Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Seiber-Fwlio A Fi

Ystyried effaith seiber-fwlio.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried effaith seiber-fwlio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch dudalen nodweddiadol o Facebook i’w thaflunio.

Gwasanaeth

  1. Os gwelsoch chi’r ffilm The Social Network (2010, 12A), fe fyddwch chi’n gwybod bod y ffilm, sy’n darlunio dyddiau cynnar Facebook, yn dechrau gyda myfyriwr ym Mhrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau, Mark Zuckerberg, yn cael ei wrthod gan ei gariad. (Dychmygol yw’r rhan hon o’r ffilm.) Mae’r myfyriwr yn mynd yn ei ôl i’w ystafell ac yn ysgrifennu rhai pethau digon annymunol am y ferch ar ei flog, ac mae’r pwyso’r botwm ‘send’.

  2. Mae’r hyn a ddywedodd o am ei gyn gariad yn sicr o beri iddi gael ei bychanu’n gyhoeddus a bydd rhai yn chwerthin am ei phen. Ond mae’r hyn a ysgrifennwyd yn hollol amhosibl ei dynnu’n ôl, hyd yn oed pe byddai’r myfyriwr wedi pwyso ‘delete’ yr eiliad nesaf. Unwaith yr oedd wedi mynd, roedd hi’n rhy hwyr wedyn. Mor wir oedd yr hyn a ddywedodd hi’n ddiweddarach yn y ffilm: ‘You didn’t write it in pencil, you wrote it in ink.’

  3. Flynyddoedd yn ôl, mewn dyddiaduron y byddai pobl yn ysgrifennu pethau fel hyn, a byddai’r dyddiaduron rheini’n bethau preifat iddyn nhw’u hunain yn unig. Wrth ysgrifennu blog, rydych chi’n sicr o gael rhannu eich gofidiau – ond i ba bwrpas? Mae’r ddau gymeriad Zuckerberg a’i gyn gariad yn cwrdd trwy gydol y ffilm, ond dydi hi ddim yn gallu maddau iddo fo – mae’n methu bod yn ffrind iddo hyd yn oed.

  4. Efallai bod sawl un ohonoch chi sydd yma heddiw wedi bod yn ddioddefwyr fel hyn. Mae seiber-fwlio yn beth mor hawdd ei wneud, ond yn beth mor anodd ei olrhain. Dyma’r ffurf eithaf o ddial gan unigolion llwfr.

  5. Mae holl brif grefyddau’r byd yn gytûn ar yr un foeseg sy’n ymwneud â pherthnasoedd sylfaenol: peidiwch â gwneud i bobl eraill yr hyn na fyddech chi’n hoffi iddyn nhw ei wneud i chi:

    - Peidiwch â rhegi ar neb os nad ydych chi eisiau iddyn nhw ymateb yn yr un ffordd.
    - Peidiwch â beirniadu neb os ydyn nhw’n gwneud eu gorau.
    - Os ydych chi eisiau i bobl eich parchu chi, rhaid i chi eu parchu nhw hefyd.
    - Cyn i chi wneud unrhyw fath o seiber-fwlio, meddyliwch sut byddech chi’n teimlo pe bai rhywun yn gwneud hynny i chi?

Amser i feddwl

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am y tro diwethaf y cawsoch chi eich brifo, neu eich bychanu. Sut y gwnaethoch chi ddelio â hynny?

Sut roeddech chi’n teimlo wedyn ynghylch yr un a wnaeth hynny i chi?

Nawr ystyriwch

Sut y gallech chi drin pobl eraill er mwyn osgoi i bethau fel hyn ddigwydd? Allech chi fod yn fwy amyneddgar? Yn fwy tosturiol – gan geisio deall sut mae pobl eraill yn teimlo?

Ydych chi wedi cael eich bwlio ryw dro, fel y cafodd cyn gariad Mark Zuckerberg ei bwlio?

Meddyliwch am ffyrdd y gallech chi godi uwchlaw peth fel hyn, gan anwybyddu’r boen a cheisio ystyried beth sy’n mynd ymlaen yn achos y bwli ei hun.
Ai dim ond mater o gyfrif i ddeg ydyw?
Neu o gerdded i ffwrdd oddi wrth y sefyllfa? 
Neu ymateb yn garedig, a gofyn allech chi helpu’r person arall?

Ac yn awr, allwch chi gytuno â fi bod seiber-fwlio ddim yn rhywbeth y byddwn ni’n dymuno ei wneud?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Baby, you’re a rich man’ gan y Beatles (y darn cerddoriaeth ar ddiwedd y ffilm), ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon