Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gweddio

Trafod pa mor bwysig yw gweddïo.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Trafod pa mor bwysig yw gweddïo.

Paratoad a Deunyddiau

Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr rai lluniau o’r gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing (BBC1).

Gwasanaeth

  1. Tybed wnaethoch chi wylio’r gyfres ddiweddaraf o Strictly Come Dancing? Os na wnaethoch chi, fydd dim gwahaniaeth, gan eich bod, mae’n debyg, yn gwybod enwau’r ddwy rydw i’n mynd i sôn amdanyn nhw. Mae un yn bensiynwraig sengl wrol gydag agwedd foesol gadarn a synnwyr o gyfiawnder. Actores yw’r llall gyda phedair priodas wedi chwalu, a thuedd i ganlyn sêr y byd roc ac mae hanes i’w theulu sy’n ymwneud â charchar a throsedd. Er mor wahanol yw’r ddwy, mae’r cyn-weinidog Ceidwadol Ann Widdecombe a’r actores Patsy Kensit wedi datblygu cyfeillgarwch annisgwyl. Pâr anghyffredin, yn wir, ond mae’r ddwy yn ffrindiau ac wedi dod at ei gilydd oherwydd eu ffydd Gristnogol. Mae’r ddwy’n Babyddion, a chyn dechrau pob rhaglen roedd y ddwy yn gweddïo ar Sant Jwdas, nawddsant y rhai anobeithiol. Mae’n debyg bod y ddwy’n teimlo’n ddihyder yn eu gallu i wneud yn dda iawn mewn cystadleuaeth fel ‘Strictly’.

  2. Yr hyn yr hoffwn i ei nodi am y cyfeillgarwch rhwng y ddwy yw nid bod pegynau eithaf yn denu, er bod hynny’n wir weithiau - opposites attract, ond bod y ddwy wedi gwneud datganiad cyhoeddus am eu ffydd trwy weddïo’n agored gyda’i gilydd. Mae gweddïo’n rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud y ddiarwybod. Er enghraifft, ‘Annwyl Dduw, gad i bopeth fynd yn iawn i mi yn ystod yr arholiad heddiw.’ Mae hefyd yn codi’r cwestiwn os yw rhywun yn honni bod yn anffyddiwr neu ddim yn credu, yna ar bwy y byddan nhw’n gweddïo? Ac a fyddan nhw’n disgwyl ateb? Fe hoffwn i adrodd stori fach wrthych chi sy’n sôn am yr Anffyddiwr a’r Arth. Peidiwch â digio pan glywch chi’r stori, ond mae’n pwysleisio’r neges yn effeithiol. Ydych chi’n eistedd yn gyfforddus? Da iawn, felly fe ddechreua i.

  3. Roedd anffyddiwr yn cerdded, un dydd, trwy goedwig yn Alaska, yn edmygu popeth oedd o’i gwmpas ac yn rhyfeddu sut roedd popeth wedi datblygu trwy esblygiad. ‘Dyma goed godidog! Dyma afon rymus! Dyma anifeiliaid hardd!’ meddai wrtho’i hun. Wrth iddo droi i edrych o’i gwmpas, fe welodd arth frown enfawr, arth Kodiak 13-troedfedd, yn dechrau rhedeg tuag ato. Rhedodd y dyn mor gyflym ag y gallai ar hyd y llwybr. Wrth edrych dros ei ysgwydd, roedd yn gallu gweld yr arth yn nesu ac roedd bron â’i ddal. Roedd wedi dychryn cymaint fe redai’n gynt ac yn gynt ac roedd cymaint o ofn arno nes bod dagrau’n dod i’w lygaid. Edrychodd eto, ac roedd yr arth at ei sodlau bron. Roedd ei galon yn curo’n gyflym ac fe geisiodd redeg hyd yn oed yn gyflymach. Ond, yn anffodus, fe faglodd a syrthio. Wrth iddo rowlio drosodd a cheisio codi fe welodd yr arth yn gwyro drosto, yn ymestyn tuag ato gyda’i phawen chwith ac yn codi ei phawen dde i geisio’i fwrw a’i ladd. Wyddoch chi beth ddywedodd y dyn? ‘O FY NUW MAWR!’ gwaeddodd.

    Fe arhosodd amser yn stond. Rhewodd yr arth yn ei hunfan. Roedd y goedwig yn hollol ddistaw. Fe stopiodd llif yr afon hyd yn oed. Disgleiriodd golau llachar ar yr anffyddiwr, ac fe glywodd lais mawr yn taranu arno,

    ‘RWYT TI WEDI GWADU FY MODOLAETH AR HYD Y BLYNYDDOEDD. RWYT TI WEDI DYSGU ERAILL NAD YDW I’N BOD. RWYT TI WEDI DWEUD MAI TRWY DDAMWAIN GOSMIG Y DAETH Y BYDYSAWD I FOD. WYT TI’N DISGWYL I MI DY HELPU DI NAWR ALLAN O DY HELYNT? YDW I’N IAWN FELLY DY FOD TI’N CREDU YNOF FI, WEDI’R CYFAN?’
     
    Mor anodd ag yr oedd hi, fe edrychodd yr anffyddiwr yn union i’r golau, a dweud, ‘Fe fyddwn i’n rhagrithio pe byddwn i’n honni bod yn Gristion nawr ar ôl yr holl flynyddoedd, ac o dan yr union amgylchiadau yma, ond efallai y gallet ti wneud yr arth yn Gristion?’

    ‘IAWN,’ meddai’r llais. Diffoddodd y golau. Ail ddechreuodd yr afon lifo. Daeth seiniau’n ôl i’r goedwig. Syrthiodd yr arth fawr ar ei gliniau, a chan godi ei phawennau ynghyd, fe ymgrymodd i lawr a dweud ... 
    ‘Arglwydd, diolch i ti am ddarparu’r bwyd hwn sydd o fy mlaen, y bwyd rydw i’n mynd i’w fwyta nawr.’

  4. Stori ddoniol? Nid felly os mai chi oedd yr anffyddiwr, efallai! Ond, mae’n amlygu neges ddiddorol beth bynnag. Ac fe hoffwn i bwysleisio bod Duw, yn y stori, yn ymddwyn mewn ffordd debyg iawn i’r ffordd y byddech chi a minnau’n ymateb mewn amgylchiadau tebyg ....   (Fe fyddai’r rhai sy’n credu yn Nuw yn mynnu bod Duw’n llawer mwy tosturiol a hynaws nag y mae’n cael ei ddarlunio yn y stori yma).

    Holl bwrpas gweddi i unrhyw un, o unrhyw grefydd, yw’r ffaith bod gweddi’n agor llwybr cyswllt gyda’r Hollalluog, gyda Duw. Wrth weddïo rydych chi’n chwilio am Dduw ac yn gobeithio cyfathrebu ag ef. Efallai eich bod yn gweddïo er mwyn ei addoli am ei greadigaeth neu am rywbeth rhyfeddol arall; efallai eich bod yn gweddïo er mwyn diolch iddo am rywbeth rydych chi’n meddwl ei fod yn rhan ohono. Efallai eich bod yn gweddïo ar Dduw am ei help, fel yn achos yr arholiad, neu’n gweddïo ar ran rhywun arall. Y naill ffordd neu’r llall, rydych chi’n cychwyn sgwrs ac yn defnyddio’r amser hwnnw i siarad â Duw.

    Mae’n rhaid i Fwslimiaid weddïo bum gwaith y diwrnod, fel un o Bum Piler Islam. Mae symudiadau penodol yn perthyn i’r gweddïau hyn ac mae’n rhaid eu gwneud ar adegau neilltuol - yr adegau y mae Mwslimiaid yn gweddïo ac yn canolbwyntio ar Dduw ac yn anghofio am bopeth arall. Mae eu perthynas ag Allah trwy weddi yn ganolog i fywyd Mwslimiaid.

  5. Er nad oes adegau penodol caeth gan Gristnogion er mwyn gweddïo, mae ganddyn nhw un weddi arbennig wedi’i rhoi iddyn nhw gan Iesu fel patrwm o weddi. Mae’n sicr eich bod yn gyfarwydd â’r weddi honno - Gweddi’r Arglwydd - y weddi sy’n dechrau gyda’r geiriau ‘Ein Tad ...’  Mae’n batrwm o weddi, ac yn dechrau trwy addoli Duw a gofyn iddo am help i chi eich hun ac i eraill. Mae gweddïau fel Gweddi’r Arglwydd a’r Rak’ahs a ddefnyddir gan Fwslimiaid yn dangos patrwm a ffordd benodol o weddïo, ac mae hynny’n helpu’r rhai sy’n cael anhawster i weddïo. Fe fydd rhai pobl yn meddwl ei fod yn beth od siarad â rhywun sydd ddim yno, ond mae gweddi batrwm yn cynnig ffordd o ddechrau cyfathrebu â Duw.

  6. Felly, yn ôl â ni at Ann Widdecombe a Patsy Kensit - dydi o ddim yn bwysig a ddaeth eu gweddïau’n wir ai peidio. Yr hyn sy’n bwysig yw eu bod wedi ymuno â’i gilydd, a bod eu gweddïau a’r weithred o weddïo wedi rhoi cryfder iddyn nhw a hyder iddyn nhw fynd ymlaen â’u perfformiad ar y rhaglen Strictly Come Dancing. Mae grym gweddi’n rhyfeddol: meddyliwch am y ffydd a ddangoswyd gan y mwynwyr a fu’n gaeth dan y ddaear yn Chile y llynedd. Bu llawer ohonyn nhw’n gweddïo’n ddwys a dyfal am gael eu hachub  - a’r peth cyntaf a wnaethon nhw pan ddaethon nhw, o’r diwedd, allan o’r gloddfa oedd disgyn ar ei gliniau a gweddïo. Yr un awydd i gyfathrebu â Duw yw’r hyn sydd gan Ann Widdecombe a Patsy Kensit a dyma beth sydd hefyd yn gwneud pobl o bob crefydd i agor y llwybrau hynny o gyfathrebu. Oherwydd, efallai, fe fydd Duw’n ateb. Ond, fel yn achos yr anffyddiwr a’r arth, efallai na fydd hynny’n digwydd yn union yr un ffordd ag y byddwn ni’n disgwyl.

Amser i feddwl

Fyddwch chi’n gweddïo? Hyd yn oed dim ond pan fyddwch chi mewn rhyw fath o argyfwng . . .
Beth mae hyn yn ei ddweud amdanoch chi? Beth ydych chi’n gobeithio fydd yn digwydd? Beth sydd wedi digwydd pan wnaethoch chi weddïo fel hyn?

Treuliwch foment neu ddwy mewn distawrwydd er mwyn i bawb gael cyfnod personol o fyfyrio.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddod â ni’n hunain atat ti ac agor llwybrau cyfathrebu â thi.
Helpa ni i wrando arnat ti yn ogystal â disgwyl i ti wrando arnom ni.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘Say a little prayer’ gan The Mamas and The Papas (ar gael i’w llwytho i lawr)

 

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon