Nadolig: Adeg O Lawenydd Neu Unigrwydd?
Ystyried y ffaith nad yw adeg y Nadolig yn adeg o lawenydd i bawb.
gan Jude Scrutton
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y ffaith nad yw adeg y Nadolig yn adeg o lawenydd i bawb.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch o flaen llaw nifer o ysgewyll (Brussels sprouts) trwy eu coginio mewn stêm am ychydig ac yna’u gorchuddio â siocled meddal. Gadewch y rhain mewn oergell dros nos.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r myfyrwyr sut beth yw’r Nadolig iddyn nhw a’u teuluoedd. Wrth iddyn nhw ymateb, lluniwch restr ar siart droi neu fwrdd gwyn rhyngweithiol. Siaradwch am y cyffro, y rhannu anrhegion, a chael bod gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru, cael bwyta hoff fwydydd, gosod addurniadau a siocledi ar y goeden Nadolig ac ati.
- Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo os ydyn nhw’n hoffi adeg y Nadolig (fe fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr, hyd yn oed os ydyn nhw’n dod o gefndir trwblus, yn edrych ymlaen at y Nadolig). Byddwch yn ofalus, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gweld y Nadolig yn amser anodd, yn enwedig os ydyn nhw wedi colli rhai oedd yn annwyl ganddyn nhw ac yn agos atyn nhw. Byddwch yn ymwybodol o’ch cynulleidfa, a threfnwch fod rhai oedolion gyda chi i roi cefnogaeth sensitif os bydd angen.
- Gofynnwch i’r myfyrwyr: Pwy sy’n hoffi bwyta siocledi ar adeg y Nadolig? Dangoswch yr ysgewyll (sprouts) siocled iddyn nhw, ond peidiwch â dweud mai ysgewyll ydyn nhw. Eglurwch yr hoffech chi greu record byd trwy fwyta mwy na deg o’r melysion mewn 30 eiliad.
- Dewiswch ddau fyfyriwr fyddai’n fodlon rhoi cynnig arni - myfyrwyr sydd â synnwyr digrifwch ac sydd ddim yn dioddef o unrhyw alergedd - dau fyfyriwr yr ydych yn eu hadnabod yn eithaf da fyddai’n ddelfrydol. Wrth i’r myfyrwyr ddechrau bwyta, fe fydd y mynegiant ar eu hwynebau’n arwydd i’r gynulleidfa nad yw popeth yn iawn! Gallwch egluro’r gyfrinach i’r gynulleidfa (ac efallai y byddai’n syniad da cael bag plastig neu ddau yn barod i’r gwirfoddolwyr gael poeri iddyn nhw).
- Holwch, oes rhywun yn gweld pwrpas yn yr hyn rydych chi wedi gofyn i’w cyfoedion ei wneud? Eglurwch mai’r bwriad oedd dangos bod y Nadolig yn adeg o ddathlu a llawenhau i’r rhan fwyaf o bobl. Er hynny, mae llawer o bobl sy’n teimlo bod yr adeg hon o’r flwyddyn yn adeg oeraidd, unig ac anhapus iawn.
Amser i feddwl
Meddyliwch sut beth fyddai’r Nadolig pe na bai gennym gartref, heb fam neu dad neu rywun i ofalu amdanom.
Eglurwch sut yr oedd y Nadolig cyntaf wedi bod yn foment hyfryd wrth i Mair groesawu genedigaeth ei babi bach. Ond ar yr un pryd, fe fyddai hi wedi bod yn bryderus am y dyfodol, ac yn teimlo’n unig mae’n debyg am ei bod oddi cartref ac ymhell oddi wrth ei theulu.
Efallai y bydd eich ysgol yn gallu cefnogi elusen leol ar yr adeg yma - elusen fel Byddin yr Iachawdwriaeth, o bosib.
Gweddi
Arglwydd Dduw, helpa ni i gofio am y bobl sydd yn llai ffodus na ni ein hunain.
Cerddoriaeth
‘Lonely this Christmas’ gan Mud, ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr.