Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Meddwl Am Newidiadau

Meddwl am y newidiadau sy’n digwydd i ni’n bersonol mewn blwyddyn.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Meddwl am y newidiadau sy’n digwydd i ni’n bersonol mewn blwyddyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenydd (gwelwch adran 2)

Gwasanaeth

  1. Bob blwyddyn mae tymhorau’n newid, ac mae’r byd yn newid gyda’r tymhorau. Fe fyddwn ni’n dechrau’r flwyddyn yn y gaeaf, ac mae’n dod i ben yn y gaeaf hefyd, gyda chyfnod byr (rhy fyr yn aml) o haf yn y canol. Mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben nawr wrth i ni ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Ac o bosib eich bod yn teimlo bod popeth yr un fath yn union ag yr oedd flwyddyn yn ôl. Yn union fel mae cylch y tymhorau’n ail ddechrau, fe allech chi deimlo bod blynyddoedd ysgol yn union fel cylch diddiwedd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gydag ychydig iawn o newid neu gynnydd.

  2. Darllenydd : ‘Dyna sut roeddwn i’n teimlo, a dim ond nawr, ar ôl i mi orffen yn yr ysgol, rydw i’n gweld pa mor anghywir yr oeddwn i. Mae pob blwyddyn yn dod â newidiadau mawr i’w canlyn. Ac mae’r newidiadau mwyaf yn digwydd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl hynny. Ar ddechrau’r tymor newydd hwn, ar ôl bod i ffwrdd am chwe wythnos, rydyn ni i gyd rywfaint yn wahanol i’r unigolion oedden ni pan wnaethom ni adael yr ysgol ar y diwrnod heulog (glawog) hwnnw ym mis Gorffennaf, yn barod am yr haf hir braf.’

  3. Yn ogystal â bod yn werthfawr er mwyn i ni allu gwneud yr hyn rydyn ni’n ei ddymuno, mae cael egwyl neu doriad hir yn werthfawr hefyd am ei fod yn gyfle i ni feddwl amdanom ni ein hunain ac ystyried pwy ydyn ni - beth rydyn ni’n ei feddwl, beth rydyn ni eisiau, a sut rydyn ni’n gweld ein hunain. Dyna pam y mae rhai ohonoch wedi gwneud newidiadau amlwg dros yr haf.

    Ond does dim rhaid i newidiadau fod yn agored iawn neu’n amlwg. Weithiau'r newidiadau y  byddwn ni’n eu gwneud o’r tu mewn i ni yw’r newidiadau mwyaf parhaol: newidiadau yn ein hagwedd ac yn ein gwerthoedd. A newidiadau fel penderfynu gweithio’n galetach yn yr ysgol, efallai, neu fod yn ffrind gwell. Neu, efallai mai newid ‘moesol’ llai amlwg fydd y newidiadau: fe allen ni benderfynu gweithio’n fwy ymroddedig ar un sgil neilltuol neu ddiddordeb arbennig.

  4. Mewn blynyddoedd i ddod, efallai y bydd rhai o’n newidiadau mwyaf amlwg yn destun rhywfaint o embaras! O bosib y bydd rhai ohonom a oedd yn byw yn yr 1970au neu’r 1980au yn chwerthin wrth gofio rhai dewisiadau wnaethon ni ym myd ffasiwn ac yn ein ffordd o fyw! Ond, wrth gwrs, dydi hynny ddim yn rheswm dros beidio â newid.

    Os ydych chi’n teimlo’n hyderus gyda’ch newidiadau, glynwch atyn nhw. Wedi’r cyfan, fydd hen newidiadau ddim yn cael eu hanghofio nes byddan nhw wedi cael eu disodli gan newidiadau newydd eraill. Dilyniant o newidiadau yw bywyd. Dydyn ni ddim yn ail-greu ein hunain; y cyfan wnawn ni yw newid rhannau bach o’r hyn rydyn ni ei ystyried ydyn ni ein hunain.

  5. Fe fydd pobl yn aml yn sôn yn ystrydebol am fod yn nhw’u hunain. ‘Byddwch yn chi eich hun,’ meddai rhai wrthych chi. Ond mae meddwl am newidiadau yn y ffordd yma’n dangos i ni fod yr hyn ydyn ni’n gyfan gwbl yn y pair. Ni ein hunain ydyn ni bob amser. Dim ond ein bod ni’n newid, weithiau’n gynnil, dro arall yn llai cynnil. 

    Mae ambell beth amdanom ein hunain yn bwysicach nag ambell beth arall. Ond ni ydyn ni bob amser, bob un ohonom, ond does dim un ohonom yn union yr un fath ag yr oedden ni flwyddyn yn ôl, ar fore braf (gwlyb/ oer) ddechrau’r hydref  diwethaf.

Amser i feddwl

Meddyliwch pa mor wahanol ydych chi heddiw o’i gymharu â’r adeg yma y llynedd. Os na allwch chi feddwl am enghraifft, efallai bod dillad newydd yn arwydd eich bod wedi tyfu rhywfaint.

Pa newidiadau rydych chi’n falch ohonyn nhw?

Pa newidiadau y byddech chi’n dymuno na fydden nhw wedi digwydd?

Ym mha ffordd yr hoffech chi newid yn ystod y flwyddyn sydd i ddod? A sut y gallech chi roi’r newidiadau rheini ar waith?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

 ‘For every season, turn turn turn’ gan y band Byrds ar gael i’w llwytho i lawr.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon