Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch Ati I Redeg!

Helpu’r myfyrwyr i ddeall pa mor bwysig yw ‘dal ati’ mewn bywyd, a gweld sut y gallwn ni gyffelybu bywyd i ras.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddeall pa mor bwysig yw ‘dal ati’ mewn bywyd, a gweld sut y gallwn ni gyffelybu bywyd i ras.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

Bydd y BUPA Great North Run, yr hanner marathon mwyaf yn y byd, yn cael ei chynnal ddydd Sul, 19 Medi 2010.

  1. Ydych chi’n mwynhau rhedeg? Os ydych chi, ai gwibiwr ydych chi, sy’n hoffi rhedeg yn gyflym mewn rasys 100-metr neu 200-metr, neu redwr pellter hir (5-km, hanner marathon neu farathon llawn)?

    (Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo gyda’r ddau fath gwahanol o redeg).

  2. Mae’r BUPA Great North Run, yr hanner marathon mwyaf yn y byd, yn cael ei chynnal ddydd Sul, 19 Medi 2010. Disgwylir y bydd tua 54,000 o redwyr ymroddedig yn rhedeg.

  3. Oes rhywun yn gwybod sawl milltir yw ras marathon? A hanner marathon? 

    (Ateb: 26 milltir yw marathon llawn, a 13 milltir yw hanner marathon.)

  4. Tra bod llai o bobl yn mynd i’r gampfa i ymarfer y dyddiau hyn, mae ystadegau’n dangos bod rhedeg yn fwy poblogaidd nag erioed, ac mae mwy o bobl nag erioed yn rhedeg yn gyson. Mae’r ffigurau chwarterol diweddaraf gan Sport England yn dangos bod cyfranogiad mewn athletau, sy’n cynnwys rhedeg a loncian, wedi cynyddu fwy na 215,000 i 1.827 miliwn rhwng yr arolwg a wnaed yn 2007/08 a’r arolwg a wnaed yn 2008/09. Mae’r rhediadau 5-km tuag at elusennau fel y ‘Race for Life’ wedi dod yn boblogaidd iawn i godi arian ar gyfer achosion da, yn cynnwys ymchwil i ganser y fron. Mae marathonau, pa un ai rhai llawn neu hanner, wedi dechrau cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o’r prif drefi a’r dinasoedd ym Mhrydain, a’r ddiweddaraf yn nhref Brighton.

  5. Yn ogystal â bod yn ffordd ardderchog o godi arian at elusennau, mae llawer o fanteision i’r rhai sy’n rhedeg er mwyn cadw’n iach: mae’n hwyl - wrth ryddhau cemegau a elwir yn ‘endorphins’, mae’n gallu gwneud i bobl deimlo’n hapusach (iechyd meddyliol/ emosiynol); mae’n lles i’r galon (iechyd corfforol); ac mae hyfforddi ar gyfer rasys yn arfer disgyblaeth ac ymrwymiad (iechyd ysbrydol). Mae hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau (iechyd cymdeithasol).

  6. Mae nifer o bobl yn teimlo y bydden nhw’n hoffi rhedeg marathon ryw dro yn ystod eu bywyd. Bob blwyddyn, mae llawer o bobl yn cyflawni’r nod hwnnw ar ôl wythnosau i hyfforddiant a pharatoi.

  7. Bydd llawer o bobl yn gweld bywyd fel ras – dechrau pendant, gyda chamau i’w cyrraedd wrth i chi redeg ras bywyd. Mae’n amlwg y bydd pawb ohonom ymhen amser yn gorffen ras bywyd – y ffordd y byddwch chi’n ymddwyn ar hyd y ffordd a fydd yn gwneud i bobl eich caru chi.

Amser i feddwl

Mae teimlad arbennig iawn, a theimlad o gyflawniad gwych, i’w gael wrth redeg ochr yn ochr â miloedd o redwyr eraill mewn ras pellter hir. Ac mae hyn yn neilltuol o wir ar ôl i’r rhedwr dreulio wythnosau yn ymarfer rhedeg pellteroedd sylweddol, a hynny’n aml ar ben ei hun. Gadewch i deithwyr eraill eich ysbrydoli chi ar y daith sy’n ras bywyd, a rhedwch gyda dyfalbarhad y ras y mae pob un ohonom wedi cofrestru arni, y ras y mae gan bob un ohonom y potensial i’w hennill.

Y pethau yr ydych chi’n eu gwerthfawrogi a fydd yn pennu sut y byddwch chi’n rhedeg, ac a fydd yn eich ysgogi ymlaen yn ras bywyd.  Pan fyddwch chi’n teimlo’n flinedig ac yn ddiynni gyda’r anawsterau a’r heriau sydd yn wynebu pob un ohonom mewn bywyd, beth fydd yn eich cymell ymlaen? Mae meddwl am y wobr yn aml yn ysgogiad. Y ffordd i allu dal ati a chyrraedd y llinell derfyn yw canolbwyntio ar y cam nesaf bob tro. Gadewch i Dduw eich arwain, gyda gwerthoedd da, perthnasoedd a chyfanrwydd yn ystod y tymor, y flwyddyn ysgol yma, ac am weddill ras eich bywyd.

Gweddi
Diolch i ti, Dduw, am fod gyda ni ar ‘ras’ bywyd. Helpa ni i gael gwared â’r pethau rheini sy’n ein dal yn ôl rhag i ni redeg ras o ffydd, gobaith a chariad sy’n dy blesio di.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth arall a awgrymir

Cerddoriaeth thema’r ffilm Chariots of Fire

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon