Hip, Hip, Hwre I'r Un Sy'n Aflwyddiannus!
Annog y myfyrwyr i ddal ati gyda thasgau anodd, hyd yn oed os ydyn nhw’n meddwl eu bod nhw’n methu.
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ddal ati gyda thasgau anodd, hyd yn oed os ydyn nhw’n meddwl eu bod nhw’n methu.
Paratoad a Deunyddiau
- Dangoswch rai lluniau o athletwyr a phobl enwog eraill o fyd chwaraeon. Fe allech chi lwytho rhai o’r rhain i lawr oddi ar y rhyngrwyd a’u cael yn rhedeg fel cyflwyniad PowerPoint, neu arddangos y lluniau o gwmpas yr ystafell.
- Llwythwch i lawr luniau o Jim Peters ac Eddie ‘The Eagle’ Edwards i’w dangos ar yr adegau priodol.
Gwasanaeth
- Mae’r rhan fwyaf o arwyr byd chwaraeon yn cael eu cofio am eu llwyddiannau: rhedwyr yn cael eu cofio am eu hamser cyflymaf a’u medalau aur; pêl-droedwyr am eu goliau a’r tlysau a enillwyd ganddyn nhw; chwaraewyr rygbi am y pwyntiau maen nhw wedi’u sgorio neu’r capiau maen nhw wedi’u hennill am chwarae dros eu gwlad; a chwaraewyr tennis am y twrnameintiau maen nhw wedi’u hennill. Ond heddiw, rydyn ni eisiau sôn am ddau unigolyn o fyd chwaraeon sy’n cael eu cofio, nid am eu llwyddiannau ond am eu methiannau.
- Rhedwr marathon oedd Jim Peters, ac roedd yn rhedwr da iawn. Ef oedd y cyntaf i redeg marathon mewn llai na 2 awr 20 munud, ac fe ddaliodd record byd bedair gwaith yn olynol am redeg marathon. Ond mae pobl yn ei gofio am y ras honno na wnaeth ei hennill. Y ras honno oedd y marathon yng Ngemau’r Ymerodraeth yn Vancouver yn 1954.
Roedd hi’n ddiwrnod poeth, llaith, ac roedd llawer o’r rhedwyr wedi rhoi’r gorau i redeg oherwydd y gwres a oedd yn eu llethu. Ond, fe ddaliodd Jim ati, roedd yn rhedeg yn dda, ac roedd gymaint â thair milltir o flaen yr agosaf ato wrthi iddo nesáu at y stadiwm. Bryd hynny, doedd dim mannau darparu dwr i’w yfed ar gyfer y rhedwyr yn ystod y daith, ac roedd Jim fel y rhan fwyaf o’r rhedwyr yn dioddef o ddiffyg hylif. Wrth redeg trwy’r cysgod yn y twnnel a oedd yn arwain i’r stadiwm, a dod yn ôl eto allan i’r gwres a golau’r haul, fe gollodd gyswllt â'r amgylchedd ac fe gwympodd yn union y cyrhaeddodd y stadiwm.
Ymdrechodd Jim i godi ar ei draed a gwegian tuag at y llinell derfyn. Cwympodd sawl tro wedyn hefyd, ac fe gymrodd 15 munud iddo orffen y 200 llath olaf. O’r diwedd, fe lwyddodd i groesi’r llinell derfyn, ond yn anffodus llinell derfyn ras arall oedd honno. Cwympodd eto ond fe helpodd un o’r rhai a oedd yn gofalu am y tîm ef, a’i arwain oddi ar y trac. Cafodd ei ddiarddel o’r ras am beidio â chroesi’r llinell derfyn iawn, a dyna’r marathon olaf iddo’i rhedeg.
Efallai nad enillodd Jim Peters y ras honno, ond roedd ei ddewrder a’i benderfyniad yn ysbrydoliaeth i eraill, ac fe fydd yn cael ei gofio am y ras olaf honno. - Yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Calgary, Canada yn 1988 y daeth Eddie ‘The Eagle’ Edwards yn enwog. Ef oedd y cystadleuydd cyntaf i gynrychioli Prydain am y naid sgïo yn y Gemau Olympaidd. Eddie oedd yn dal y record genedlaethol am y naid sgïo, felly roedd wedi hen arfer. Ef oedd yr unig neidiwr sgïo i wneud cais am gael cynrychioli Prydain yn Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 1988. Roedd yn gymwys ar gyfer y cystadlaethau naid sgïo 70 metr a’r 90 metr.
Doedd dim llawer o bobl ddim yn credu y byddai gan Eddie obaith ennill medal, ac felly y bu – Eddie oedd yr olaf yn y ddwy gystadleuaeth. Ond, er gwaethaf popeth, fe ddaeth yn un o’r personoliaethau mwyaf poblogaidd yn yr holl gystadlaethau, ac fe gyfeiriwyd ato hyd yn oed yn anerchiad cloi’r Gemau - eithriad yw enwi unrhyw unigolyn.
Ei benderfyniad a’i synnwyr digrifwch oedd yr hyn a wnaeth Eddie’n enwog. Po salaf ei berfformiad, y mwyaf poblogaidd y deuai. Cafodd ei gyfweld gan orsafoedd radio a theledu ledled y byd ac fe newidiodd ei fyd o fod yn blastrwr a enillai tua £5,000 y flwyddyn i fod yn rhywun enwog a enillai tua £10,000 yr awr. - Weithiau, fe fyddwn ni’n meddwl mai ennill yw’r unig beth sy’n bwysig, ac wrth gwrs dyna nod cystadleuwyr mewn unrhyw ras. Ond mae’r ffordd rydyn ni’n cymryd rhan yn bwysig hefyd:
- fe allwn ni fod yn falch pan fyddwn ni wedi gwneud ein gorau glas;
- fe all colli mewn cystadleuaeth fod yn anogaeth i ymdrechu’n galetach;
- mae cymryd rhan yn llwyddiant ynddo’i hun. Fel y dywedodd Eddie un tro. Roedd yn falch ei fod wedi cyrraedd y Gemau, ‘Just getting to the Games was my gold medal. It didn’t matter where I came.’
Er mwyn meddwl ymhellach, a thrafod:
Ystyriwch y credo Olympaidd: ‘Y peth pwysicaf yw, nid ennill, ond cymryd rhan. Yn union fel mai’r peth pwysicaf mewn bywyd yw nid y fuddugoliaeth ond yr ymdrech. Y peth hanfodol yw nid bod wedi concro ond bod wedi brwydro’n dda.’ (addasiad o eiriau Pierre de Coubertin).
Dathlwch lwyddiannau myfyrwyr sydd wedi goresgyn anawsterau er mwyn llwyddo, a’r rhai hynny y mae eu hymdrechion yn parhau ac yn werth eu canmol.
Gofynnwch i’r myfyrwyr ymchwilio i hanes y rhedwr Phidippides, a dechreuad rasys marathon.
Amser i feddwl
Mewn unrhyw ras, neu yn unrhyw beth y byddwch chi’n ei wneud, cofiwch fod sut rydych chi’n mynd ati weithiau’n fwy pwysig na pha mor llwyddiannus yr ydych chi.
Meddyliwch am y pethau yn eich bywyd chi rydych chi’n eu cael yn heriol.
Efallai mai eich gwaith academaidd yw un peth.
Neu efallai bod cymryd rhan mewn chwaraeon yn ymdrech fawr i chi.
Efallai eich bod yn cael anhawster gyda pherthynas ar y foment.
Sut y gallwch chi weithio i ddatrys yr anawsterau hyn?
Meddyliwch am y pethau yn eich bywyd chi rydych chi’n llwyddiannus ynddyn nhw.
Pam rydych chi’n meddwl eich bod yn llwyddo?
Gweddi
Annwyl Dduw,
rho i mi’r egni a’r cadernid
i ddal ati gyda’r dasg fydd gen i i’w gwneud,
a’r doethineb i ofyn am help pan fydd angen help arna i.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
Wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r gwasanaeth, chwaraewch y gerddoriaeth thema i’r ffilm Chariots of Fire, a gyfansoddwyd gan Van Gelis, (ac sydd ar gael yn hawdd i’w llwytho i lawr).