Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Pentecost

Helpu’r myfyrwyr i ddeall ystyr gwyl Gristnogol y Pentecost.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddeall ystyr gwyl Gristnogol y Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’, paratowch gyflwyniad PowerPoint sy’n dangos delweddau o dân, gwynt a cholomen.

  • Tafluniwch eiriau’r darlleniad, Actau 2:1–13, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

    Dyfodiad yr Ysbryd Glân
    ‘1 Ar ddiwrnod dathlu Gwyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. 2 Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed swn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle'r oedden nhw’n cyfarfod.  3 Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.  4 Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.  5 Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. 6 Clywon nhw’r swn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am bod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.  7 Roedd y peth yn syfrdanol! "Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod?” medden nhw.  8 “Sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?”  9 (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,  10 Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain  11 – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid.) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!"  12 Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy’n mynd ymlaen?" medden nhw. 
    13 Ond roedd rhai yno’n gwatwar a dweud, "Maen nhw wedi meddwi!".’

 (dyfyniad oddi ar y wefan beibl.net)

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr: ‘Beth yw’r peth gorau ar gyfer eich adfywio?’ Diod oer ar ddiwrnod poeth? Gorffwys yn y pnawn? Gwrando ar gerddoriaeth? Chwarae gêm gyfrifiadurol?

  2. Gofynnwch eto: ‘Beth yw’r Pentecost?’ (Derbyniwch atebion.)

    Ar Sul y Pentecost, mae llawer o eglwysi’n dathlu dyfodiad yr Ysbryd Glân i nerthu dilynwyr Iesu Grist. Fe welwch yr hanes yn y Testament Nerwydd (Actau 2:1–13). Daw’r gair ‘Pentecost’ o’r gair Groeg pentekoste, sy’n golygu ‘hanner canfed’. Ystyr ‘Sul y Pentecost’ yw ‘Sul yr Hanner Canfed’, a chaiff y Pentecost ei alw’n hyn am mai hwn yw’r hanner canfed diwrnod ar ôl y Pasg. 

    Ar ôl ei atgyfodiad ar adeg y Pasg, cyn iddo esgyn i’r nefoedd, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am aros nes byddai’r Ysbryd yn dod atyn nhw. Ddeg diwrnod ar ôl iddo esgyn, sef pum deg diwrnod ar ôl iddo atgyfodi, yn ystod yr Wyl Iddewig o’r enw Shavuot, fe ddaeth yr Ysbryd, ac fe ddechreuodd yr Eglwys Gristnogol. Cawn wybod bod Pedr, wedyn, wedi pregethu yn hyderus i’r bobl, a chanlyniad hynny oedd i 3,000 o bobl ddod i gredu yn Iesu Grist.

  3. Beth allwn ni ei ddysgu am Dduw oddi wrth beth ddigwyddodd ar Ddydd y Pentecost? Yn Llyfr yr Actau, pennod 2, mae’r Ysbryd Glân yn cael ei ddisgrifio fel tân a gwynt; mewn man arall mae’n cael ei gyffelybu i golomen. Mae tân yn pwysleisio sancteiddrwydd Duw, y gwynt yn cyfleu grym Duw, a’r golomen yn cynrychioli tangnefedd Duw. Pan dderbyniodd y disgyblion yr Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost, fe gawson nhw nid yn unig synnwyr newydd o genhadaeth (i ddweud wrth eraill am Iesu) ond hefyd fe gawson nhw adnewyddiad i’r teimlad o bresenoldeb Duw gyda nhw, i’w hannog, eu hadfywio a’u hargyhoeddi o’i gariad tuag atyn nhw ac at yr holl fyd. 

    Fe ddaeth yr Ysbryd fel yr Eiriolwr (neu’r Cysurwr) yr oedd Iesu wedi ei addo iddyn nhw. Ar y noson cyn iddo farw, roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw fel hyn, ‘Ac fe ofynnaf innau i’m Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth’ (Ioan 14.16). Geiriau eraill am Eiriolwr fyddai Cyfnerthwr neu Ddiddanydd. Mae Cristnogion yn credu bod yr Ysbryd yn byw ynddyn nhw ac yn dod â thangnefedd a llawenydd Crist iddyn nhw.

  4. Ar adeg y Nadolig, fe fyddwn ni’n dathlu rhodd Duw i’r byd, sef ei Fab. Ond ar Ddydd y Pentecost, fe roddodd Duw y Tad, a’i Fab Iesu, gyda’i gilydd, rodd arall – yr Ysbryd Glân (Ioan 14.16; 16.7). 

    Allwch chi ddychmygu plentyn ar Ddydd Nadolig yn agor dim ond un anrheg, ac yn gadael yr anrhegion eraill heb eu cyffwrdd? Heddiw, mae’r Ysbryd Glân yn byw y tu mewn i ni, er hynny, fe allwn ni fethu adnabod y cyfan y mae wedi ei roi i ni. Mae Cristnogion yn credu os gwnawn ni ofyn, fe wnaiff yr Ysbryd Glân roi’r sicrwydd i ni o ofal Duw a’n newid ni i fod yn debycach i Iesu yn ein meddyliau, ein hagwedd a’n gweithredoedd. Dyma addewid y Pentecost!

  5. Weithiau, fe fydd pobl yn cyfeirio at y Pentecost fel y Sulgwyn. Dyna oedd yr hen enw ar y Sul hwn. Roedd yn cael ei alw’n ‘Sul Gwyn’ oherwydd bod Cristnogion newydd yn aml yn cael eu bedyddio ar y diwrnod hwn, ac fe fydden nhw’n gwisgo dillad gwyn ar gyfer y bedydd).

  6. Mae rhai Cristnogion sy’n rhoi pwyslais mawr ar rôl yr Ysbryd Glân a’i roddion yn galw’u hunain yn bentecostaidd (Pentecostals). Maen nhw’n pwysleisio pa mor bwysig yw adnewyddu’r Ysbryd o fewn yr Eglwys ac o fewn yr unigolion hefyd.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a thafluniwch y delweddau o’r tân, y gwynt , a’r golomen.)

Dyma’r delweddau o Dduw y mae’r Pentecost yn eu rhoi i ni.
Sut rydych chi’n meddwl y mae’r gwahanol agweddau yn gweithio yn ein bywydau?
Pa un sydd debycaf i chi?
Nawr, meddyliwch am weithio tuag at fod yn gyfuniad o’r tri pheth . . .

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon