Caru Collwr
Cyflwyno tri rheswm pam y dylem gofleidio ein methiannau
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Cyflwyno tri rheswm pam y dylem gofleidio ein methiannau
Paratoad a Deunyddiau
- Dau ddarllenydd (adran 1).
- Y gân, ‘Loser like me’ o’r gyfres deledu Glee, tymor 2, pennod 16 (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y we, neu ar YouTube), i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, ac wrth iddyn nhw ymadael.
Gwasanaeth
- Sgetsh yn cael ei pherfformio gan ddau ddarllenydd yn sefyll o flaen hysbysfwrdd
Darllenydd 1 Wyt ti’n meddwl gwneud cais am fynd i gael clyweliad ar gyfer y sioe?
Darllenydd 2 Pa sioe?
Darllenydd 1 Wel, yr un rwyt ti wedi bod yn syllu arni ar yr hysbysfwrdd yma am y pum munud diwethaf.
Darllenydd 2 O, hon. Na, dim o gwbl! Pam y byddwn i?
Darllenydd 1 Am dy fod ti’n dda am actio ac rwyt ti’n gallu canu’n dda hefyd.
Darllenydd 2 Wel OK, rhaid i mi gyfaddef, rydw i wedi bod yn meddwl am y peth. Ond beth pe byddwn i’n cael fy ngwrthod? Beth pe bydden nhw ddim o fy eisiau i? Pa fath o fethiant fyddwn i wedyn? Dydw i ddim yn ffansio ymuno â chi lawr yn Loserville, diolch yn fawr.
Darllenydd 1 Felly, fe fyddai’n well gen ti beidio â rhoi cynnig arni, a cholli cyfle gyda’r cynhyrchiad yma, na risgio methu?
Darllenydd 2 Wrth reswm. Mae pawb yn teimlo felly mewn gwirionedd. Does neb eisiau methu.
Darllenydd 1 Nag oes, wrth gwrs, ond rwy’n siwr bod pob un sy’n llwyddiannus ar hyn o bryd wedi methu ryw dro ar eu ffordd. Dyna sut mae bywyd.
Darllenydd 2 Wel, nid felly fy mywyd i. Dydw i ddim yn gollwr, a does arna i ddim eisiau bod yn gollwr ychwaith. (Mae’r ddau yn gadael y llwyfan) - Does neb yn hoffi methu. Fe fyddwn ni’n ei chael hi’n hawdd cofleidio llwyddiannau. Ond cofleidio ein methiannau? Mae hynny’n swnio’n hollol afresymol. Ond, dyma dri rheswm da dros gofleidio methiannau.
Cymrwch Jenny, er enghraifft. Roedd ei thad wedi sefydlu ei fusnes ei hun, ac roedd hi’n falch iawn ohono. Roedd ei hanes yn y papurau newydd lleol yn aml, ac roedd ei fusnes yn mynd o nerth i nerth. Ond fe darodd dirwasgiad ar y wlad, ac roedd arian yn brin a’r busnes mewn trafferthion. Yn fuan roedd popeth wedi mynd i’r gwellt. Aeth y busnes yn fethiant. Collodd pawb eu swyddi. Roedd tad Jenny wedi methu. Doedd hi ddim yn teimlo mor falch o’i thad wedyn. Doedd hi ddim yn gwybod beth i’w ddweud.
Ond chwe mis yn ddiweddarach, mae tad Jenny’n ceisio sefydlu busnes arall. Mae’n gweld bod cyfalafwyr mentro yn fodlon ei gefnogi a rhoi arian yn y busnes newydd. Mae bod ag un busnes wedi methu yn ei brofiad yn ymddangos yn rhywbeth cadarnhaol. Mae wedi dysgu o’i gamgymeriadau. Fe fydd yn defnyddio ei brofiad wrth greu busnes arall er mwyn creu busnes gwell.
Felly, Rheswm Rhif Un yw: Mae methiant yn ein helpu i ddysgu oddi wrth brofiad. - Ac yna, dyna i chi Emmanuel. Mae Emmanuel yn dda am wneud pob peth. Byddai pobl yn dweud, pan oedd Duw’n rhannu bendithion, fe roddodd bentwr mawr i Emmanuel. Byddai bob amser yn cael graddau da ym mhob prawf ac arholiad. Mae’n edrych yn wych bob amser ac yn cael ei amgylchynu â chariadon. Mae’n gapten tîm pêl-droed yr ysgol ac mae’n chwarae offerynnau cerdd ac yn canu mewn band.
Ond, un diwrnod mae’n clywed ei fod yn cael ei ryddhau o’r academi pêl-droed y mae’n perthyn iddi. Nid yw’n chwarae’n ddigon da, a does ar yr academi ddim o’i eisiau mwyach.
Oherwydd hyn mae’n teimlo bod ei fywyd cyfan yn chwalu. Mae’n teimlo ei fod wedi siomi ei rieni, ac mae’n siomedig iawn ynddo’i hun. Mae arno ormod o gywilydd i ddweud wrth ei ffrindiau. Wnaeth Emmanuel erioed fethu mewn dim byd o’r blaen ac nid yw’n gwybod sut i ddelio a’r sefyllfa. Mae ei hunan-barch yn ddim.
Ond, ymhen ychydig fisoedd fe fydd Emmanuel yn gallu edrych yn ôl a sylweddoli’r hyn y mae wedi’i ddysgu trwy ei brofiad. Fe fydd yn gryfach o’r herwydd. Fydd arno ddim cymaint o ofn methiant wedyn.
Felly, Rheswm Rhif Dau yw: Mae methiant yn ein helpu i ddysgu mwy amdanom ein hunain. - Ac, yn olaf, gadewch i ni ystyried y cymeriadau o Glee.
Yn McKinley High, rydych chi’n cael eich parchu a’ch edmygu os ydych chi’n cheerleader neu’n chwaraewr pêl-droed. Ond os ydych chi’n perthyn i’r glee club, yna collwr ydych chi, ac fe allwch chi ddisgwyl cael eich trin fel collwr bob munud o’r dydd. Felly, mae’n gam mawr i’r cheerleadersQuinn, Santana a Brittany ymuno â’r glee club. Mae’r pêl-droedwyr Finn, Puck a Sam yn cymryd risg enfawr wrth ymuno â’r glee club. Mae pob un ohonyn nhw’n peryglu eu siawns o golli eu hygrededd. Efallai y byddai pob un ohonyn nhw wedyn yn cael eu hystyried yn fethiannau am weddill eu bywydau.
Ond yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw mewn gwirionedd yw eu bod yn darganfod gwir gyfeillgarwch. Nid ffrindiau y mae eu cyfeillgarwch yn ddibynnol ar eu bod yn ennill y twrnamaint pêl-droed nesaf neu’n codi’r gwpan am ennill fel cheerleaders, ond ffrindiau sy’n eu derbyn am yr hyn ydyn nhw sydd yma. Ffrindiau a fydd yn gadael iddyn nhw fentro, ac yn sefyll gyda nhw mewn achosion o fethiannau yn ogystal â’u llwyddiannau.
Felly, Rheswm Rhif Tri yw: Mae methiant yn ein helpu i ddysgu mewn gwirionedd pwy yw ein gwir ffrindiau.
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl am foment am y pethau rydyn ni wedi bod yn sôn amdanyn nhw heddiw.
Mae methiant yn beth anodd dygymod ag ef.
Mae’n beth sy’n brifo.
Ac mae’n gwneud i ni deimlo cywilydd.
Mae ofni methiant yn ein dal ni’n ôl.
Rydyn ni’n ofni ceisio gwneud pethau newydd.
Rydyn ni’n ofni mentro.
Ond, mae methiant yn ein helpu i ddysgu oddi wrth brofiad.
Fyddwn ni ddim yn debygol o wneud yr un camgymeriadau ddwy waith.
Fe fyddwn ni’n tyfu mewn doethineb ac aeddfedrwydd.
Ac mae methiant yn ein helpu i ddysgu mwy amdanom ein hunain.
Fyddwn ni ddim yn debygol ofni methiant gymaint y tro nesaf.
Fe fyddwn ni’n tyfu mewn cryfder a hunan-gymhwysiad.
Mae methiant yn ein helpu i ddysgu mewn gwirionedd pwy yw ein gwir ffrindiau.
Fe fyddwn ni’n gwybod at bwy i droi pan fyddwn ni’n methu.
Fe fyddwn ni’n tyfu mewn cyfeillgarwch a theimlad o berthyn.
Mae’n amser mentro.
Mae’n amser ymaelodi.
Mae’n amser cofleidio methiant.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
Wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth, chwaraewch y gerddoriaeth, ‘Loser like me’ gan gast y gyfres deledu Glee