Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Garawys: Dydd Mawrth Ynyd

Egluro hanes a phwrpas Dydd Mawrth Ynyd, gan ei roi yn ei gyd-destun o fewn y calendr Cristnogol. Ystyried tarddiad a symbolaeth rhai o’r traddodiadau cysylltiedig, ac ystyried pwrpas y Garawys ac ymprydio, yn gyffredinol.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Egluro hanes a phwrpas Dydd Mawrth Ynyd, gan ei roi yn ei gyd-destun o fewn y calendr Cristnogol. Ystyried tarddiad a symbolaeth rhai o’r traddodiadau cysylltiedig, ac ystyried pwrpas y Garawys ac ymprydio, yn gyffredinol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch eich bod yn gallu dangos clip fideo o’r olygfa lle mae’r diafol yn temtio Iesu yn y ffilm The Miracle Maker, a fydd o bosib ar gael yn eich adran Addysg Grefyddol. Neu, paratowch un o’r myfyrwyr i ddarllen yr adnodau o Efengyl Mathew 4.1–11, neu defnyddiwch y wefan http://www.myfishbites.com/assemblies-lent.php.

Gwasanaeth

  1. Mae heddiw’n Ddydd Mawrth Ynyd, neu Ddydd Mawrth Crempog. Mae’n rhan o’r calendr Cristnogol traddodiadol - ond beth sydd a wnelo rhywbeth Cristnogol â chrempogau? Yn y gwasanaeth yma, fe fyddwn ni’n archwilio beth yw ystyr Dydd Mawrth Ynyd, yn ogystal ag egluro’r arferiad sydd wedi tyfu ar y diwrnod neilltuol yma, sef bwyta crempogau. Dydd Mawrth Ynyd yw’r diwrnod olaf cyn y Garawys. Yfory, fe fydd hi’n Ddydd Mercher y Lludw, diwrnod cyntaf y Garawys. Fe gawn ni wybod beth sy’n arbennig am y diwrnod hwnnw hefyd.

  2. Cyfnod o 40 diwrnod yw’r Garawys sy’n arwain at y Pasg, sy’n ein hatgoffa am farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae’r 40 diwrnod yn gyfnod o fyfyrio ac aberthu i Gristnogion, pryd y byddan nhw’n dwyn i gof y 40 diwrnod a dreuliodd Iesu yn ymprydio yn yr anialwch. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei demtio gan y diafol yn ystod y cyfnod yma.

  3. Dangoswch y clip (tua thri munud) o Iesu yn yr anialwch yn cael ei demtio gan y diafol, allan o’r ffilm The Miracle Maker. Neu, gofynnwch i un o’r myfyrwyr ddarllen y darn cyfatebol o’r Beibl, Mathew 4.1–11. (Neu gwnewch y ddau beth). Os byddwch chi’n dewis cyflwyno’r ddau beth, trefnwch y darlleniad o’r Beibl yn gyntaf .

  4. Holwch y plant pam fod rhai pobl yn rhoi’r gorau i wneud ambell beth dros gyfnod y Garawys.

    Er mwyn i Gristnogion allu uniaethu eu hunain â’r anawsterau yr oedd Iesu’n eu hwynebu yn yr anialwch, fe fyddan nhw’n aml yn rhoi’r gorau i wneud rhywbeth dros gyfnod y Garawys, ac felly’n cofio am y cyfnod hir y bu Iesu’n ymprydio. Ambell dro, fe fydd pobl eraill yn cadw’r arferiad yma hefyd fel ffordd o roi’r gorau i wneud rhywbeth sydd ddim yn dda ar eu lles, neu fel ymarferiad o hunan ddisgyblaeth.

  5. Yn draddodiadol, y pethau y byddai’r eglwys yn arfer annog y bobl i’w wneud am y cyfnod oedd peidio â bwyta cig, pysgod, braster, wyau a chynnyrch llaeth. Er mwyn gwneud hynny, fe aeth yn arferiad gan y bobl i fwyta crempogau ar y diwrnod olaf hwnnw cyn y Garawys. Trwy wneud hynny, fe fydden nhw’n gallu defnyddio’r cyfan o’r wyau a’r braster a fyddai ganddyn nhw ar ôl yn y ty a chlirio’r pantri. Mae resipis ar gyfer crempogau Dydd Mawrth Ynyd i’w cael mewn llyfr coginio sy’n dyddio mor bell yn ôl â 1439. Mae’r traddodiad o daflu crempogau yn hen iawn hefyd:

    And every man and maide doe take their turne, and tosse their Pancakes up for feare they burne’ (Pasquil’s Palin, 1619).

  6. Mae gwyliau’r Mardi Gras ledled y byd yn gysylltiedig hefyd â Dydd Mawrth Ynyd. Ystyr yr enw ‘Mardi Gras’ yn llythrennol yw dydd Mawrth braster, neu ‘fat Tuesday’. Mae’r gwyliau Mardi Gras enwog yn Rio de Janeiro a New Orleans wedi tarddu o’r hen arferiad o baratoi ar gyfer y Garawys a chael defnyddio beth oedd ar ôl o’r bwydydd a fyddai’n cael eu gwahardd trwy gyfnod y Garawys wedyn.

  7. Er hynny, nid dim ond diwrnod o ddefnyddio’r gweddill o’r bwyd brasterog yw Dydd Mawrth Ynyd. Mae iddo ei arwyddocâd arbennig ei hun. Mae’n draddodiad gan Babyddion i fynd i gyffesu ar y diwrnod yma. Fe fyddan nhw’n cyfaddef, wrth offeiriad, unrhyw beth y byddan nhw wedi ei wneud o’i le, ac yn gofyn am faddeuant. Mae hwn yn hen draddodiad a’r gair Saesneg am hyn ers talwm  fyddai ‘shriving’, ac o’r gair hwnnw y daw’r enw ‘Shrove Tuesday’. Eto, mae hwn yn hen draddodiad. Dros 1000 o flynyddoedd yn ôl, fe ysgrifennodd mynach fel hyn yn yr Anglo-Saxon Ecclesiastical Institutes: ‘In the week before Lent everyone shall go to his confessor and confess his deeds and the confessor shall so shrive him.’

    Fe fydden nhw’n gwneud hyn er mwyn cael dechrau cyfnod y Garawys gydag enaid pur. Mae edifarhau am wneud pethau na ddylech chi fod wedi’u gwneud wedi bod yn rhan hanfodol o Gristnogaeth, ac mae’n parhau i fod felly. Mewn Pabyddiaeth fe allwch chi ofyn am faddeuant i’r offeiriad. Mae’r offeiriaid yn cynrychioli Duw ac yn rhoi’r maddeuant i chi ar ei ran. Mewn eglwysi Protestannaidd, rydych chi’n cyffesu’n uniongyrchol trwy weddïo ar Dduw. Y naill ffordd neu’r llall, fe gewch chi faddeuant ac fe gewch chi wared â chydwybod euog. Fe fydd llawer o bobl sydd ddim yn dilyn crefydd neilltuol yn cytuno hefyd ei fod yn beth da cyffesu wrth rywun am y pethau rydych chi’n edifarhau eu gwneud. Mae siarad am y peth yn rhyddhau cydwybod euog. Yn aml, mae cadw problemau i chi eich hun yn beth drwg ar eich lles. Mae’n well rhannu gofidiau.

Amser i feddwl

Mae Dydd Mawrth Ynyd yn ddiwrnod y gallwch chi ddweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi am unrhyw beth rydych chi wedi’i wneud o’i le. Yn achos Cristnogion, mae’n ymwneud â throi dalen newydd cyn cyfnod o hunanaberth a myfyrdod. Dyma’r dathliad olaf yn awr cyn cyfnod o ddwys fyfyrio a chyn y dathliad mawr nesaf ar adeg y Pasg. Mae’r traddodiad o roi a bwyta wyau ar y Pasg yn deillio o’r ffaith y byddai’r bobl ers talwm wedi bod am gyfnod hir felly heb fwyta wyau, ac roedden nhw wrth eu bodd yn cael bwyta wyau unwaith eto ar y Pasg. Gobeithio y byddwch yn teimlo’n oleuedig wrth i chi fwyta’ch crempogau’n ddiweddarach heddiw! 

Gweddi
Arglwydd Dduw, helpa ni i roi’r gorau i’r arferion a’r pethau does gennym ni ddim wir eu hangen yn ystod cyfnod y Garawys eleni.
Gad i ni, yn lle hynny, ddewis helpu ein gilydd, a bod yn barod i ofalu am bobl eraill. 

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

The Changing Man’ gan Paul Weller, ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon