Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Croeso I Blwyddyn 7

Archwilio ein teimladau o fod ar goll mewn ysgol newydd, ystyried sut y gallwn ni helpu ein gilydd, a gweld pam y dylem ni wneud hynny.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio ein teimladau o fod ar goll mewn ysgol newydd, ystyried sut y gallwn ni helpu ein gilydd, a gweld pam y dylem ni wneud hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ceisiwch gopi o gân Michael Buble, ‘Lost’ (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd), i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

  • Llwythwch i lawr gopi o eiriau’r gân.

  • Fe fydd arnoch chi angen mwgwd a chasgliad o eitemau y gall myfyriwr sy’n gwisgo’r mwgwd dros ei lygaid fynd heibio iddyn nhw (cadeiriau, bwcedi, conau).

Gwasanaeth

  1. Tafluniwch eiriau’r gân, a holwch y myfyrwyr am beth mae’r gân yn sôn. 

    Gofynnwch a oes unrhyw un sydd yn y gwasanaeth heddiw, eisoes wedi mynd ar goll yn yr ysgol, neu wedi teimlo dipyn bach ar goll ers iddyn nhw ddechrau yn eu hysgol newydd? Dywedwch fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo ar goll braidd pan fydd newidiadau mawr yn digwydd yn eu bywyd. 

    Holwch beth yw neges gadarnhaol y gân. Eglurwch fod y canwr yn dweud: ‘Dwyt ti ddim ar goll, oherwydd fe fydda i yno bob amser.’

    Sut y gall y neges hon fod yn berthnasol i ni?

  2. Gofynnwch am wirfoddolwr i wisgo’r mwgwd. Ac ar ôl iddo ef neu hi roi’r mwgwd dros ei lygaid, ei arwain o’r naill ochr i’r ystafell i’r llall. 

    Trefnwch fod rhywun yn gosod yr eitemau sydd gennych chi fel rhwystrau yma ac acw ar y llawr (cadeiriau, conau, ac ati.). Gan ofalu am ddiogelwch y myfyriwr, helpwch ef neu hi ar ei daith. Bydd yn mynd ar draws y rhwystrau ac yn teimlo ar goll.

  3. Tynnwch y mwgwd, a thrafodwch beth ddigwyddodd. Sut roedd y myfyriwr a oedd yn gwisgo’r mwgwd yn teimlo?

    Sut y gallech chi helpu myfyriwr sy’n teimlo ar goll yn yr ysgol? (Trwy sgwrsio ag ef neu hi, rhoi cyngor ar ba ffordd i fynd, unrhyw beth arall?)

    Pam y dylem ni helpu? (Am mai bod dynol arall fel ni yw’r myfyriwr, gyda’r un emosiynau â ni, ac mae yn yr un fath o sefyllfa â ni.)

Amser i feddwl

Fe fyddwn ni i gyd yn teimlo ar goll ambell waith. Cofiwch fod pobl yn yr un fath o sefyllfa bob amser, ac fe allwn ni helpu’r naill a’r llall trwy’r adegau hyn.

Gweddi
Adroddwch Weddi’r Arglwydd: Ein Tad ....

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch gân Michael Buble eto, a gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl am y geiriau yng nghyswllt yr hyn maen nhw wedi bod yn meddwl amdano, a’r hyn maen nhw wedi’i deimlo yn ystod y gwasanaeth

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon