Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bandiau Teyrnged

Annog y myfyrwyr i ystyried y graddau y gallan nhw fod yn dibynnu gormod ar eraill am eu hunaniaeth bersonol.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried y graddau y gallan nhw fod yn dibynnu gormod ar eraill am eu hunaniaeth bersonol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi, ond fe allech chi arddangos lluniau o’r artistiaid sydd dan sylw gennych chi.

Gwasanaeth

  1. Gyda dyfodiad mis Mai, dyma ddechrau tymor y gwyliau cerddorol ledled y wlad. Fe fydd pobl yn gallu mynd i weld a gwrando ar y prif fandiau – os yw’r arian ganddyn nhw i wneud hynny, ac os ydyn nhw’n llwyddo i gael tocynnau. Yn aml, fe fydd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu’n fuan yn union wedi iddyn nhw ddod ar gael.

  2. Mae rhywbeth yn arbennig iawn am wrando ar gerddoriaeth fyw. Un peth yw gwrando ar recordiad, pa un ai oddi ar CD neu gerddoriaeth wedi’i lwytho i lawr, neu hyd yn oed wrth wrando ar y record feinyl wreiddiol, ond mae gwrando ar y gerddoriaeth honno’n fyw yn brofiad hollol wahanol. Mae yno’r awyrgylch y mae’r ffans yn ei chreu, yr effeithiau gweledol a’r synnwyr bod y cyfan yn digwydd yno, nawr, yn union o’ch blaen. Y newydd da yw y gallwn ni i gyd rannu’r profiad o ddigwyddiad byw. Fe allwn ni i gyd wrando ar seiniau Take That (gyda Robbie Williams, neu hebddo), Abba, Pink Floyd, hyd yn oed Elvis, Queen, neu’r Beatles. Meddyliwch am hynny am foment.

    Sut? Wel, dim ond dod o hyd i fand teyrnged.

  3. Mae rhai cerddorion sydd wedi adeiladu eu gyrfa gyfan ar ail-greu seiniau a dawn arddangos artistiaid fel y rhai y cyfeiriais i atyn nhw. Nid dim ond y llais canu a’r harmonïau y maen nhw’n ei ail-greu, mae’r cyfan yn ymwneud â holl drefniant y caneuon, y symudiadau dawns, y gwisgoedd, yr acenion a’r darnau llafar rhwng y caneuon. Pe byddech chi’n cau eich llygaid, fe fyddech chi’n tybio mai’r artist gwreiddiol sy’n perfformio o’ch blaen. Ond wrth gwrs, does dim gwreiddioldeb yn yr hyn y mae’r bandiau teyrnged yn ei wneud. Pe byddai unrhyw un o’r bandiau’n cyflwyno rhywfaint o’u stamp personol i’r perfformiad fe fyddai’n difetha’r cyflwyniad yn llwyr. Mae’r cyfan yn ymwneud â chywirdeb, o’r ynganiad a’r brawddegu cerddorol, i fwrlwm y drwm a riffs y gitâr. Mae’r gynulleidfa wedi dod i’r perfformiad i fwynhau ffugwaith manwl gywir. Dim ond cam amlsynhwyraidd pellach yw hwn na mynd i  Madame Tussaud’s i sefyll o flaen cerfluniau cwyr o’r enwogion.

  4. Pwy yw eich icon steil chi? Pwy ydych chi’n ceisio’i efelychu, o ran ei olwg, ei lais a’i ymddygiad? Rydyn ni i gyd yn euog o wneud hyn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae’r rhai hynny ohonom sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn prynu’r dillad a’r offer sy’n cael eu gwisgo a’u defnyddio gan ein harwyr, ac yn ymarfer eu symudiadau celfydd. Fe fydd rhai yn deifio yn y cwrt cosbi, neu’r dadlau gyda’r dyfarnwr! Bydd sêr y byd ffilmiau a cherddorion yn datblygu eu canlynwyr cwlt, a fydd yn atgynhyrchu pob manylyn o’r hyn y maen nhw’n gweld eu heilunod yn ei wisgo, ei fwyta, ac yn ei wneud. Mae ffasiwn gwallt a dillad yn newid o dymor i dymor, dan arweiniad y delweddau yn y cyfryngau. Pwy sy’n mynd i fyny a phwy sy’n mynd i lawr? Hyd yn oed yn yr ysgol, mae’n bosib gweld myfyrwyr yn copïo steil unigolion penodol. Weithiau, mae hyn yn nhermau gwisg, dewis o gerddoriaeth a’r geriach diweddaraf y mae’n ‘rhaid eu cael’. Fe all hefyd fod yn nhermau ymddygiad, ymddygiad all fod yn dderbyniol yn gymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad anghymdeithasol hefyd, weithiau. Y gwir yw, rydyn ni i gyd yn cael ein temtio i gopïo pobl eraill. Mae athrawon hyd yn oed yn gwneud hynny, ond fe fydd yn rhaid i chi sylwi’n fanwl!

