Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symbolau O Bwy Ydyn Ni

Archwilio ein symbolau gwladgarol.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio ein symbolau gwladgarol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr ddelweddau o faneri Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r faner Jac yr Undeb (Union Jack), ynghyd â delwedd o faner Jac yr Undeb ei hun, a’u harddangos mewn mannau priodol yn y gwasanaeth. Byddai’n dda cael llun o faner Cymru yn eu hymyl hefyd.

  • Fe allech chi hefyd ddefnyddio delweddau o’r symbolau eraill yr ydych chi’n cyfeirio atyn nhw yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyn diwedd mis Ebrill, fe fydd y Tywysog William yn priodi Kate Middleton. Bydd y briodas yn cael ei darlledu ar y teledu, ac fe fydd pobl ledled Prydain a’r byd yn ei gwylio. Ar wahân i weld ysblander yr achlysur a chael gweld y bobl bwysig fydd yno, mae llawer o bobl yn gobeithio y bydd yr achlysur yn cael effaith arall. Mae rhai yn gobeithio y bydd y briodas yn atgoffa pobl o’r hunaniaeth a’r cyfrifoldeb rydyn ni’n ei rannu. Mae’r teulu brenhinol yn gymaint o symbol cenedlaethol i Loegr ag yw’r anthem neu’r faner – yr Union Jack.

  2. Mae rhai pobl yn gweld y frenhiniaeth fel sefydliad sydd wedi dyddio: cyfoeth a breintiau heb etholiad na chefnogaeth gyhoeddus o angenrheidrwydd. Tra byddwn ni’n mynnu bod arweinwyr ein gwlad y dyddiau hyn yn gorfod wynebu archwiliadau manwl, mae’n ymddangos yn annheg â nhw bod aelodau’r teulu brenhinol yn ennill eu safle trwy’r fraint o fod wedi cael eu geni i’r teulu. Efallai eu bod yn ymddwyn fel symbolau cenedlaethol ond mae rhai pobl yn credu mai symbol o Brydain yn y gorffennol ydyn nhw ac nid symbol o’r Brydain bresennol.

  3. Mae hyn yn wir hefyd am lawer o symbolau cenedlaethol. Yn yr anthem ‘God save the Queen, mae pennill (er nad yw geiriau’r pennill hwnnw’n cael eu canu y dyddiau yma) sy’n sôn am ddymuno buddugoliaeth i Fyddin Lloegr sy’n symud tua’r gogledd i ymladd yn erbyn mudiad annibyniaeth i’r Alban. Nid yw’r math yma o neges yn dderbyniol erbyn heddiw. Yn yr un modd, ar faner yr Union Jack, mae croes i gynrychioli Lloegr, croes ar gyfer yr Alban a chroes arall yn nodi Gogledd Iwerddon, ond dim byd i gynrychioli Cymru, y wlad a drechwyd gan Loegr flynyddoedd lawer yn ôl. Y gwir yw, mae llawer o’r symbolau a ddefnyddiwn i ddisgrifio ein hunoliaeth a’n cenedligrwydd mewn gwirionedd yn pwysleisio gormes a darostyngiad sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

  4. Ond does dim rhaid i hyn fod yn ein diffinio ni. Gall pobl, cenhedloedd, a symbolau newid. Y dyddiau hyn ychydig o wir rym sydd gan y teulu brenhinol ac mae pobl yn derbyn mai gweithredu o ran dyletswydd y mae’r teulu mewn gwirionedd. Bydd yr anthem yn cael ei chanu’n amlach ar achlysuron fel gemau pêl-droed nac ar adegau o ryfel. Ac mae’r faner, yr Union Jack,yn cael ei dangos ar faner pedair o wledydd eraill a fu yn y gorffennol yn perthyn i Brydain, yn ymddangos yn awr dim ond fel arwydd o gefnogaeth i’r Gymanwlad: ymgais gan Brydain a’r gwladfeydd blaenorol i gymodi ynghylch gwahaniaethau yn y gorffennol a nodi’r dymuniad i symud ymlaen gyda’i gilydd.

  5. Felly, nid sefyll dros gred a safonau neilltuol y mae’r symbolau cenedlaethol, ond yn hytrach am agwedd y genedl heddiw. Mae symbolau cenedlaethol wedi cael eu harddangos dros erchyllterau yn y gorffennol pell, a’r gorffennol sydd heb fod mor bell â hynny oddi wrthym ni hefyd, ond maen nhw’n sefyll yn ogystal dros gyflawniad ein cymdeithas: amrywiaeth, cymhwysiad a chred bod yr unigolyn yn cyfrif. Fel dinasyddion, ein gwaith ni yw gofalu bod ein symbolau’n parhau i fod yn cynrychioli’r hyn rydyn ni eisiau iddyn nhw eu cynrychioli.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a thaflunio’r delweddau o’r baneri, fel o’r blaen.
Beth ydyn ni’n ei fynegi trwy ein baneri cenedlaethol?
Sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn cynrychioli’r hyn ydyn ni heddiw?

Gweddi
Rydyn ni’n diolch am hir oes ein gwlad, 
ac am y genedl gynhwysol yr ydyn ni heddiw.
Helpa bob un ohonom i weithio tuag at gynhwysiad gwell hyd yn oed o bob un.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon