Pwy Ydych Chi?
Herio’r myfyrwyr i ystyried sut y bydden nhw’n disgrifio’u hunain, a’u hannog i fod yn onest ynghylch pwy ydyn nhw mewn difrif.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Herio’r myfyrwyr i ystyried sut y bydden nhw’n disgrifio’u hunain, a’u hannog i fod yn onest ynghylch pwy ydyn nhw mewn difrif.
Paratoad a Deunyddiau
- Papur A4 gyda ‘thraethawd’ Lisa arno.
Gwasanaeth
(Mae’r gwasanaeth hwn yn cyffwrdd â rhai materion sensitif iawn. Byddwch yn ymwybodol y gall godi rhai materion y bydd rhai myfyrwyr angen delio â nhw.)
- Pan fyddwch chi’n cwrdd â rhywun newydd am y tro cyntaf, pa gwestiynau fyddwch chi’n eu gofyn iddyn nhw? Beth ydych chi eisiau ei wybod amdanyn nhw?
Efallai y byddwch chi’n gofyn: Beth ydi dy enw di? Ble rwyt ti’n byw? Faint ydi dy oed di? I ba ysgol rwyt ti’n mynd? Beth wyt ti’n hoffi ei wneud? Pa fath o gerddoriaeth wyt ti’n ei hoffi? Pa dim pêl-droed wyt ti’n ei gefnogi?
Ai’r atebion i’r cwestiynau hyn sy’n ein gwneud y rhai ydyn ni? A yw ein hunaniaeth yn yr atebion hyn?
Gadewch i ni ystyried beth yw hunaniaeth wrth i ni wrando ar y stori ganlynol. - Roedd Lisa’n eistedd yn y wers Gymraeg, doedd hi ddim yn gwrando ar yr athro. Roedd ei meddwl ymhell i ffwrdd, yn ceisio meddwl sut y gallai osgoi gorfod gwneud yr aseiniad diweddaraf hwn. O’i blaen, ar ben tudalen o bapur glân, yr oedd y geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu: ‘Pwy wyt ti?’
A dyma’r tri gair oedd wedi creu panig ym meddwl y ferch gyffredin 16 oed hon. Roedd hi’n gwybod pwy roedd pobl eraill yn ei feddwl oedd hi. Fe wyddai hi sut y byddai ei ffrindiau yn ei disgrifio - poblogaidd, doniol, yn llawen o hyd, un sy’n barod i wneud unrhyw beth i unrhyw un - disgrifiadau felly.
Fe wyddai Lisa hefyd bod y disgrifiadau ymhell o fod yn wir mewn gwirionedd.
Heb feddwl, fe grafodd grachen newydd oedd ar ei braich o dan lawes ei blows ysgol, ac fe grwydrodd ei meddwl yn ôl i’r adeg pan oedd hi’n ferch fach. Roedd hi’n hapus bryd hynny ac roedd pawb wrth eu bodd gyda hi. Fe fyddai hi o hyd â gwên ar ei hwyneb, ac fe fyddai pobl y stryd yn ei chanmol am fod mor ddiddig a llawen bob amser. Fe fyddai ei mam a’i thad yn dweud wrthi pa mor falch oedden nhw ei bod yn frech mor annwyl a hapus. Felly, ar yr adegau pan nad oedd hi’n teimlo’n hapus, fyddai hi byth yn cyfaddef hynny wrth unrhyw un rhag ofn i bobl eraill fod yn siomedig ynddi a pheidio â’i charu wedyn. Fe fyddai hi’n smalio ei bod yn hapus a fyddai neb byth yn sylwi ar y tristwch y tu ôl i’r wên.
Mewn gwirionedd, roedd hi mor dda am wneud i bobl wenu, fe fyddai ei mam yn arfer ei hanfon i ystafell ei chwaer os byddai honno angen ei chysuro ac angen ei hannog i ddod i gael bwyd gyda nhw. Ac fe fyddai ei thad yn gofyn iddi geisio gwneud i’w brawd chwerthin pan fyddai hwnnw’n ddrwg ei hwyl, a’i gael i anghofio’i ddicter. Fe fyddai hi’n ceisio atal ei mam rhag gofidio am ei hiechyd, ac yn ceisio cysuro ei thad pan oedd dan bwysau wrth iddo ymdopi â phethau anodd yn ymwneud â’i swydd.
Dyna pwy oedd hi. Dyna beth oedd hi’n ei wneud. Dyna beth yr oedd hi’n dda am ei wneud.
‘Lisa,’ meddai’r athro. Wyt ti byth wedi dechrau? Mae marciau’r aseiniad yma’n cyfrif at y marc terfynol, a dwyt ti ddim wedi ysgrifennu unrhyw beth eto!’ Roedd yr athro’n edrych dros ysgwydd Lisa ar y ddalen o bapur glân ar ei desg.
Yn araf, gafaelodd Lisa yn ei beiro a dechreuodd ysgrifennu. Dyma’r hyn a ysgrifennodd:
Dydych chi ddim yn gwybod pwy ydw i, a dydych chi ddim eisiau gwybod.
Pe byddech chi’n gwybod pwy ydw i mewn gwirionedd, fyddech chi ddim eisiau fy adnabod.
Alla i ddim dweud wrthych chi pwy ydw i, oherwydd dydw i ddim wedi dweud wrth neb erioed.
Dydw i ddim wedi dweud wrth neb erioed am nad oes neb erioed wedi gofyn i mi.
Erbyn hyn, dydw i ddim yn siwr ydw i’n gwybod pwy ydw i fy hun.
Ddylech chi ddim bod wedi gofyn y cwestiwn yma i mi. - Wyddom ni ddim beth ddigwyddodd ar ôl hynny. Tybed pa farc gafodd Lisa am ei gwaith? Efallai bod bywyd wedi mynd yn ei flaen wedyn yn union yr un fath. Efallai ei bod wedi mynd adref ac wedi niweidio’i hun eto. Efallai ei bod wedi dod o hyd i ffordd arall o alw am help. Efallai bod ei hathro wedi sylwi ar anhapusrwydd Lisa ac wedi gallu trefnu’r help iddi yr oedd arni ei angen.
Efallai bod Lisa’n debyg i rai ohonom ni yma heddiw. Sut y byddech chi wedi ateb y cwestiwn hwnnw?
Amser i feddwl
Pwy ydych chi?
Mab, merch, brawd, chwaer, wyr neu wyres, cefnder neu gyfnither, ffrind.
Ydych chi’n arweinydd ffasiwn, yn gîc, yn llipryn, neu’n rebel sy’n gwrthryfela?.
Ai chi yw clown y dosbarth, neu fwli’r dosbarth? Ydych chi’n geffyl blaen, neu efallai’n aderyn brith?
Pan fydd yr holl labeli wedi cael eu diosg, pwy ydych chi o ddifrif?
Pwy ydych chi?
Ydych chi’n un caredig, hael, poblogaidd, neu hunanfeddiannol?
Plaen, diflas, difrif, neu aeddfed?
Crintachlyd, sbeitlyd, haerllug, neu ddigywilydd?
Ydych chi’n un sy’n ofalgar, yn gefnogol, yn ysmala, neu’n annibynnol?
Pan fydd yr holl ansoddeiriau wedi cael eu diosg, pwy ydych chi o ddifrif?
Pwy ydych chi?
Artist dawnus, dawnsiwr gwych, pianydd hynod?
Cogydd ardderchog, chwaraewr rygbi penigamp, neu athrylith ym myd cyfrifiaduron?
Pan fydd yr holl sgiliau wedi cael eu diosg, pwy ydych chi o ddifrif?
Rydyn ni i gyd yn cuddio y tu ôl i’n rôl.
Rydyn ni i gyd yn cuddio y tu ôl i’r hyn y mae pobl eraill yn meddwl ydyn ni.
Rydyn ni i gyd yn cuddio y tu ôl i’n doniau.
Gadewch i ni gael y dewrder i ddarganfod pwy ydyn ni mewn gwirionedd.
Gadewch i ni gael yr hyder i arddangos pwy ydyn ni mewn gwirionedd.
Gadewch i ni fod â meddwl agored i dderbyn pobl eraill fel y maen nhw mewn gwirionedd.
Gadewch i ni gael cyfle i ddathlu pwy ydyn ni mewn gwirionedd.
(Goleuwch gannwyll, a gadewch i’r myfyrwyr dreulio moment neu ddwy mewn distawrwydd.)
Cerddoriaeth
‘Who am I?’ fideo gan Will Young https://www.youtube.com/watch?v=35F4swUFnRc
Mae’r cyflwyniad yma’n fersiwn ddifyr o’r gân. (Mae’n bosib y gallech chi ddod o hyd i gopi o ansawdd gwell os chwiliwch chi ar y Rhyngrwyd, ond byddwch yn ymwybodol o amodau hawlfraint.)