  5. Pam rydyn ni’n gwneud hyn? Ar un llaw, fe allai fod yn syml am y rheswm ein bod yn hoffi’r hyn mae rhywun arall yn ei wneud, ac awydd rhoi cynnig arni ein hunain. Os yw’n gweithio iddyn nhw, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gweithio i ninnau hefyd. Mae rhywfaint o annibyniaeth yn y ffordd hon o feddwl, oherwydd os dydyn ni ddim yn meddwl bod hynny’n gweithio, yna mae’n debyg y byddwn ni’n gallu dod o hyd i rywbeth arall sy’n gweithio. Ar adegau eraill, efallai mai eisiau creu argraff ar y sawl rydyn ni’n ei gopïo rydyn ni. Mae dywediad yn Saesneg: ‘imitation is the highest form of flattery’- sef bod efelychu rhywun yn ffordd o’u canmol. Mae gwisgo ac ymddwyn yn debyg i rywun neilltuol yn un ffordd o ddangos ein bod yn awyddus i fod yn rhan o’r grwp y maen nhw’n perthyn iddo. Neu, fe fyddwn ni’n copïo steil neilltuol oherwydd ein bod eisiau denu sylw un o’r rhyw arall. Yn olaf, efallai ein bod ambell dro yn copïo oherwydd ein bod yn meddwl nad oes gennym ni syniadau gwreiddiol ein hunain, a dydyn ni ddim eisiau cael ein gadael ar ôl mewn byd prysur llawn newidiadau. Dydyn ni ddim eisiau i neb feddwl ein bod ni’n hen ffasiwn. Canlyniad hyn yw ein bod yn efelychu. A chanlyniad yr efelychu yma yw delweddau teyrnged, unigolion yn ceisio edrych yr un fath â rhywun arall, swnio yr un fath, ac ymddwyn yr un fath.

  6. Rydyn ni’n werth mwy na hynny, mi gredaf. Pan fydd y Beibl, yn stori’r Creu, yn sôn ein bod wedi cael ein llunio ar ddelw Duw, nid yw’n golygu mai clôn yw pob un ohonom, a phob un yn union yr un fath. Na, mae’n golygu ein bod ni i gyd yn unigolion hardd, unigryw, sy’n berchen ar y potensial tragwyddol y mae bywyd creadigol Duw yn ei roi i ni. Does neb yn union yr un fath â chi na fi, ac mae gennych chi a minnau gyfraniad unigryw i’w wneud yn y byd rydyn ni’n byw ynddo. Mae’r byd yn lle cyfoethocach oherwydd ein bod yn byw ynddo. Mae gan bob un ohonom yr hawl i sefyll yn y sbotolau ac ymgrymu. Yn achos ambell un, efallai mai oherwydd ei lais canu y bydd hynny, yn achos un arall efallai mai oherwydd ei allu i ddatrys problemau. Fe allai fod yn unigryw oherwydd bod ganddo ef neu hi wallt hyfryd, neu efallai y bydd gan rywun arall amynedd di ben draw. I rywun arall, efallai ei fod yn rhedwr cyflym, a rhywun arall yn dda am feddwl beth sydd orau i’w wneud mewn argyfwng. Yn wir, does dim rhaid i ni gopïo pobl eraill a bod yn weithred deyrnged o’r rhai sydd o’n cwmpas. Ni ein hunain ydyn ni. Fi ydw i, a chi ydych chi, ac mae hynny’n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch ohono.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn ystyried y pwyntiau canlynol. Fe allech chi eu troi’n weddi, os hoffech chi:

Byddwch yn ddiolchgar am fod yr un ydych chi, ac am bopeth sy’n perthyn i chi rydych chi’n falch ohono.
Byddwch yn edifar am wrthod eich hun, neu am fod â chywilydd o bwy ydych chi.
Lluniwch gynllun i weithredu ar rywbeth sy’n codi o’r gwasanaeth heddiw.

Ac fel gweithred derfynol, fe hoffwn i chi i gyd sefyll ar eich traed.
(Saib)
Nawr, gyda’ch gilydd, ymgrymwch fel rhywun enwog yn derbyn cymeradwyaeth! Rydych chi i gyd yn sêr.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Thank you for the music’ gan Abba (mae’r gân yn ymwneud â phriodoleddau personol y gantores, a hithau’n diolch am y rheini).

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon