoedd ceidwadol Cristnogol, yn disgwyl ennill oddeutu 20 sedd yn yr etholiad yma, ac o bosib llawer mwy. Mae’n arwydd o ddemocratiaeth iach os yw pleidiau gwahanol yn meddiannu seddau grym. Amser a ddengys a fydd y seddau wnaiff y Gweriniaethwyr eu hennill yn ddigonol i ddisodli mwyafrif seddau’r Democratiaid.
- Pe byddai’r Gweriniaethwyr yn cael y mwyafrif o seddau yn y Ty, bydd yn ofynnol iddyn nhw gydweithio ag arlywyddiaeth plaid y Democratiaid. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwleidyddiaeth yr UD wedi datblygu i fod yn begynol, yn enwedig felly oddi fewn i’r blaid Weriniaethol. Y Democratiaid sydd yn ffurfio'r bloc canolig ei athrawiaeth, o blaid trethiant cymedrol a pheth ail-ddosbarthu cyfoeth. Heb blaid wirioneddol adain chwith yn bodoli, tuedda’r sosialwyr i ymuno â’r Democratiaid. Mae llawer o’r Gweriniaethwyr yn awr yn fwy ar yr adain dde na’r Ceidwadwyr Prydeinig. Mae grwpiau fel y Cristnogion Efengylaidd a’r Tea Party (mudiad gwrth-drethiant radical) yn disodli aelodau sefydledig a phrofiadol pragmataidd o’r Gyngres, ac yn gosod aelodau o’r ymylon fel ymgeiswyr.
- Nid lle Ewropeaid yw barnu safbwyntiau’r UD, oherwydd bod patrwm gwleidyddol i’r chwith o’r hyn yw yn America, ond bydd y pegynnu sy’n digwydd yno ar hyn o bryd yn gwneud pethau’n anodd os oes yna lywodraeth rannol. Byddai’r UD yn genedl gryfach a mwy cydlynol pe byddai ei gwleidyddion yn fwy awyddus i gyfaddawdu a chydweithio.
Amser i feddwl
Pa faint bynnag y byddwn yn ei feddwl, mae llywodraeth yr UD yn cael effaith ar iechyd yr holl fyd. Mae’r analluedd amlwg i gyfaddawdu yn cael effaith ar weithrediad democratiaeth yr UD yn y fath fodd fel ei fod yn gwrthgyferbynnu’n gryf â’r hyn yr ydym ni wedi cael profiad ohono yn y DU yn ddiweddar, gyda chydweithio rhwng y blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio llywodraeth ar y cyd.
Yn ein bywydau ein hunain, rydym yn aml yn ei chael hi’n anodd cyfaddawdu ein credoau neu ein dymuniadau.
Meddyliwch am y pethau hynny sydd yn annwyl gennych, a’r rhai y bu’n rhaid i chi efallai gyfaddawdu yn eu cylch dros y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft:
- Pa gyrsiau yr ydych am eu hastudio, pan oedd yna wrthdrawiad rhwng rhai pynciau ar y daflen amser.
- Neu eich hobïau, o ganlyniad i ddiffyg amser.
- Eich dewis o yrfa, pan oeddech yn darganfod bod anghenion un pwnc neilltuol yn ormod o dreth arnoch.
- Perthynas oedd yn profi i fod yn rhy gostus.
Wrth i ni dyfu’n hyn, mae’r gallu i gyfaddawdu a chyrraedd at fan sy’n cael ei alw’n win-win situationsefyllfa lle mae pawb ar eu hennill yn un o sgiliau bywyd y byddwn yn falch o’i gael.
Sut y byddech chi’n gweithio tuag at y cyfaddawdau ‘ennill-ennill’ hyn yn eich bywyd ar hyn o bryd?
A, sut mae modd i chi ddweud pan nad yw’n bosib i chi gyfaddawdu, oherwydd bod y gred sydd gennych yn rhy bwysig i chi?