Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Datrys Problemau Sydd Heb Eu Datrys

Helpu’r myfyrwyr ddeall bod gwahanol bobl yn meddwl mewn gwahanol ffyrdd.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr ddeall bod gwahanol bobl yn meddwl mewn gwahanol ffyrdd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: Cyflwyniad PowerPoint gyda sleidiau’n dangos darluniau a lluniau o ddyfeisiadau gan Leonardo da Vinci (am ragor o wybodaeth gwelwch y wefan http://www.bbc.co.uk/science/leonardo/) ar gyfer rhan 1.

  • Ar gyfer rhan 5, fe allai’r myfyrwyr edrych ar y BBC Leonardo Thinker Quiz er mwyn cael rhagor o fanylion am sut y gallai eu ffordd o feddwl eu helpu i benderfynu pa yrfa fyddai’n gweddu iddyn nhw: http://www.bbc.co.uk/science/leonardo/thinker_quiz/.

Gwasanaeth

  1. Mae angen i ni ddefnyddio gwahanol ffyrdd o feddwl i ddatrys gwahanol broblemau yn yr unfed ganrif ar hugain hon. Mae llawer o broblemau angen eu datrys, yn genedlaethol a byd-eang, ac mewn sawl maes academaidd. Gofynnwch i’r myfyrwyr: Ar ddechrau tymor newydd a blwyddyn ysgol newydd, am beth rydych chi’n meddwl, neu’n hytrach sut rydych chi’n meddwl?

    Fe allech chi ddangos cyflwyniad PowerPoint o ddarluniau a lluniau dyfeisiadau gan Leonardo da Vinci (1452–1519), yr arlunydd Eidalaidd, y gwyddonydd, y peiriannydd, mathemategydd a’r athrylith amryddawn a newidiodd y byd. Eglurwch fod Leonardo yn hynod am ei fod yn rhagori mewn cymaint o wahanol feysydd, a dangoswch pa mor amryddawn oedd o yn y ffordd roedd yn gallu meddwl am bethau.

  2. Pa fath o feddyliwr ydych chi? Ydych chi’n tueddu i feddwl yn y lle cyntaf yn nhermau rhifau, geiriau, seiniau, neu sut y byddai cyfres o weithredoedd yn effeithio ar deimladau pobl?

  3. Am lawer o flynyddoedd, bu pobl yn defnyddio profion cyniferydd deallusrwydd - IQ (Intelligence Quotient) er mwyn ceisio mesur deallusrwydd. Fodd bynnag, mae ymchwilwyr yn credu fwyfwy bod profion o’r fath yn methu cydnabod fod gwahanol bobl yn gallu meddwl mewn gwahanol ffyrdd. Erbyn hyn, mae deallusrwydd emosiynol - EI (Emotional Intelligence) yn cael ei weld fel rhywbeth sydd yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach na chyniferydd deallusrwydd.

  4. Mae llawer o seicolegwyr yn credu nawr fod ‘deallusrwydd’ yn cynnwys sawl categori gwahanol y mae’n bosib eu mesur ar wahân. Yn dilyn, mae’r ‘categorïau’ yn cael eu rhestru ynghyd â disgrifiad cryno. Bydd gan rai unigolion gryfderau mewn sawl ffordd o feddwl, ond eithriadau yw’r unigolion hynny sy’n dda ym mhob categori (e.e. Leonardo da Vinci):

    (a) Rhesymegol - mathemategol - pobl sy’n hoffi deall patrymau a pherthynas rhwng gwrthrychau a gweithredoedd, yn ceisio deall y byd yn ôl achos ac effaith, yn dda am feddwl yn feirniadol a datrys problemau’n greadigol. 

    (b) Ieithyddol - pobl sy’n tueddu i feddwl mewn geiriau ac yn hoffi defnyddio iaith i fynegi syniadau cymhleth, yn sensitif i seiniau a rhythm geiriau yn ogystal â’u hystyr. 

    (c) Rhyngbersonol - pobl sy’n hoffi meddwl am bobl eraill ac yn ceisio’u deall, yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi yr amrywiaeth sydd ymysg unigolion, yn gwneud ymdrech i ddatblygu perthnasoedd effeithiol gydag aelodau eraill eu teulu, eu ffrindiau a chydweithwyr.

    (d) Mewnol personol - pobl sydd bob amser yn meddwl amdanyn nhw’u hunain ac yn ceisio deall eu hunain a’u teimladau, ac yn gweithio i’w gwella, yn deall sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar eu perthynas ag eraill.

    (e) Naturiaethwr - pobl sy’n hoffi deall byd natur yn ei holl gymhlethdod, ac sydd â thueddfryd i gyfathrebu ag anifeiliaid.

    (f) Dirfodol - pobl sy’n hoffi treulio amser yn meddwl am faterion athronyddol, sy’n ceisio gweld y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd ar y pryd, yn deall ystyr dyfnach bywyd bob dydd, ac yn ystyried goblygiadau moesol a moesegol problemau yn ogystal â datrysiadau ymarferol. 

    (g) Cerddorol - pobl sy’n tueddu i feddwl mewn seiniau, rhythmau a melodïau, yn teimlo cysylltiad cryf rhwng cerddoriaeth ac emosiynau.

    (h) Gofodol - pobl sy’n aml yn meddwl mewn darluniau, sy’n gallu meddwl yn dda mewn 3-D ac sydd â dawn mewn gweithio gyda gwrthrychau.

    (i) Cinesthetig - pobl sy’n meddwl mewn symudiadau, yn hoffi defnyddio’u corff yn fynegiannol ac yn gallu gweithio’n dda gyda’u dwylo.

  5. Roedd William Shakespeare yn athrylith, ond mae’n debyg y byddai’n ymdrech iddo orfod dysgu am ffiseg cwantwm, fel y byddai i lawer ohonom ninnau. Yn yr un modd, mae’n debyg y byddai Einstein yn cael anhawster i ddeall gwaith Shakespeare oherwydd mai meddyliwr rhesymegol-mathemategol oedd Einstein yn hytrach na meddyliwr ieithyddol. Doedd Einstein yn ddim mwy clyfar na Shakespeare, dim ond bod y ddau ohonyn nhw’n meddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ac mae angen gwahanol ffyrdd o feddwl i ddatrys gwahanol broblemau. Ystyriwch aelodau eich teulu eich hun, neu eich ffrindiau, fe welwch chi fod rhai yn mynd ati i ddatrys problemau mewn gwahanol ffyrdd sy’n amlygu gwahanol ffyrdd o feddwl. Bydd rhai gyrfaoedd yn gweddu’n well i rai pobl nag i eraill oherwydd eu ffyrdd o feddwl. Er enghraifft, mae peirianyddion a rhaglenwyr cyfrifiaduron yn tueddu i fod yn feddylwyr rhesymegol-mathemategol.

  6. Mae llawer o broblemau sydd angen mynd i’r afael a nhw yn yr ugeinfed ganrif ar hugain, problemau sy’n effeithio ar lefydd, cymunedau, amgylcheddau a bywoliaethau yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’r materion yn cynnwys pethau fel canlyniadau’r newid yn yr hinsawdd, disbyddiad tanwydd ffosil, cynnydd ym mhoblogaeth y byd o tua 7 biliwn ar hyn o bryd i 9 biliwn erbyn 2050, disbyddiad ffynonellau dwr a thraweffaith globaleiddio ar wledydd sy’n datblygu. Yn nes adref, mae poblogaeth Prydain gyda chanran uchel o bobl oedrannus, ac mae sialensiau economaidd yn codi eu pen oherwydd bod India a Tsieina’n tyfu mor fawr. Mae’r sialensiau yma i gyd yn her ac yn gyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, peirianyddion, gwleidyddion, gwyddonwyr, economegwyr ac eraill.

  7. Mae llawer o broblemau heb eu datrys eto ym maes mathemateg, gwyddoniaeth, athroniaeth, ieithyddiaeth ac economeg. Dyma rai: 

    (a) Mewn niwrowyddoniaeth (gwyddoniaeth yr ymennydd), y cwestiynau: Pam rydyn ni’n breuddwydio? Beth yw mecanwaith gwaelodol yr ymennydd? Beth yw perthynas hwnnw ag anaesthesia?

    (b) Mewn athroniaeth (a niwrowyddoniaeth), sut y gallwch chi egluro ymwybyddiaeth ddynol? 

    (c) Mewn cemeg, does neb yn gwybod beth yw canlyniad cemegol o gael elfen, gyda rhif atomig sy’n uwch na 137, y mae ei helectronau 1s yn gorfod teithio’n gyflymach na chyflymder goleuni? Ai Feynmanium yw’r elfen gemegol olaf all fodoli’n ffisegol?

    (d) Mewn ieithyddiaeth, a  oes unrhyw gategorïau gramadegol byd-eang y mae’n bosib dod o hyd iddyn nhw ym mhob iaith? Sut y dechreuodd iaith ddynol? 

    (e) A llawer, llawer mwy!

  8. Dysgai Iesu’r bobl fod Duw yn adnabod pob un ohonom - mae’n gweld beth fyddwn ni’n ei wneud, sut rydyn ni’n trin pobl eraill, ac mae’n gwybod beth yw ein meddyliau a’n teimladau. Ddylai hyn ddim ein dychryn, gan fod Duw’n gwybod hyn i gyd ac yn ein caru. Mae’n gallu ysgogi pobl  a’u harwain i ddatrys problemau er mwyn gwneud y byd yn lle gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Amser i feddwl

Mae sut rydyn ni’n meddwl a beth rydyn ni’n ei feddwl yn bwysig iawn. Mae meddwl yn gadarn am bethau sy’n dda, yn wir, ac yn hardd (e.e. gweithredoedd o garedigrwydd pur a haelionus, dewrder a hunanaberth, neu harddwch plentyn bach newydd-anedig) bob amser yn well na meddwl yn negyddol. Mae rhai pobl y mae’n well ganddyn nhw un ffordd o feddwl, ac mae rhai sgiliau yn dod yn rhwyddach iddyn nhw nag eraill. Mae pobl eraill yn gallu mabwysiadu gwahanol ffyrdd o feddwl mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Treuliwch foment neu ddwy yn ystyried pa steil yw eich ffordd chi o feddwl ar hyn o bryd. Peidiwch â theimlo’n gyfyngedig wrth i chi feddwl am beth yw eich cryfderau - mae’r ymennydd yn organ hynod o hyblyg ac ymaddasol, ac wrth ymarfer fe allwch chi hyfforddi’ch hun i wella’ch perfformiad yn unrhyw un o’r categorïau meddwl. Dyna i chi rywbeth i feddwl amdano yn ystod y tymor newydd yma a’r flwyddyn ysgol newydd!

Gweddi
Arglwydd Dduw, diolch dy fod ti’n ein caru ni fel unigolion, a diolch dy fod ti’n gwybod sut a pham yr ydyn ni’n meddwl am bethau yn y ffordd y byddwn ni’n gwneud. Helpa ni i ddatrys problemau, bach a mawr, pa un ai yn ein bywydau ein hunain neu yn y byd o’n cwmpas, trwy ein hannog i droi atat ti am ysbrydoliaeth, mewnwelediad ac arweiniad.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon