Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Doctor Greg

Herio’r myfyrwyr i ystyried sut y bydden nhw’n gallu effeithio newid yn y byd, ac edrych ar faint o newid gall un person ei wneud.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i ystyried sut y bydden nhw’n gallu effeithio newid yn y byd, ac edrych ar faint o newid gall un person ei wneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwaraewch gerddoriaeth o wlad Pakistan neu India wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth (mae cerddoriaeth o’r fath ar gael ar http://www.musicpakistan.net).

Gwasanaeth

  1. Saif pentref Korphe yn ardal fynyddig a diarffordd Baltistan, yn rhanbarthau gogleddol Pacistan. Yn y fan hon, mae rheolaeth y llywodraeth dros yr ardal yn gyfyngedig, a thlodi yn rhywbeth cyffredin iawn. Yn y flwyddyn 1993, crwydrodd dieithryn blêr, a oedd yn amlwg ar goll, i mewn i’r pentref mewn cyflwr truenus. Enw’r dyn hwn oedd Greg Mortenson, sydd bellach yn fwy adnabyddus yn y rhanbarth fel ‘Doctor Greg’, ac a ddisgrifir fel y creadur byw tebycaf i ‘Indiana Jones’. Fel cyn feddyg ym myddin UDA, a dringwr, cysegrodd ei fywyd ers diwedd y flwyddyn1993 i sefydlu ysgolion a chynorthwyo’r cymunedau diarffordd yn y rhanbarth hwn.

  2. Wedi cael y llysenw ‘Y Mynydd Ffyrnig’, mae gan K2 enw brawychus ymhlith dringwyr. Pan edrychwn ar ei arwynebau cras, fertigol, nid yw’n syndod ei fod yn cael ei alw wrth yr enw hwn. Er gwaethaf hyn, neu efallai oherwydd hyn, mae’n ffefryn ymysg dringwyr sy’n chwilio am antur.  Ym mis Medi 1993, ymunodd Mortenson ag alldaith i ddringo i ben K2. Fe aeth gyda’r criw fel meddyg, i anrhydeddu ei chwaer oedd wedi marw flwyddyn ynghynt.   

    Fe gyrhaeddodd dau o’r criw y copa, ond roedd un wedi  dechrau dioddef o salwch uchder a bu raid iddo aros lle roedd wedi cyrraedd.  Fel y meddyg ar y daith, arhosodd Mortenson gydag ef. Ond yn fuan fe ddechreuodd yntau ddioddef yr un fath, o ganlyniad i dreulio gormod o amser mewn lle uchel. Fe ddechreuodd golli cyswllt â'r amgylchedd synnwyr ac fe gollodd gysylltiad â’i dîm, a dyna sut y daeth ym mhen hir a hwyr i bentref Korphe.

    Cymerodd y pentrefwyr Mortenson i’w cartrefi a’i ymgeleddu. Wrth iddo wella ac adfer ei allu i gerdded, dechreuodd sylwi ar y plant amddifadiad oedd o’i gwmpas. Yr oedd wedi synnu wrth weld nad oedd gan yr 82 o blant a oedd yn byw yn y pentref adeilad addysgol.  Yn yr awyr agored yr oedden nhw’n cyfarfod i gael gwersi, a hynny hyd yn oed pan fyddai’r tywydd yn aruthrol o oer. 

    Roedd Mortenson yn awyddus i wneud rhywbeth i ad-dalu’r pentrefwyr am eu caredigrwydd a’u haelioni tuag ato.  Pan ddaeth yn amser iddo adael, fe addawodd y byddai’n dychwelyd i adeiladu ysgol ar gyfer y plant lleol.

  3. Wedi dychwelyd i’r UDA, fodd bynnag, fe sylweddolodd Mortenson nad oedd pobl â diddordeb yn ei genhadaeth.  Y cyfanswm o arian a enillodd wrth ysgrifennu at bwysigion oedd $100. Gyda’i ysbryd yn gwegian, ac yntau bron â rhoi’r ffidil yn y to, derbyniodd rodd annisgwyl o 62,345 o ddarnau arian un cent. Rhodd oedden nhw gan blant dosbarth gradd pedwar yn nhref Wisconsin. Roedd myfyriwr yno wedi clywed y gellid prynu pensel am un cent ar gyfer plentyn o Bacistan.   

    Ond daeth y cymorth mwyaf oddi wrth gyd-ddringwr iddo oedd hefyd yn wr busnes, Dr Jean Hoerni, a anfonodd siec ato am $12,000 gyda nodyn yn dweud, ‘Paid â rhoi'r gorau iddi.’ Gyda’i gilydd, yn 1996, fe wnaethon nhw sefydlu CAI (Central Asian Institute).

  4. Yn 2010 fe adroddodd y Sefydliad (CAI) ei fod wedi sefydlu, neu gefnogi’n sylweddol, 171 o ysgolion ledled Pacistan ac Afghanistan. Maen nhw’n canolbwyntio ar addysgu genethod ifanc. Mae’r syniad wedi ei sylfaenu ar ddihareb Affricanaidd sy’n dweud: ‘Os ydych yn addysgu bachgen, rydych yn addysgu unigolyn; ond os ydych yn addysgu geneth, rydych yn addysgu cymuned.’  

    Mae’r byd hefyd yn elwa yn ogystal â’r gymuned. Er enghraifft, nid yw’n gyfrinach bod llawer o’r Taliban yn hanu o ranbarthau mynyddig yng ngogledd orllewin Pacistan. Er mwyn ymgymryd â jihad - ‘ymdrechu yn ffordd Allah’, a gaiff weithiau ei ddehongli fel rhywbeth sy’n ymgorffori gweithrediadau o wrthsefyll treisiol - mae’n ofynnol cael caniatâd gan eich mam. Mae llawer o famau’r terfysgwyr yn anllythrennog.  Felly, yn ôl dadl Mortenson, bydd merch sydd wedi cael ei haddysgu i ddarllen, yn fwy tebygol o ddeall yr hyn y mae ei mab yn ceisio’i wneud ac felly’n fwy tebygol o wrthod rhoi ei chaniatâd iddo.

  5. Mae’r dyhead hwn am heddwch, fodd bynnag, wedi profi i fod ymhell o fod yn heddychol. Yn 1996 cafodd Mortenson ei gadw’n wystl am wyth diwrnod. Cafodd ei ddal mewn ymladdfa â gynau rhwng dau bennaeth gang gyffuriau cystadleuol. Derbyniodd ffatwa - y gosb eithaf answyddogol - oddi wrth rai mullahs (athrawon cyfraith Islamaidd) lleol. Mae hefyd yn derbyn llythyrau cas oddi wrth Americaniaid eraill oherwydd ei fod yn helpu gyda’r gwaith o addysgu plant Mwslimaidd. 

    Ond o du lleiafrif y daw’r gwrthwynebiad hwn.  Yn 2006, cyhoeddodd Mortenson ei hanes, mewn llyfr o’r enw ‘Three Cups of Tea’ (mae’r teitl yn cyfeirio at ddihareb Balti sy’n dweud bod yfed tair cwpanaid o de gyda theulu yn eich gwneud yn aelod o’r teulu hwnnw).  Mae’r neges heddychlon honno wedi bod o gymorth i godi’r llyfr i’r brig o ran gwerthiant. 

    Mae prosiect Mortenson yn y pen draw yn ffordd wahanol o ymladd y rhyfel ar derfysgaeth - gyda heddwch a llwyddiant yn hytrach na thrais a cham ddefnydd o hawliau dynol.  Mae’r niferoedd enfawr o farwolaethau yn Afghanistan ac Irac yn awgrymu y dylid edrych o’r newydd ar ailasesu’r strategaeth ddiwethaf.

Amser i feddwl

(Chwaraewch y gerddoriaeth ragarweiniol yn dawel wrth i chi ddarllen y myfyrdod.)

Meddyliwch yn ôl am y stori: dringwr yr ochr arall i’r byd a fu bron a marw, ond a gafodd ei achub gan bobl o’r pentref lleol, ac a gadwodd at ei air i ddod yn ôl a’u had-dalu am achub ei fywyd. Mae Greg wedi treulio’i fywyd, ers yr amser hwnnw, yn gwasanaethu’r bobl a’i helpodd. Ac o ganlyniad mae wedi newid llawer iawn o fywydau er gwell.

Beth fyddai’n bosib i mi ei wneud heddiw i wneud fy myd yn lle gwell?
Pwy fyddai’n bosib i mi ei helpu er mwyn gwneud eu diwrnod y well?
Sut y gallaf fi weithio i wneud fy myd yn lle gwell?
(Saib)
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon