Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Asthma

Archwilio’r effaith y mae asthma yn ei gael ar unigolyn, a gweld sut y mae’n bosib goresgyn y cyflwr trwy ddefnyddio’r model o athletwyr a chwaraewyr llwyddiannus.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio’r effaith y mae asthma yn ei gael ar unigolyn, a gweld sut y mae’n bosib goresgyn y cyflwr trwy ddefnyddio’r model o athletwyr a chwaraewyr llwyddiannus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Siart troi.

  • Lluniau o athletwyr sydd wedi llwyddo yn eu maes, er gwaetha’r ffaith eu bod yn dioddef gydag asthma. Fe fydd y gwasanaeth yma’n canolbwyntio ar Paula Radcliffe.

  • Dewisol: ar gyfer cam 3, dangoswch un o’r nifer o glipiau fideo sydd ar gael ynghylch yr hyn sy’n achosi asthma – gallwch chwilio am y rhain ar y rhyngrwyd trwy ddefnyddio unrhyw beiriant chwilio.

  • Lluniwch gyflwyniad PowerPoint o’r ystadegau canlynol am asthma ar gyfer cam 3:
    – Mae dros 5 miliwn o bobl ym Mhrydain ag asthma; mae 1.4 miliwn ohonyn nhw’n blant o dan 16 oed.
    – Mae 2.6 miliwn o bobl (2.1 miliwn o oedolion a 500,000 o blant) ym Mhrydain gyda symptomau asthma difrifol, yn cynnwys problem anadlu sy’n eu llesgáu. Maen nhw’n cael pyliau mor ddrwg nes eu bod yn methu siarad ac yn ofni eu bod yn marw, ac fe fyddan nhw’n cael eu cludo i’r ysbyty fel derbyniadau brys.
    – Mae 8 miliwn o bobl ym Mhrydain wedi cael diagnosis bod asthma arnyn nhw ar ryw adeg ar eu bywyd.
    – Yn y flwyddyn 2001, ym Mhrydain, roedd 55 dyn ym mhob 1,000, a 45 merch ym mhob 1,000 gydag asthma arnyn nhw. 
    – Bob blwyddyn, ym Mhrydain, mae bron 4 miliwn o ymgynghoriadau ar gyfer asthma, a 74,000 o achosion o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd asthma.
    – Yn y flwyddyn 2004, roedd 1,381 o farwolaethau o achos asthma ym Mhrydain (roedd 40 o’r rheini’n blant 14 oed neu iau). Ar gyfartaledd, mae 4 person y dydd, neu 1 person bob chwe awr yn marw o ganlyniad i asthma. Er hynny, mae’r nifer o farwolaethau sy’n cael eu hachosi gan asthma wedi gostwng o fod dros 2,000 yn yr 1980au, ac o ran bras amcan fe allai tua 90 y cant o’r marwolaethau hynny fod wedi eu harbed pe byddai’r claf, y gofalwr, neu’r gweithwyr iechyd wedi gweithredu mewn ffordd wahanol.
    – Yn ôl brasamcan, roedd 492 achos o asthma galwedigaethol wedi cael eu gweld am y tro cyntaf gan feddygon y frest a meddygon galwedigaethol a adroddodd i gynlluniau gwyliadwriaeth THOR (SWORD/OPRA) yn 2005, gan ddod â nifer yr achosion cyfartalog blynyddol dros y tair blynedd 2003–05 i 571, neu tua 2 achos ym mhob 100,000 o weithwyr bob blwyddyn.

  • Rhestr enwau athletwyr a’u meysydd ar gyflwyniad PowerPoint (ar gyfer cam  3)

Gwasanaeth

  1. Ysgrifennwch restr o’r chwaraeon y mae’r myfyrwyr yn eu mwynhau, ac yr hoffen nhw gystadlu ynddyn nhw pe bydden nhw’n ddigon da, h.y. pêl-droed – Cwpan yr FA; criced – Y Lludw etc. . . .

  2. Dangoswch bwmp asthma neu anadlydd (inhaler). Gofynnwch i’r myfyrwyr beth ydyw.

    Holwch y myfyrwyr pwy sy’n gorfod defnyddio anadlydd fel hwn? Pa mor aml? Bob wythnos, bob dydd? Yn achlysurol, neu’n aml iawn?

  3. Dangoswch yr ystadegau sydd gennych chi am asthma ar y cyflwyniad PowerPoint. (Efallai yr hoffech chi ddangos hefyd fideo sy’n dangos beth sy’n achosi asthma, os oes modd i chi wneud hynny.)

    Edrychwch yn ôl ar y rhestr o’r chwaraeon a luniwyd gennych, a gofynnwch i’r myfyrwyr ddileu’r chwaraeon a’r gweithgareddau hamdden fydden nhw ddim yn gallu eu cyflawni i lefel uchel oherwydd eu bod yn dioddef gydag asthma. (Bydd y myfyrwyr yn debygol o nodi a dileu’r chwaraeon octen-uchel fel rhedeg marathon, pêl-droed, ac ati.

    Yna, dangoswch y rhestr ganlynol o enwau athletwyr a’u meysydd:

    Jerome Bettis – chwaraewr pêl-droed proffesiynol
    Bruce Davidson –Gemau Olympaidd, marchogaeth
    Tom Dolan – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Kurt Grote – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Nancy Hogshead – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Jim ‘Catfish’ Hunter – chwaraewr pêl fas proffesiynol
    Miguel Indurain – yn enillydd Tour de France (bum gwaith) ac yn enillydd Olympaidd
    Jackie Joyner-Kersee – enillydd medal Gemau Olympaidd, trac
    Bill Koch – enillydd medal Gemau Olympaidd, sgïo traws gwlad
    Greg Louganis – enillydd medal Gemau Olympaidd, deifio o'r astell
    Tom Malchow – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Debbie Meyer – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Art Monk – chwaraewr pêl-droed proffesiynol
    George Murray – athletwr cadair olwyn ac enillydd Marathon Boston
    Robert Muzzio – enillydd decathlon
    Paula Radcliffe – deilydd record byd, rhedeg marathon
    Dennis Rodman – chwaraewr pêl-fasged proffesiynol
    Jim Ryun – enillydd medal Gemau Olympaidd, trac
    Alberto Salazar – rhedwr marathon 
    Alison Streeter – deilydd record nofio’r Sianel 43 o weithiau
    Isaiah Thomas – chwaraewr pêl-fasged proffesiynol
    Jan Ullrich – enillydd Tour de France
    Amy van Dyken – enillydd medal Gemau Olympaidd, nofio
    Dominique Wilkins – chwaraewr pêl-fasged proffesiynol
    Kristi Yamaguchi – enillydd medal Gemau Olympaidd, sglefrio ffigur

  4. Dywedwch wrth eich cynulleidfa eich bod chi nawr yn mynd i ganolbwyntio’n benodol ar hanes Paula Radcliffe.

    Yn ystod y paratoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Beijing, fe soniodd Paula Radcliffe am sut y gallai’r asthma effeithio arni. Roedd dau beth a allai beri anhawster iddi. Un rheswm yw bod llawer o lygredd yn yr aer yn ardal Beijing. Mae rhai o’r athletwyr eraill hefyd wedi dweud eu bod yn bryderus am y llygredd. Y flwyddyn ddiwethaf  fe aeth gwyddonwyr ati i fesur y llygredd yn yr aer yn Beijing yn ystod mis Awst, y mis y bydd y Gemau yn cael eu cynnal. Fe welson nhw ei fod yn bur ddifrifol. Dywedodd rhai athletwyr efallai na fydden nhw’n rhedeg yn y rasys pellter hir oherwydd hynny. Roedden nhw’n pryderu y byddai’r llygredd yn niweidio’u hysgyfaint.

    Y pryder arall yw’r tymheredd yn y wlad ar yr adeg honno o’r flwyddyn. Mae’n boeth iawn a’r awyrgylch yn llaith iawn yn Beijing, ac nid yw’r math hwnnw o hinsawdd yn dda i redwyr marathon. Mae hinsawdd fwy claear a chlir yn well iddyn nhw. Os yw hi’n boeth a llaith mae’r rhedwyr yn chwysu llawer ac yn colli’r dwr o’u corff, sy’n anodd ei ailgyflenwi. A gall hynny achosi i wres y corff godi’n uchel ac achosi gorludded gwres.

    Dywedodd Paula nad oedd yn mynd i ofidio am y llygredd. Dywedodd y byddai angen iddi gael y ddos iawn o’i meddyginiaeth, ac wedyn na fyddai’n meddwl rhagor am y peth.

    Yr hyn yr oedd yn ei olygu, mewn gwirionedd, oedd na allai hi wneud unrhyw beth ynghylch y llygredd, felly doedd dim pwrpas iddi ofidio.

    Yr hyn yr oedd hi’n gofidio amdano, fodd bynnag, oedd y gwres a’r lleithder. A hynny am y byddai’n rhaid iddi baratoi ar gyfer yr amodau rheini. Er enghraifft, fe ofalai y byddai’n yfed digon o ddwr a diodydd egni cyn y ras, ac yn ystod y ras hefyd. Mae hi’n brofiadol iawn wrth ymwneud â hyn, ac yn gwybod sut i wneud y peth iawn.

    Dechreuodd Paula ddioddef o’r asthma pan oedd hi’n 14 oed, pryd y dechreuodd hi hyfforddi o ddifrif ar gyfer rhedeg. Teimlai ei bod yn dioddef tyndra yn ei brest, yn fyr o anadl, ac weithiau fe fyddai’n teimlo’n benysgafn. Ond erbyn hyn, mae’n rhedwraig o fri ac yn fyd-enwog. Mae’n delio â’i chyflwr trwy fod yn gwbl ddisgybledig ynghylch y ffordd y mae’n cymryd ei meddyginiaeth - mae’n cymryd y dos iawn ar yr adeg iawn. Mae hi hefyd yn gwybod sut i fesur cynhwysedd yr ysgyfaint, felly mae hi’n gwybod sut mae hi’n dod ymlaen.

    Mae Paula’n dweud nad yw’n meddwl bod yr asthma wedi effeithio ar ei gyrfa - os rhywbeth mae wedi ei gwneud yn fwy penderfynol o lwyddo a chyrraedd ei photensial llawn.

Amser i feddwl

Mae rhai gwersi da i’w dysgu wrth feddwl am Paula Radcliffe. Un wers yw, os oes problem iechyd gennych chi, yna mae dau beth y gallwch chi eu gwneud. Un yw bod yn ofalus iawn a disgybledig ynghylch yr hyn mae’r meddygon a’r arbenigwyr iechyd yn ei ddweud. Mae mor hawdd torri corneli ac anghofio ambell beth neu beidio â thrafferthu. Ond fe ddysgodd Paula’n fuan, os nad oedd hi’n ofalus gyda’i meddyginiaeth, yna roedd hi’n talu’r pris yn ei pherfformiad athletaidd.

Y peth arall y gallwch chi ei wneud yw dysgu trwy feddwl am benderfyniad Paula. Fe fyddai wedi bod yn hawdd iawn iddi ddefnyddio’r asthma fel esgus i beidio â gwneud rhai pethau. Ond yn wir, fe wnaeth hi’n hollol i’r gwrthwyneb a defnyddio’r asthma fel rhywbeth i’w hannog ymlaen. Mae athletwyr eraill a phobl eraill o fyd chwaraeon wedi gwneud yr un peth - y cricedwr Ian Botham a’r chwaraewr pêl-droed sy’n chwarae i Loegr Paul Scholes - mae’r ddau yn dioddef gydag asthma, ond mae’r ddau wedi dod yn enwog yn eu maes ac yn berfformwyr chwaraeon o fri.

Meddyliwch am y bobl rydych chi’n eu hadnabod sydd â chyflwr neu afiechyd a allai fod yn eu gwanychu. Byddwch yn ddiolchgar am y ffordd y maen nhw’n gweithio i oresgyn y gwendid posib hwnnw, a meddyliwch am sut y gallwch chi eu cefnogi pan fyddan nhw’n teimlo’n isel neu’n gweld bywyd yn galed.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

‘I believe’ gan R. Kelly, ar gael i’w llwytho i lawr.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon