Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sul Y Fam

Dathlu bywydau’r bobl hynny sy’n gofalu amdanom, ac edrych sut mae Sul y Fam yn cael ei ddathlu mewn gwahanol rannau o’r byd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dathlu bywydau’r bobl hynny sy’n gofalu amdanom, ac edrych sut mae Sul y Fam yn cael ei ddathlu mewn gwahanol rannau o’r byd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae gan bob un ohonom rywun sy’n gofalu amdanom. Gall y bobl rheini fod yn fam, tad, nain, taid, gofalwr, athro neu athrawes, ac ati. Beth bynnag, mae rhywun yn gofalu am bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

    Fe ddylem fod yn ddiolchgar bob amser i bawb sy’n gofalu amdanom. Ond yr adeg hon o’r flwyddyn mae llawer o heip masnachol ynghylch un diwrnod neilltuol. Oes rhywun yn gallu awgrymu pa ddiwrnod yw hwnnw? Ie, Sul y Fam.

    Weithiau, efallai y byddwn ni’n meddwl bod y rhai sy’n gofalu amdanom yn swnian o hyd ac o hyd, ac yn gofidio’n ddiangen yn aml am bethau bach a ninnau’n ddiamynedd gyda nhw am fod felly. Ond rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni bobl sy’n gofalu amdanom. Dangoswch y clip fideo o’r fam dan bwysau!  

    Eleni, ym Mhrydain, fe fyddwn ni’n dathlu Sul y Fam ar 3 Ebrill.

  2. Mae’n debyg bod pobl wedi bod yn dathlu Sul y Fam ym Mhrydain ers canrifoedd, ac mae’r arferiad yn mynd yn ôl i draddodiad o’r unfed ganrif ar bymtheg pan fyddai pobl yn mynd yn ôl i ymweld â’u ‘mam eglwys’ (yr eglwys roedden nhw’n mynd iddi gyda’u teuluoedd pan oedden nhw’n blant) ar Sul neilltuol bob blwyddyn. Oherwydd nad oedd pobl yn symud i fyw ymhell iawn o’u hardal enedigol yn y dyddiau hynny, mae’n ddigon posib y byddai pobl yn gallu mynd yn ôl i’w hen eglwys i addoli. Ac yn naturiol, fe fydden nhw’n addoli gyda’u mamau a fyddai wedi arfer mynd i’r eglwys neilltuol honno ar hyd y blynyddoedd. Gyda’r blynyddoedd fe aeth yr arferiad i brentisiaid a gweision ffermydd, morwynion a merched fyddai’n gweini, gael diwrnod yn rhydd i fynd adref i ymweld â’u mamau a’u teuluoedd dros y Sul arbennig hwn, sef y pedwerydd Sul yn y Garawys. Dyma ddiwrnod i deuluoedd ddod ynghyd a threulio peth amser gyda’i gilydd. Dros amser, fe ddaeth yr Eglwys i gydnabod y Sul hwn fel Sul arbennig a’i alw’n Sul y Fam. Hefyd, roedd yn gyfle i bobl yr Eglwys gofio am Mair, mam Iesu Grist.

    Erbyn hyn, mae’r Sul arbennig yma wedi mynd yn achlysur llawer mwy masnachol, ond mae’n parhau i fod yn gyfle i aelodau’r teulu dreulio amser gyda’i gilydd.

  3. Wyddech chi fod Sul y Fam yn cael ei ddathlu yn y rhan fwyaf o wledydd y byd? Ac mewn llawer o’r gwledydd hynny mae dathlu’r diwrnod wedi mynd yn fusnes masnachol gyda miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar gardiau ac anrhegion. Mae tarddiad Sul y Fam yn amrywio o wlad i wlad. Yn dilyn, cawn hanes tarddiad y dathliad mewn pedair o wahanol wledydd y byd.

Gwlad

Dyddiad y dathlu

Tarddiad

Israel

Shevat 30 – rhwng 30 Ionawr a 1 Mawrth

Pen-blwydd Henrietta Szold. Doedd gan Henrietta ddim plant ei hun, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe sefydlodd fudiad a achubodd lawer o blant Iddewig o’r Almaen Natsiaidd. Ar ôl y rhyfel, fe gyhoeddwyd y byddai Sul y Fam yn cael ei ddathlu ar ddiwrnod ei phen-blwydd.

Tsieina

Yn amrywio

Sefydlwyd yn gyntaf yn 1997, er mwyn atgoffa’r bobl am y mamau tlawd a oedd yn byw yn ardaloedd gwledig Tsieina. Bydd pobl Tsieina yn defnyddio’r diwrnod hwn hefyd i annog pobl i ddangos parch tuag at yr henoed yn eu gwlad.

Yr Aifft – gwledydd Arabaidd eraill

21 Mawrth

Roedd Mustafa Amin yn newyddiadurwr enwog yng ngwlad yr Aifft ac fe sefydlodd nifer o bapurau newydd yn yr iaith Arabeg. Yn 1956, mewn colofn yn un o’i bapurau newydd, fe gyflwynodd y syniad o gael diwrnod arbennig i famau. Fe ddaeth y syniad yn un poblogaidd, ac wedi iddo ddechrau yn yr Aifft fe ddaeth yn boblogaidd wedyn mewn sawl gwlad Arabaidd arall hefyd.

Awstralia

2il Sul ym mis Mai

Yn y flwyddyn1924, fe ddechreuodd gwraig o’r enw Janet Heyden ymweld â chartref arbennig a sefydlwyd ar gyfer mamau unig yr oedd eu teuluoedd wedi anghofio amdanyn nhw. Gofynnodd i ysgolion a busnesau lleol gyflwyno rhoddion i’r gwragedd hyn er mwyn eu llonni. Dros amser, fe ddechreuodd pobl eraill wneud yr un peth, ac yn y pen draw fe ddatblygodd y syniad o Sul y Fam neu Ddiwrnod y Merched ledled y wlad.

  1. Pa bryd bynnag a sut bynnag y bydd y diwrnod yn cael ei ddathlu, mae’n iawn i ni roi amser i ddweud diolch wrth ein mam a’r rhai sy’n gofalu amdanom. Pan fyddwn ni’n gwneud hynny, rydyn ni’n ymuno â phobl ledled y byd sy’n rhannu gyda ni y llawenydd, a’r tristwch hefyd weithiau, a ddaw gyda’r berthynas arbennig honno.

Amser i feddwl

Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi ddweud diolch wrth rywun sy’n gofalu amdanoch chi? Oes rhywbeth y byddech chi’n gallu ei ddweud neu ei wneud i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi’r holl amser ac ymdrech y mae’r bobl hyn yn ei roi i wneud eich bywyd yn fwy dymunol?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni bob amser i beidio ag anghofio dweud diolch. 
Helpa ni yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau 
i ddangos ein bod ni’n ofalgar tuag at y rhai sydd o’n cwmpas, 
a helpa ni i fod yn ddiolchgar am yr holl bethau y mae pobl eraill yn eu gwneud i ni. 
Diolch i ti am ein mamau ac am y ffordd ddiflino y maen nhw’n gofalu amdanom ni.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Mama I love you’ gan y Spice Girls

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon