Grym Geiriau Wedi'u Dweud Yn Dda
Codi ymwybyddiaeth am atal dweud.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Codi ymwybyddiaeth am atal dweud.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim byd.
Gwasanaeth
- Tybed ydych chi’n gwybod beth allai’r cyswllt fod rhwng Winston Churchill, Michael Palin, Gareth Gates a’r Brenin Siôr VI? Mae pob un ohonyn nhw yn dioddef, neu wedi dioddef ag atal dweud. Mae’r cyflwr yn cael ei ddiffinio fel rhywun sydd yn cael anhawster gyda’r modd y maen nhw’n ynganu eu geiriau, neu sydd ddim yn rhugl wrth siarad, rhywbeth y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae gan lawer o bobl atal dweud, ac yn aml mae’n gyflwr sy’n cario mewn teuluoedd. Felly, er enghraifft, efallai bydd tad rhywun sydd ag atal dweud â’r un drafferth hefyd, a’i daid, ac ymlaen.
- Meddyliwch am y modd yr ydych yn cyfathrebu gyda phobl, o’r ‘Helo’ a’r ‘Hwyl fawr’ o ddydd i ddydd, i godi’r ffôn a siarad gyda rhywun, i archebu’r bwyd yr ydych yn dymuno’i fwyta mewn bwyty, cyfleu i rywun sut ydych yn teimlo, neu fynegi eich barn yn y dosbarth, neu hyd yn oed ateb eich enw pan gaiff ei alw wrth gofrestru. Wedi dweud hynny, gall anhawster wrth siarad fod yn brofiad mor ddrwg ag anhawster i gerdded, ac yn waeth gellir dadlau, gan ein bod bob amser yn cael ein barnu a’n hadnabod o’r ffordd yr ydym yn siarad.
- Mae gan 720,000 o oedolion a phlant yn y DU atal dweud, ac maen nhw’n aml yn teimlo eu bod bron iawn yn anweladwy ac anhyglyw. Yn anffodus, nid yw’r mwyafrif o bobl sydd ag atal dweud â’r modd i newid y sefyllfa, ac maen nhw’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny. Nid oes llawer o bobl enwog gydag atal dweud all helpu, er bod pobl fel Gareth Gates a Michael Palin wedi ymdrechu’n galed i ddwyn sylw at gyflwr y rhai sydd ag atal dweud. Felly, dyletswydd yr unigolion eu hunain ac aelodau o’u teuluoedd, neu elusennau fel y BSA (or British Stammering Association) yw hybu ac amlygu’r achosion.
- Y rheswm pam y gwnes i grybwyll enw’r Brenin Siôr VI ar ddechrau’r gwasanaeth yw oherwydd eich bod o bosib yn gyfarwydd â’r ffilm ddiweddar a enillodd wobrau’r Oscar, gyda’r actorion Colin Firth, Geoffrey Rush a Helena Bonham Carter yn actio ynddi, ffilm o’r enw The King’s Speech. Roedd gan y Brenin Siôr, tad y Frenhines Elizabeth II, atal dweud, ac mae’r ffilm yn dangos, ymhlith llawer o bethau eraill, ei rwystredigaeth fel rhywun ag atal dweud. Mae’n dangos ei therapi lleferydd ac ymateb y bobl o’i gwmpas, rhai a oedd yn adnabyddus a rhai oedd heb fod yn adnabyddus iddo hefyd, wrth iddo ddod yn Frenin – swydd y byddech yn gallu dychmygu nad oedd yn ei chwennych ond y bu’n rhaid iddo ymgymryd â hi pan wnaeth ei frawd hyn ildio’r goron.
- Ychydig iawn o bobl sy’n sylweddoli bod atal dweud yn symptom o gyflwr lle mae’r cylchedau ymenyddol yn yr ymennydd ar gyfer rheoli lleferydd heb eu cysylltu’n gywir. Nid oes tystiolaeth fod cymeriad gwan neu nerfus, na chwaith prinder deallusrwydd, yn achosi atal dweud, nac ei fod yn cael ei achosi gan rianta gwael, nac yn fai ar neb. Mae ymchwil yn bodoli sy’n awgrymu y gall atal dweud fod yn gyflwr geneteg, ond hefyd gall yn aml fod yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad ym mywyd rhywun.
- Does yna ddim gwellhad cyffredinol, er bod rhai’n llwyddo i reoli eu lleferydd yn well na’i gilydd, trwy gael therapi a gweithio’n galed ar ymarferion; ond bydd llawer sydd ag atal dweud arnyn nhw’n osgoi rhai amgylchiadau yn gyfan gwbl. Mae ymyrraeth gynnar yn gyfrwng i’r mwyafrif helaeth o’r plant ifanc iawn rheini sydd yn debygol o wynebu oes gyfan o atal dweud i adennill llefaru rhugl, a thrwy hynny gyflawni eu llawn botensial a chyfrannu’n llawn tuag at y gymdeithas a’r economi. Fodd bynnag, mae plant sydd ag atal dweud yn parhau i gael eu profocio, eu bwlio a’u hynysu’n gymdeithasol; ac mae llawer o oedolion hefyd yn methu gwybod sut i ddelio â rhywun sydd ag atal dweud.
- Mae llawer o bobl ar y cyfryngau yn trafod atal dweud fel jôc, a bydd cynyrchiadau drama yn dueddol o gastio rhai sy’n actio pobl ag atal dweud fel cymeriadau gwan neu amhendant - ac weithiau fel seicopathïau peryglus. Meddyliwch am Brofessor Quirrell yn Harri Potter a Charreg yr Athronydd. Dyna paham y mae’r ffilm The King’s Speech yn ffilm mor bwysig i chi ei gweld. Mae’n dangos nad yw rhywun sydd ag atal dweud o reidrwydd yn ddwl nac yn methu â meddwl am y geiriau y mae ef neu hi eisiau eu llefaru. Fel mater o ffaith, mae’n dangos eu bod yn gorfod delio bob dydd â rhywbeth sy’n gallu peri hunan-barch isel iddyn nhw, ac sy’n gwneud i sefyllfaoedd cyffredin ymddangos yn amhosibl. Bob dydd, yn ein hunfed ganrif ar hugain lle mae cyfathrebu o’r pwys mwyaf, mae’n ofynnol i bawb sydd ag atal dweud gael y dewrder a ddangoswyd gan Siôr VI - boed hynny yng nghyd-destun y cyfweliad holl bwysig hwnnw am swydd, ffonio cleient neu roi cyflwyniad yn y gwaith i lond ystafell o gydweithwyr.
- Felly, beth allwch chi ei wneud pe byddech chi’n cyfarfod â rhywun sydd ag atal dweud? Byddwch amyneddgar. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sydd ag atal dweud arnyn nhw’n awyddus dros ben i siarad drostyn nhw’u hunain. Efallai y byddwch yn cael eich temtio i orffen brawddeg rhywun neu gynnig geiriau iddyn nhw, ond dydy hynny fawr o help iddyn nhw.
Cofiwch ei bod hi’n OK i fod ag atal dweud. Peidiwch â chynnig cyngor fel: ‘arafwch’, ‘cymerwch eich gwynt’ neu ‘ymlaciwch’. Daliwch ymlaen i gadw cyswllt llygad, gwrandewch, ac arhoswch yn amyneddgar nes bo’r person wedi gorffen llefaru.
Byddwch yn wrandäwr da. Gadewch i’r sawl sy’n siarad wybod, trwy’r hyn a ddywedwch ac a wnewch, eich bod yn gwrando, a gwnewch eich gorau glas i beidio ag edrych i ffwrdd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa braidd yn anghyfforddus. Ceisiwch gyfleu’n ymarferol ragolwg derbyniol ac ymlaciol, oherwydd bydd unrhyw embaras amlwg ac anesmwythder y byddwch chi’n ei ddangos ddim ond yn gwneud pethau’n waeth ac yn amlygu’r anghysur sydd gan y sawl sydd ag atal dweud. Canolbwyntiwch ar yr hyn y mae’r person yn ei ddweud, nid ar y modd y maen nhw’n ei ddweud.
Cofiwch fod atal dweud yn gwahaniaethu o berson i berson. Mae rhai pobl sydd ag atal dweud yn ei chael hi’n anodd dechrau llefaru ac yn cael llai o drafferth unwaith y maen nhw wedi dechrau siarad. Peidiwch â synnu os yw person ag atal dweud yn arddangos hynny’n waeth mewn rhai achosion yn fwy na’i gilydd. Gall siarad ar y teleffon, siarad o flaen ciw o bobl, neu o fewn clyw i bobl eraill, achosi trafferthion cynyddol. Cofiwch nad yw atal dweud yn cael ei achosi gan nerfusrwydd. Er y gall siaradwr ymddangos yn nerfus, cadwch mewn cof y byddai’r nerfusrwydd yn fwy o ganlyniad yr embaras am yr atal dweud yn hytrach na’r achos drosto.
Os nad ydych yn sicr sut i ymateb, gofynnwch i’r siaradwr - ond gwnewch hyn gyda sensitifrwydd ac mewn ffordd sy’n gadael y siaradwr yng ngofal y sefyllfa. Gall hyn olygu eich bod yn holi cwestiwn agored fel, ‘Oes yna rywbeth y gallaf fi ei wneud er mwyn i bethau fod yn rhwyddach i chi?’ Neu, os yw rhywun ag atal dweud dwys iawn, gofynnwch gwestiwn caeedig fel, ‘Fyddech chi’n hoffi mynd i rywle tawelach?’ neu ‘Fyddai’n well gennych chi ysgrifennu hwn?’
Byddwch yn ymwybodol fod tôn y cwestiynau hyn yn bwysig iawn. Ystyriwch hefyd y gall rhai siaradwyr deimlo’n anghyfforddus yn trafod eu llefaredd, ond y gall llawer ohonyn nhw groesawu eich diddordeb diffuant. I ddiweddu . . . ceisiwch rymuso’r person trwy gynnig dewis iddyn nhw yn hytrach na gosod eich ateb chi i’r sefyllfa. Ar bob cyfrif, cadwch o blaid bod yn amyneddgar a rhoi’r cyfle i’r person siarad drosto’i hun.
Amser i feddwl
Mae’r ymwybyddiaeth o atal dweud yn isel - ac o ganlyniad mae’r ddealltwriaeth o’r cyflwr yn isel. Cyfanswm y cyfraniadau cyhoeddus i’r BSA (Cymdeithas Brydeinig Atal Dweud) yn flynyddol yw o gwmpas £100,000 - gyda’r rhan fwyaf yn angenrheidiol yn syml i alluogi’r gymdeithas fodoli. Cymharwch hyn gyda’r Lloches ar gyfer Asynnod, sydd yn derbyn cyfraniadau trwy law’r cyhoedd yn cwmpasu £20 miliwn y flwyddyn. A’r tro nesaf y byddwch yn cael trafferth i gael hyd i’r geiriau cywir, cofiwch fod hynny i rai pobl, yn rhywbeth y mae’n rhaid iddyn nhw fyw gydag ef, ac eto maen nhw’n ddigon dewr a chryf i wneud hynny.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.