Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Ddihangfa Fawr

Ystyried pa mor bwysig yw chwerthin a ffantasi yn ein bywydau.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw chwerthin a ffantasi yn ein bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr luniau o rai o gymeriadau Hanna–Barbera.

  • Dewisol: ffilm fer gan Hanna-Barbera i’w dangos ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Ym mis Mawrth eleni fe fydd hi’n gan mlynedd ers geni Joseph Barbera. Mae Barbera yn enwog am ei waith fel cartwnydd. Gan weithio gyda William Hanna, fe gynhyrchodd glasuron fel Tom and Jerry, Huckleberry HoundYogi BearThe Flintstones a The Jetsons.

  2. Yr hyn sy’n nodedig am y cyfresi hyn yw bod elfen gref o ffantasi yn perthyn iddyn nhw. Mae Tom and Jerry yn ymwneud â champau cath a llygoden; Huckleberry Hound, yn darlunio ci; Yogi Bear, arth sy’n siarad; The Flintstones, yn adrodd hanes teulu sy’n byw yn y cyfnod cyn hanes; ac mae sefyllfa The Jetsons wedi’i lleoli yn y dyfodol. Cafodd yr holl gyfresi eu cynhyrchu cyn dyddiau effeithiau arbennig digidol. Roedd hynny’n golygu mai trwy animeiddio oedd yr unig ffordd i adrodd storïau o’r fath mewn ffordd heb fod yn gostus iawn. Dim ond trwy animeiddio yr oedd modd creu momentau ffantastig cyfres Tom and Jerry, er enghraifft, ac roedd yr animeiddio’n rhoi lle i’r dychymyg lifo. Mae cymeriadau’r cartwn yn newid siâp a maint yn ôl yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw; enghraifft glasurol yw’r cymeriad sy’n cael ei wasgu dan ordd fawr neu engan ac sydd wedyn yn ail dyfu’n ôl i’w faint iawn - ynghyd â’r lwmp mawr ar ei ben!

  3. Y dyddiau hyn, neu o leiaf ers y ffilmiau cyllid-enfawr  Avatar a Lord of the Rings, mae digwyddiadau ffantastig ac afreal yn amlwg ar ein sgriniau yn aml. Mae’r ffilmiau hyn yn rhai drud iawn i’w cynhyrchu, ond maen nhw’n adennill y gost yn fuan ac yn gwneud elw mawr yn y sinemâu. Fe fydd pobl yn mynd i weld ffilmiau o’r fath oherwydd y golygfeydd anghyffredin – ac er mwyn i’r beirniaid eu gwerthfawrogi mae’r ffilmiau sy’n llawn effeithiau gweledol yn gorfod bod yn rhywbeth nad oes neb wedi’i weld o’r blaen, neu fod yn gynnyrch dychymyg anhygoel. Yn ystod oes aur Hanna–Barbera, doed dim modd fforddio’r fath olygfeydd, ond eto fe ddarlledwyd yr amhosibl a’r anhygoel ar setiau teledu cynnar pobl ein gwlad.

  4. Roedd cartwnau a gynhyrchwyd gan Hanna–Barbera yn torri tir newydd: roedden nhw’n llawn hiwmor ac yn ffilmiau yr oedd teuluoedd cyfan yn gallu mwynhau eu gwylio gyda’i gilydd. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u cynhyrchu ar gyfer sgrin fach y teledu yn hytrach na sgrin fawr y sinema, gan gydnabod lle’r teledu yn y cartref am fod nifer mwy a mwy o deuluoedd yn gallu fforddio’r bocs rhyfeddol yng nghornel yr ystafell. Does dim oedran penodol y mae’r cartwnau wedi eu targedu ar ei gyfer – maen nhw’n hwyl ac wedi eu bwriadu i wneud i bobl chwerthin.

  5. Yn achos adloniant, fe fydd bodau dynol bob amser yn chwilio am rywbeth ffantastig ac anarferol. Mae animeiddio’n gyfrwng perffaith i hynny gan nad oes rhaid cymhwyso deddfau Ffiseg i lunio cartwnau. Mae gan yr animeiddiwr rwydd hynt i reoli popeth yn eu cynhyrchiad, ac fe fyddai hynny’n rhywbeth na allai gwneuthurwyr ffilmiau wneud dim ond breuddwydio amdano. Mae’r ffilm gartwn yn rhywbeth sy’n union allan o ddychymyg yr animeiddiwr: cofnod o’i ddychymyg ef neu hi. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae animeiddio – hyd yn oed cartwnau hynod o fasnachol fel rhai Barbera – yn ffurf wych o gelfyddyd.

  6. Gyda’r rhan fwyaf o gelfyddyd fasnachol wedi’i seilio’n gadarn ym myd byw gwaith, adloniant a pherthnasoedd pobl â’i gilydd, mae symud i fyd yfory neu’r gorffennol pell yn rhywbeth prin ac arbennig iawn.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y cartwnau rydych chi wedi’u gwylio yn ystod eich bywyd.

Yn aml, maen nhw’n ymddangos fel rhyw bigion bach i lenwi bwlch, ond a gafodd y cartwn le mwy real yn eich bywyd?

Sut mae chwerthin wedi effeithio ar eich hwyliau yn enwedig ar ddiwedd diwrnod hir o waith?

Nawr, gadewch i ni ddiolch am greadigrwydd enfawr pobl sy’n creu darnau o gelf mor wych – y cartwnydd, cyfarwyddwyr ffilmiau ac artistiaid eraill.

(Efallai yr hoffech chi ddangos ffilm fer gan Hanna–Barbera i orffen y gwasanaeth.)

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch gerddoriaeth thema un o’r ffilmiau a nodwyd gennych - ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon