Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wats William Paley

Ystyried sut y gall wats helpu i awgrymu tystiolaeth o fodolaeth Duw.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gall wats helpu i awgrymu tystiolaeth o fodolaeth Duw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dau ddarllenydd (un wedi ei wisgo mewn dillad heicio, os yn bosib, ac yn cario map Arolwg Ordnans).

  • Un wats.

Gwasanaeth

  1. Darllenydd 1 (wedi ei wisgo mewn dillad heicio ac yn cario map; yn cerdded i mewn o ochr y llwyfan.): Rydw i wedi bod yn cerdded ers oriau. Mae’n braf cael bod allan yn yr awyr agored, neb o gwmpas, dim ond fi, fy map, a byd natur. Ffantastig! 

    (Yn cerdded ymlaen ychydig, ac mae’n sylwi ar rywbeth ar lawr.) 

    Helo! Beth ydi hwn? (Mae’n codi wats i fyny.) O! Mae rhywun wedi colli ei wats – siwr ei fod yn gofidio’i cholli, mae’n wats hardd! (Yn edrych o gwmpas.) Gadewch i mi weld alla i ddod o hyd i’r un sydd wedi’i cholli.

    Darllenydd 2 (yn dod i mewn o’r ochr arall yn chwilio am rywbeth): Rydw i wedi colli fy wats! Dyna niwsans! (Yn parhau i chwilio.)

    Darllenydd 1: Helo! Wyt ti’n chwilio am rywbeth?

    Darllenydd 2: Ydw, rydw i wedi colli fy wats yn rhywle ac rydw i wedi bod yn chwilio’n ddyfal amdani. Mae gen i syniad mai rywle ar ffordd yma y gwnes i ei cholli.

    Darllenydd 1: O! Ti sydd wedi colli hon? Dyma hi. Rhaid ei bod wedi disgyn gen ti pan oeddet ti’n mynd y ffordd yma. 

    Darllenydd 2: O, diolch yn fawr iawn! Rydw i mor falch ei bod hi wedi dod i’r golwg, mae’r wats yma’n bwysig iawn yn fy ngolwg i. 

    Darllenydd 1: Ydi, dwi’n siwr. Mae’n wats hardd iawn, mae ei gwneuthuriad hi mor gain.  Beth bynnag, rhaid i mi fynd (pwyntio at y map), rhai milltiroedd i fynd eto. 

    Darllenydd 2: Iawn! A finnau hefyd – diolch eto, diolch o galon (yn troi’n ôl ac yn cerdded eto ar ei daith).

    Darllenydd 1: (yn cychwyn cerdded eto yn ei flaen) Ie, wats brydferth iawn, wedi’i gwneud mor gywrain, mecanwaith hardd iddi. Tybed pwy wnaeth y wats? (codi’i ysgwyddau, a cherdded oddi ar y llwyfan.)

  2. ‘Pwy wnaeth y wats?’ Dyna gwestiwn da; efallai eich bod yn meddwl hynny eich hun wrth i chi edrych ar rywbeth cywrain. Tybed pwy wnaeth hwn? Ai peiriant, ai unigolyn? Rhywun mewn ffatri? Gafodd hwn ei wneud â llaw? Fe wnawn ni adael ein cerddwyr i fynd ymlaen ar eu taith a dweud eu storïau wrth bwy bynnag fyddan nhw’n cwrdd â nhw. Gadewch i ninnau feddwl am ein prif gwestiwn heddiw: sut y gall wats ein helpu i brofi bodolaeth Duw?

  3. Yn y 18fed ganrif, fe benderfynodd dyn o’r enw William Paley ddefnyddio wats fel enghraifft i egluro sut y creodd Duw’r byd a sut mae’n pwyntio at fodolaeth Duw’r creawdwr. Mae’r ddadl hon yn ddiddwythol: mae’n dadlau o’r hyn rydych chi’n ei weld nes dewch chi i gasgliad. Felly, fe ddefnyddiodd Paley y syniad yma i geisio profi bodolaeth Duw.

    Darllenydd 1: Dywedodd William Paley: 

     . . . when we come to inspect the watch, we perceive . . . that its several parts are framed and put together for a purpose, for example, that they are so formed and adjusted as to produce motion, and that motion so regulated as to point out the hour of the day; that if the different parts had been differently shaped from what they are, or placed after any other manner or in any other order than that in which they are placed, either no motion at all would have been carried on in the machine, or none which would have answered the use that is now served by it . . . The inference we think is inevitable, that the watch must have had a maker – that there must have existed, at some time and at some place or other, an artificer or artificers who formed it for the purpose which we find it actually to answer, who comprehended its construction and designed its use.

  4. Felly, y ddadl yw, os edrychwch chi ar y bydysawd, a’i gymhlethdodau, does bosib y gallech chi gredu bod y cyfan wedi’i lunio ar ddamwain. Mae’r coed bob un yn wahanol gyda’u holl arlliwiau o wyrdd, ac mae cymaint o amrywiaeth ym myd yr anifeiliaid; nadroedd, llewod, teigrod, meddyliwch am y cameleon; ac os trowch chi’ch meddwl at gymhlethdod rhyfeddol y corff dynol, y ffordd rydych chi’n anadlu, y ffordd mae’r corff yn adnewyddu ei hun; y ffordd y gwnaethoch chi ddatblygu o nifer o gelloedd i fod yn un o’r creaduriaid mwyaf hynod a chymhleth ar wyneb y ddaear, fe fyddai William Paley yn dweud ein bod fel y wats gyda’i holwynion bach cywrain a’i mecanwaith cymhleth - mae’r peth mor rhyfeddol rhaid bod rhyw ddylunydd wedi ein creu, ac enw’r dylunydd hwnnw gennym ni yw ‘Duw’.

  5. Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod mwy erbyn hyn nag a wyddai William Paley am y greadigaeth a datblygiad y byd a’r bydysawd. Roedd Paley yn byw o flaen Charles Darwin. Gwyddom fod gwyddonwyr ledled y byd wedi derbyn damcaniaeth Darwin am esblygiad. Er hynny, pa un ai ydych chi’n credu mewn Duw’r creawdwr sy’n fewnfodol ac yn bresennol ym mhob rhan o’r greadigaeth, neu’n credu mai ar hap yr ydym yma a’r broses o esblygu wedi digwydd ar ôl hynny, neu efallai bod eich cred rywle yn y canol rhwng y ddau beth yma, allwn ni ddim gwadu fod y byd rydyn ni’n byw ynddo, a’r bywyd sy’n dod i’n rhan, yn anhygoel o gymhleth ac ardderchog.

  6. Felly, y tro nesaf y byddwch yn edrych ar eich wats, ystyriwch pwy wnaeth y wats. Efallai yr hoffech chi wneud yr un peth gyda’r sêr yn yr awyr hefyd y tro nesaf y byddwch yn edrych arnyn nhw.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a rhowch amser i’r myfyrwyr feddwl am yr hyn y maen nhw newydd ei glywed.

Gweddi
Ein byd
dy greadigaeth
wedi’i rowlio’n belen
wedi’i becynnu mewn heulwen
wedi’i lapio mewn cariad
ac wedi’i roi i ni.
Diolch.

Cerddoriaeth

‘Fragile’ gan Sting, sydd ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon