Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hunanddisgyblaeth

Deall grym yr ewyllys a phwysigrwydd hunanddisgyblaeth.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Deall grym yr ewyllys a phwysigrwydd hunanddisgyblaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Amrywiaeth o fariau siocled.

  • Ffôn symudol.

  • Cyfrifiadur.

  • Un o’r myfyrwyr i ddarllen Luc 4.1-2, (dewisol: darlleniad Luc 4.3-13), a Luc 4.1-14:

    Temtio Iesu
    (1) Dychwelodd Iesu, yn  llawn o’r Ysbryd Glân, o’r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch (2) am ddeugain diwrnod, a’r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd.

    (3) Meddai’r diafol wrtho, ‘Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi’n fara.’ (4) Atebodd Iesu ef, ‘Y mae’n ysgrifenedig: “Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.”’

    (5) Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd, (6) a dywedodd wrtho, “I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a’u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf. (7) Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan.” (8) Atebodd Iesu ef, “Y mae’n ysgrifenedig:,
    ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
    ac ef yn unig a wasanaethi.’”

    (9) Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a’i osod ar dwr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma; (10) oherwydd y mae’n ysgrifenedig:
    ‘Rhydd orchymyn i’w angylion amdanat,
    i’th warchod di rhag pob perygl’,
    (11) a hefyd:
    ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylo
    rhag i ti daro dy droed yn erbyn carreg.’”

    (12) Yna atebodd Iesu ef, “Y mae’r ysgrythur yn dweud ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’” (13) Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle. 

    (14) Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth
    .

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r myfyrwyr eich bod yn hoff o iawn o siocled. Fel arfer rydych chi’n bwyta bar bach o ryw fath o siocled bob dydd. (Dangoswch rai o’r bariau siocled sydd gennych chi.) Chi biau’r rhain i gyd, ac rydych chi’n ceisio penderfynu pa un rydych chi am ei fwyta heddiw. Ond, dychmygwch beth pe byddech chi’n penderfynu peidio bwyta siocled am 40 diwrnod. Fe fyddai hynny’n golygu llawer iawn o hunanddisgyblaeth i chi. Mae llawer o bobl yn gwneud penderfyniadau fel hyn yr adeg hon o’r flwyddyn. Y rheswm am hyn yw ein bod ar fin dechrau cyfnod y Garawys yn y calendr Cristnogol. Cyfnod o baratoi ar gyfer y Pasg yw’r Garawys, amser sy’n rhoi cyfle i ni feddwl am y pethau rydyn ni wedi’u gwneud na ddylen ni fod wedi’u gwneud, a gwneud iawn am hynny. Ydi, mae’n amser y glanhau gwanwynol, os hoffech chi - spring cleaning!

    Felly, beth sydd a wnelo hyn â siocled?

  2. Yn y gorffennol, yn ystod y Garawys, fe fyddai Cristnogion yn rhoi’r gorau i fwyta unrhyw fwydydd bras (rich) am 40 diwrnod. Roedden nhw’n galw’r diwrnod olaf cyn y cyfnod yma’n Ddydd Mawrth Ynyd (neu Ddydd Mawrth Crempog), a dyna’r diwrnod y bydden nhw’n defnyddio unrhyw fwydydd bras a oedd dros ben yn y cwpwrdd bwyd i wneud crempogau. Ar ôl y wledd honno, fe fydden nhw’n peidio â bwyta pethau fel ymenyn, siwgr ac wyau. Heddiw, hefyd, mae llawer o Gristnogion yn rhoi’r gorau i fwyta rhai pethau maen nhw’n eu hoffi’n fawr dros gyfnod y Garawys. Mae hynny’n eu helpu i ganolbwyntio ar oresgyn eu ffaeleddau a’u dysgu i beidio â blysio pethau, am eu bod yn credu mai dyna’r pechod dynol sy’n creu cymaint o ddioddef yn y byd.

    Mae hynny’n anodd, oherwydd pan fyddwn ni ddim yn cael rhywbeth, rydyn ni fwy o’i eisiau. Ac mae’r blys am siocled yn gallu bod yn gryf iawn os ydych chi ddim yn gallu ei gael, yn enwedig i rai!

  3. Ond, efallai na fyddech chi’n gweld peidio â bwyta siocled yn anodd. Efallai y byddech chi’n ei gweld hi’n anoddach rhoi’r gorau i ddefnyddio eich ffôn symudol neu eich cyfrifiadur. Rhowch gynnig arni am un diwrnod er mwyn cael gweld pa mor anodd fydd hynny i chi, a pha mor ddrwg eich hwyliau y byddwch chi wedyn!

    Mae byw heb rywbeth rydych chi wedi arfer ei gael yn anodd. Mae gofyn cael hunanddisgyblaeth ac ewyllys gadarn, gref. Rhaid i ni ddewis gwrthod y peth hwnnw dro ar ôl tro. Yn aml iawn mae ein hewyllys, y rhan honnom sy’n gwneud y dewis, yn gallu bod yn wan iawn. Dyna’r rhan ohonom sy’n gallu ein harwain i wneud pethau sy’n niweidio ein bywydau.

  4. Yn ystod y Garawys, mae Cristnogion yn ceisio dilyn esiampl Iesu trwy ymarfer hunanddisgyblaeth a rhoi’r gorau i foethusrwydd.

    Myfyriwr i ddarllen Luc 4.1–2.


    Wnaeth Iesu ddim bwyta am 40 diwrnod. Dyna dasg anodd. Fe fydd y rhai hynny ohonoch chi sydd wedi ymprydio am ddiwrnod efallai, ar gyfer elusen, yn gwybod sut mae eich corff yn ymateb i ddiffyg bwyd! Fe wnaeth Iesu hynny hefyd, draw yn yr anialwch, ymhell o’i wely ei hun a chwmni ei deulu a’i ffrindiau. Doedd hynny ddim yn hawdd, ac mae’r Beibl yn dweud ei fod, ar ôl 40 diwrnod yn teimlo’n newynog iawn.

  5. Roedd Iesu, nid yn unig yn newynog, ond roedd wedi cael ei demtio’n ddifrifol i ildio a rhoi’r gorau i ymprydio.

    (Dewisol: Un o’r myfyrwyr i ddarllen Luc 4.3–13)

    Myfyriwr i ddarllen Luc 4.14.

  6. Ond fe wnaeth Iesu oresgyn pob temtasiwn. Fe reolodd ei ewyllys. Ac wedyn roedd yn barod i wynebu bywyd o weinidogaethu, bywyd pryd y byddai’n aml yn gorfod dewis gwneud pethau gwahanol i’r hyn yr hoffai eu gwneud. Efallai ei fod yn aml yn teimlo fel peidio â chodi cyn y wawr i weddïo am ei fod wedi blino cymaint ar dorfeydd o bobl yn ei ddilyn bob dydd ac yn gofyn am ei help. Efallai ei fod yn aml yn dymuno cael mynd i rywle ar ben ei hun i gael llonydd. Ac yn wir, fe fu’n ymdrech fawr iddo pan ddeallodd ei fod yn mynd i farw ar y groes.

    Ond wrth wrthod y pethau iddo’i hun dro ar ôl tro, a dewis beth oedd yn iawn er mwyn pobl eraill yn hytrach nag ef ei hun, fe ddaeth Iesu’n gryfach.

  7. Diolch byth, fydd dim rhaid i ni ddioddef y pethau y gwnaeth Iesu eu hwynebu, ond mae penderfyniadau’n dod i’n rhan ninnau bob dydd: ‘Fe wna i geisio eto i ddeall y gwaith yma,’ ‘Fe wna i geisio wynebu’r broblem yma sydd gen i.’

    Mae dysgu dweud, ‘Fe wna i ...’ pan fyddwn ni ddim yn teimlo fel gwneud rhywbeth yn gallu ein gwneud ni’n gryfach.

Amser i feddwl

Beth fyddai’n anodd i chi beidio ei wneud yn ystod cyfnod y Garawys eleni?
Beth am i chi ymarfer rhywfaint o hunanddisgyblaeth a dangos pwy yw’r meistr?!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rwyt ti wedi rhoi ewyllys i mi, 
ac rwyt ti wedi rhoi’r cyfrifoldeb arnaf fi i ddewis sut rydw i am fyw fy mywyd.
Gwna fi yn gryf, fel bydd y dewisiadau y byddaf yn eu gwneud yn ystod fy mywyd yn rhai da a chyflawn.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon