Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ryddid

Archwilio cysyniad y Gorllewin o ryddid.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio cysyniad y Gorllewin o ryddid.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi ddosbarthu gwahanol rannau’r gwasanaeth yma i’w darllen gan wahanol unigolion os hoffech chi wneud hynny.

  • Fe allech chi ddefnyddio’r testun sylfaenol fel pwnc trafod yn y dosbarth, ac yna fe allech chi drafod rhagor o enghreifftiau y mae’r myfyrwyr yn gallu meddwl amdanyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Yn ein cymdeithas ni heddiw, rydyn ni’n ystyried rhyddid yn rhywbeth gwerthfawr iawn. Mae’r dywediad enwog o eiddo Benjamin Franklin ‘Give me liberty or give me death!’ yn canu cloch yn ein seice moesol ni: mae rhyddid unigolyn yn werth aberth unigolyn arall. Er bod i ryddid ei werth amlwg, mae hefyd wedi bod yn syniad sydd wedi cael ei gamddefnyddio gan wleidyddwyr, arweinwyr byd busnes, a newyddiadurwyr, i helpu cryfhau eu grym a gwrthod i bobl yr union beth hwnnw maen nhw’n honni ei roi iddyn nhw.

  2. Mae’r syniad o ‘ryddid’ yn llawer rhy lydan mewn gwirionedd i’w labelu gydag un gair. Mae dau fath o ryddid (liberty): cadarnhaol a negyddol. Rhyddid negyddol yw’r rhyddid i beidio â chael rhywun yn amharu ar eich cynlluniau neu eich bwriadau. Caiff y math yma o ryddid ei nodweddu gan egwyddor yr athronydd John Stuart Mill - ‘that no powerful entity should be able to interfere with a person’s life unless that person were to use that liberty to do harm to others’.

    Eto, nid yw rhyddid negyddol yn treiddio i gymdeithas. Mae’n amheus gen i a fyddech chi yma yn y gwasanaeth heddiw, neu hyd yn oed yn yr ysgol pe byddech chi wedi cael y dewis. Ond, rydych chi yma, oherwydd bod pobl eraill yn gwybod y byddwch chi yn y pen draw ar eich ennill ar ôl bod yma. Dyna gnewyllyn rhyddid cadarnhaol: ei bod hi’n bosibl dysgu rhywun sut i fod yn fwy rhydd. Efallai y byddai’n well gennych chi aros yn eich gwely yn y bore yn hytrach na mynd i wersi mathemateg, ond mae’r sgiliau mathemategol a enillwch chi yn y gwersi yn helpu i ymestyn eich meddwl. Fe fyddwch chi wedyn yn gallu datrys problemau fyddech chi ddim yn gallu eu datrys heb y sgiliau hynny.

  3. Fe welwn ni felly bod rhyddid cadarnhaol a negyddol yn gwrthdaro, a dyletswydd y llywodraeth yw cadw cydbwysedd rhwng y ddau fath fel y gall pobl wneud cynlluniau synhwyrol a’u cyflawni. Digwyddodd yn yr Undeb Sofietaidd enghraifft glir o ryddid cadarnhaol a aeth yn benwyllt. Rhwystrwyd dinasyddion rhag cael rhyddid negyddol pwysig o blaid cael delfryd o undeb gymdeithasol na ddaeth byth i fodolaeth. Ond fyddai cymdeithas o ryddid negyddol yn unig ddim yn gweithio ychwaith: gosodwyd gwladwriaeth felly ar y Rwsia newydd yn 1991 ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd. A chanlyniad hynny oedd anhrefn economaidd a chrafangu pwer gan rai oedd mewn grym yn cyfoethogi ychydig rai a’u gwneud yn ‘billionaires’ dros nos fel petai.

  4. Mae’n amlwg felly bod angen cydbwysedd rhwng y ddau beth, nid yw’n bosib cael gwir ryddid am hir heb y cydbwysedd iawn. Mae angen sefydliadau fel gwladwriaeth sy’n gallu defnyddio grym i gael ei ffordd, er mwyn sicrhau rhyddid i’r rhai sy’n llai abl i amddiffyn eu hunain rhag eraill. Er hynny, os yw’r wladwriaeth yn tyfu’n rhy rymus, fe all fod yn beryglus am yr un rheswm, sef ei bod yn anghenraid; fe all ddefnyddio grym corfforol, fel yr heddlu a’r fyddin i orfodi’r dinasyddion ufuddhau iddi.

    Mae gan bob gwlad ei llywodraeth: os oes diffyg llywodraeth, fydd pethau ddim yn hir cyn i’r bobl fwyaf caled, neu’r bobl sydd â’r casgliad mwyaf o arfau a gynnau, gymryd drosodd a ffurfio llywodraeth newydd. Mae angen cael rhyw fath o wladwriaeth.

  5. Mae gwrthdaro rhwng athronwyr gwleidyddol ynghylch maint y wladwriaeth yma. Mae rhai wedi dadlau bod yr hawl ddynol i ryddid yn mynnu lleiafswm o wladwriaeth, yn cynnwys corff sy’n gallu gorfodi deliant a wneir gan oedolion rhydd. Mewn gwladwriaeth o’r fath, fe fydd gwasanaethau angenrheidiol yn cael eu sefydlu am fod angen marchnadol amdanyn nhw: fe fydd unigolion mentrus yn gweld bod pobl angen gwasanaeth tân, dyweder, ac yn sylweddoli y gallen nhw wneud arian wrth sefydlu busnes o’r fath. Wrth gwrs, os ydych chi’n rhy dlawd i allu fforddio galw’r frigâd dân fe fydd eich cath yn cael aros ar ben y goeden. Ond, wrth feddwl fel hyn, rydych chi’n dlawd oherwydd eich bod wedi cael cyfle i lwyddo mewn bywyd ond wedi methu. Rydych chi’n rhydd i geisio eto. Pe byddai’r wladwriaeth yn eich cynnal, fe fyddai hynny’n tanseilio eich rhyddid a rhyddid pobl eraill. Yn amlwg, mae hyn yn gymdeithas sy’n seiliedig ar ryddid negyddol.

  6. Yna, mae rhai eraill sy’n dadlau nad oes neb yn haeddu eu doniau naturiol, felly does neb yn haeddu’r hyn maen nhw’n ei gael wrth ymarfer y doniau hynny. Wnaethoch chi ddim dewis eich awydd naturiol i weithio’n galed, neu fod yn gallu canu, actio, neu ddawnsio, felly pam y dylech chi gael mantais o hynny? Fe ddylai eich paced tâl mawr gael ei ailddosbarthu a’i rannu rhwng y bobl sydd wir angen yr arian, er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu cyrchnodau eu hunain. Mae angen gwladwriaeth fawr i wneud hyn, ond mae yn dal i fod yn seiliedig ar ryddid negyddol. Er hynny, gobeithir yn aml fod rhannu adnoddau’n mynd i greu cwlwm o gydlyniad yn y wladwriaeth: cynnyrch rhyddid cadarnhaol.

  7. Mae’n amlwg bod ein cymdeithas ni rywle rhwng y ddau begwn yma. Mae gan rai pobl lawer mwy o arian nag y mae’n ymddangos sy’n haeddiannol iddyn nhw; mae rhai eraill â llai. Eto, mae’r cysyniad cyffredin o ryddid yn parhau’n unigolyddol iawn a negyddol: mae pleidleiswyr eisiau trethi is ond dedfrydau carcharu llymach, er enghraifft. Ond mae rhannau eraill i ryddid, ac ni fydd syniad o ryddid sy’n llethol seiliedig ar syniadau negyddol yn arwain at gymdeithas iach. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau – cenedl sy’n enwog am fod â threthi isel, rheoliadau busnes rhwydd a chred gref mewn rhyddid personol – mae un o bob cant o’r dinasyddion yn y carchar. Nid oes cyfrif mor uchel yn unman arall yn y byd, nac wedi ei gofnodi erioed mewn hanes. Pris rhyddid negyddol llwyr yw bod lleiafrif arwyddocaol yn methu mwynhau unrhyw ryddid o gwbl.

  8. Pa fath o ryddid rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol? Efallai bod hynny’n rhywbeth y gallem ni feddwl amdano heddiw.

Amser i feddwl

Chwaraewch gerddoriaeth sy’n rhoi cyfle i rywun feddwl am bethau, a rhowch amser i’r myfyrwyr wneud hynny.

Beth yw’r cydbwysedd yn eich bywyd personol rhwng rhyddid negyddol a rhyddid cadarnhaol?

Sut y byddech chi’n hoffi newid y rhyddid sydd i’w gael o fewn ein cymdeithas ni?

Sut y byddwch chi’n pleidleisio yn yr etholiad nesaf?

Cerddoriaeth

Mae’r casgliad The Resistance gan Muse yn cynnwys traciau sy’n ymwneud â rhyddid – ac mae’r rhain ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Hefyd, mae’r casgliad Refugee gan Camel yn cynnwys traciau sy’n ymwneud â rhyddid personol. Eto, mae’n bosib bod y rhain hefyd ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon