Tyfiant Ffydd
Myfyrio ar sut y mae ffydd yn tyfu ac yn datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Myfyrio ar sut y mae ffydd yn tyfu ac yn datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen.
Paratoad a Deunyddiau
- Dangoswch adnodau o Salm 8.3–4 ar y bwrdd gwyn:
‘Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,
y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle,
beth yw meidrolyn, iti ei gofio,
a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?’
Gwasanaeth
- Mae pobl bob amser wedi cael eu cyfareddu gan awyr y nos – a chan y gofod. Yn Ionawr 2011, fe fydd dathlu 50 mlynedd ers yr amser yr anfonwyd y creadur byw cyntaf i’r gofod. Ar 31 Ionawr 1961, fe lansiodd NASA y rhaglen Project Mercury, gan anfon Ham, y tsimpansî, i’r gofod. Fe ddychwelodd y tsimpansî yn ddiogel er bod teithiau o’r fath wedi cael eu hatal wedyn.
- Ar 31 Ionawr 1971, Apollo 11 gan NASA oedd y llong ofod gyntaf i fynd â phobl i’r lleuad. Dyna gamau breision oedd wedi’u gwneud ym maes archwilio’r gofod, yn Rwsia ac yn Unol Daleithiau America, yn ystod y deg mlynedd rhwng y ddau ddyddiad yma! Yn y blynyddoedd rhwng y ddau broject bu’r meddylwyr gorau erioed ar waith yn gwthio ffiniau astroffiseg, gwyddoniaeth, peirianneg a dygnwch dynol. Mae’n debyg y byddai’n rhaid i lawer ohonom gyfaddef mai ychydig a wyddom am y gwyddorau cymhleth ac enfawr hyn.
- Gannoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl ddoeth yn gwybod digon am y sêr a’r arwyddion yn yr entrychion, ac am ddoethinebau ac ysgrifau hynafol, i wybod fod rhywbeth newydd wedi’i eni. Roedd seren newydd lachar iawn yn yr awyr. Mae’n debyg fod gan y bobl ddoeth rheini ei damcaniaethau eu hunain am y seren hon, heb fod yn wahanol iawn i wybodaeth meddyliau mwyaf clyfar pobl heddiw efallai. Roedd y doethion yn gwybod hefyd fod y seren ddisglair yn rhagfynegi rhywbeth a’i bod yn llawer pwysicach na dim ond golau llachar yn yr awyr. Roedden nhw’n credu bod y seren hon yn datgan dyfodiad brenin newydd, rhywun a fyddai’n gallu newid y byd.
- Eleni, fe fyddwn ni’n clywed stori’r Nadolig eto. Efallai ein bod wedi ei chlywed sawl tro o’r blaen. Efallai ein bod yn meddwl ein bod yn gwybod y stori’n iawn. Efallai na fyddwn yn gwrando, am ein bod yn meddwl nad oes unrhyw beth newydd ynddi.
Gadewch i ni wrando unwaith eto arni, â chlustiau newydd, nid oherwydd am fod y stori’n wahanol ond am ein bod ni’n wahanol. Rydyn ni wedi newid ers yr amser yma y llynedd. Rydyn ni wedi symud ymlaen mewn llawer ystyr: gwybodaeth a dealltwriaeth, ac yn ein gallu i gwestiynu a dadansoddi. Efallai na fydd yr atebion i gyd gennych chi na minnau y Nadolig yma, ond o leiaf fe allwn ni symud ymlaen o ran bod yn barod i wrando ac i ystyried y neges. Dyma beth yw ystyr ffydd sy’n tyfu.
Amser i feddwl
Flynyddoedd lawer cyn geni Iesu, roedd bachgen o’r enw Dafydd yn byw. Bugail oedd Dafydd. Fe fyddai wedi arfer treulio nosweithiau allan o dan y sêr. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn frenin. Dyma ddatganiad ganddo am ei ffydd:
Dangoswch yr adnodau o Salm 8.3–4 ar y bwrdd gwyn, a darllenwch y rhain i’r myfyrwyr:
‘Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a’r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?’
Gweddi
Annwyl Dduw, agor ein dealltwriaeth,
fel y gallwn ni weld gwirioneddau rhyfeddol y Nadolig hwn.
Cerddoriaeth
Canwch un o’ch hoff garolau.