Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewrder

Meddwl am sefyllfaoedd sy’n gofyn am ddewrder.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am sefyllfaoedd sy’n gofyn am ddewrder.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch i arddangos copi o’r ddelwedd sydd ar y darn arian £5 i goffau Churchill, gwelwch y wefan www.royalmint.com.

  • Arddangos hefyd y dyfyniad o eiddo Dame Anita Roddick: ‘Be daring, be first, be different, be just’ - Byddwch yn feiddgar, yn flaenaf, yn wahanol, yn gyfiawn.

  • Trefnwch fod pedwar myfyriwr i’ch helpu.

Gwasanaeth

  1. Am beth y byddwch chi’n meddwl pan fyddwch yn clywed y gair ‘dewr’? Am bwy y byddwch chi’n meddwl pan fyddwch chi’n clywed y gair ‘dewr’?

    Efallai y byddwch yn meddwl am aelodau o’r fyddin yn ymladd yn Afghanistan, neu am athletwyr yn y Gemau Paralympaidd, neu am famau sy’n ffoaduriaid truenus yn gofalu am eu babanod, neu efallai am y ferch 16 oed a hwyliodd Gefnfor y De yn ddiweddar ar ben ei hun yn ymddiried y byddai rhywun, rywsut, yn ei hachub yn y dyfroedd stormus.

  2. Dangoswch lun y darn arian arbennig a gynhyrchwyd i gofio am Churchill. Eglurwch fod y rhain wedi eu bathu i dalu teyrnged i un o arweinwyr mwyaf blaenllaw ein cenedl, dyn yr oedd gofyn iddo fod yn ddewr iawn.

    Mae 2010 yn nodi 65 mlwyddiant Diwrnod VE, a 70 mlynedd er pan ddechreuodd Sir Winston Churchill ar ei waith fel Prif Weinidog. Winston Churchill oedd y Prif Weinidog  adeg yr Ail Ryfel Byd, ac roedd yn rhaid iddo wneud penderfyniadau mawr. Roedd yn rhaid iddo ddarlledu newyddion ar y radio i’r genedl am farwolaeth miloedd o ddynion a merched ifanc, ac roedd yn gorfod gwylio ein prif ddinasoedd gael eu bomio gan y Luftwaffe noson ar ôl noson.

    Mae gan ein Prif Weinidog newydd, David Cameron, dasg wahanol o’i flaen sydd hefyd yn dasg anodd. Mae’n rhaid iddo lywio ein gwlad trwy gyfnod o ddirwasgiad. Fe fydd gofyn iddo yntau fod yn ddewr wrth wneud penderfyniadau anodd ynghylch newidiadau yn y ffordd mae’r genedl yn gwario. Fe fydd hynny’n ei wneud yn amhoblogaidd gan lawer o bobl.

  3. Wedi’i ysgrifennu dros y llun o Churchill mae dyfyniad gan Anita Roddick sylfaenydd The Body Shop:

    ‘Be daring, be first, be different, be just.’

    Gwraig Busnes Brydeinig oedd Anita Roddick, roedd hi’n flaenllaw iawn mewn ymgyrchoedd yn ymwneud ag iawnderau dynol ac yn ymgyrchu llawer ynghylch yr amgylchedd. Dewiswyd y dyfyniad o’i heiddo oherwydd ei fod yn amlygu’r dewrder a’r priodweddau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus, pa un ai mewn busnes neu mewn llywodraeth.

  4. Ar y darn arian £5 yma hefyd mae logo Llundain 2012, sy’n dangos pum cylch y Gemau Olympaidd, ac mae’n cynrychioli’r dewrder a’r ysbryd cenedlaethol fydd yn ysgogi ei athletwyr wrth iddyn nhw baratoi i gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn y flwyddyn 2012. Fe fydd y rhai hynny ohonoch chi sy’n hoffi chwaraeon yn gwybod am y penderfyniad, y dyfalbarhad a’r dewrder y bydd ei angen ar yr athletwyr yn y dyddiau sydd o blaen.

  5. Edrychwch eto ar y dyfyniad o eiddo Anita Roddick. Fe hoffwn nodi rhai enghreifftiau o ddewrder a welwn ni o ddydd i ddydd yn yr ysgol o bosib.

    Galwch ar bedwar myfyriwr i’ch helpu i gynrychioli ‘beiddgar’, ‘blaenaf’, ‘gwahanol’, ‘cyfiawn’.

    Myfyriwr 1: Rydw i’n mynd i geisio bod aelod o’r tîm cyntaf, yn un o’r ‘first eleven’. Efallai na chaf fy newis, ond fe ro i gynnig arni beth bynnag.

    Myfyriwr 2: Mae’n well gen i wrando ar gerddoriaeth glasurol. Mozart yw fy ffefryn.

    Myfyriwr 3: Dydw i ddim eisiau mynd allan i yfed a meddwi. Rydyn ni o dan oed beth bynnag, ac rydw i’n gwybod nad yw gormod o alcohol yn dda i mi.

    Myfyriwr 4: Rydw i’n gwybod fod ...…….. yn cael ei fwlio oherwydd yr hyn mae’n ei gredu. Dydi hynny ddim yn deg. Rhaid i mi sefyll i fyny drosto a gwneud rhywbeth am y peth. Mae sefyllfaoedd fel hyn i’w gweld o’n cwmpas bob dydd yn yr ysgol. Weithiau, mae’n rhaid i chi fod yn ddewr, a bod yn wahanol, gan sefyll yn gadarn dros eich safbwynt. Ar adegau eraill fe fydd eich dewrder yn ysgogi pobl eraill i feddwl eto.

Amser i feddwl

Pa un o’r pedwar rhinwedd ydych chi eu hangen ar hyn o bryd, ar y cam yma yn eich bywyd?
Ydych chi angen bod yn feiddgar? Ydych chi angen bod yn flaenaf? Ydych chi angen bod yn wahanol? Ydych chi angen bod yn gyfiawn?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rho i ni ddewrder i wneud yr hyn sy’n iawn.
Rho i ni ddewrder i sefyll ar ein pen ein hunain os bydd angen.
Bendithia’r rhai sydd mewn awdurdod yn arwain ein cenedl heddiw sydd angen bod yn ddewr.
Gofynnwn yn benodol i ti roi i’r Prif Weinidog newydd, a’i lywodraeth, y doethineb i arwain y genedl gyda chyfiawnder a chywirdeb.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon