Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Disgiau'r Ynys Bellennig

Archwilio’r syniadau sydd y tu ôl i’r rhaglen radio Desert Islands Discs, (BBC Radio 4), ac ystyried efallai y byddai’r Beibl yn llyfr addas pe byddech mewn sefyllfa o’r fath.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniadau sydd y tu ôl i’r rhaglen radio Desert Islands Discs, (BBC Radio 4), ac ystyried efallai y byddai’r Beibl yn llyfr addas pe byddech mewn sefyllfa o’r fath.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Darlledwyd Desert Islands Discs am y tro cyntaf yn 1942, ac mae’n un o’r rhaglenni sydd wedi cael ei darlledu am y cyfnod hiraf yn hanes y BBC. Bydd Kirsty Young yn gwahodd gwesteion i ddychmygu eu hunain wedi cael eu dal ar ynys bellennig, ac yn gofyn iddyn nhw ddewis wyth darn o gerddoriaeth y bydden nhw’n dymuno eu cael gyda nhw. Yn nyddiau cynnar y rhaglen roedd pobl yn tybio y byddai gramoffon gan yr un a oedd wedi cael ei ddal ar yr ynys, a chyflenwad dihysbydd o nodwyddau ar gyfer chwarae’r disgiau! 

    Caiff darnau o ddewis y gwesteion eu chwarae ar y rhaglen, ac ar ddiwedd y darllediad rhaid i’r gwestai ddewis, o’r holl ddarnau cerddoriaeth, yr un hanfodol i fynd gyda nhw.

    Ar ddydd Sul y bydd y rhaglen yn cael ei darlledu, ar Radio 4, a bydd yn cael ei hail ddarlledu ar ddydd Gwener. Oes rhywun wedi gwrando ar y rhaglen?

    Gofynnwch i’r myfyrwyr awgrymu pa gerddoriaeth fyddai eu dewis nhw.

  2. Ers 1951, mae pob gwestai wedi bod yn cael dewis un eitem o nwyddau moeth i fynd gyda nhw i’r ynys. Yr eitem ‘foethus’ gyntaf i’w dewis oedd garlleg. (Wel, mae’n debyg nad oes raid i rywun sy’n unig ar ynys bellennig bryderu a oes arogl cryf ar ei anadl!) 

    Yn 1951 hefyd, penderfynwyd gofyn i’r gwesteion pa lyfr yr hoffen nhw ei gael gyda nhw. Gofynnwyd i rai llenorion adnabyddus ddewis pa lyfr yr hoffen nhw ei gael gyda nhw pe bydden nhw’n gaeth ar ynys bellennig. 

    ‘Holl weithiau Shakespeare,’ meddai un, heb betruso.

    ‘Y Beibl,’ meddai un arall.

    Dywedodd G. K. Chesterton, awdur cyfarwydd o Loegr ar y pryd, ‘Fe fyddwn i’n dewis Thomas’ Guide to Practical Shipbuilding’! 

    Felly, ers 1951 mae gweithiau Shakespeare a’r Beibl wedi mynd gyda’r unigolion ‘llong ddrylliedig’, ynghyd â’r llyfr o’u dewis.

  3. Gadewch i ni ystyried am foment pa un o’r tri llyfr yma fyddai’r dewis gorau.

    Mae’n amlwg bod ateb G. K. Chesterton wedi bod yn un doeth yn ogystal ag ysmala. Er na fyddai gan yr un fyddai wedi cael ei daflu ar yr ynys unrhyw offer adeiladu, efallai y byddai ambell syniad yn y llyfr y byddai’n werth meddwl amdano.

    Pe byddech chi’n astudio ar gyfer arholiadau, fe fyddai gweithiau Shakespeare yn ddewis da, efallai. Fe fyddai gennych chi ddigon o amser i astudio’r cymeriadau, a gwneud ychydig o actio eich hunan o bosib. Ond, fyddai Romeo ddim yn debygol o allu’ch clywed chi, hyd yn oed o gopa uchaf yr ynys! Mae llawer o bobl yn ystyried dramâu Shakespeare fel y pethau mwyaf gwych yn yr iaith Saesneg - ac fe fyddai’n cymryd amser maith i ddarllen y cyfan o’i waith.

    Yn sicr, mae digonedd o dudalennau i’w darllen yn y Beibl, a nifer fawr o storïau da i’w mwynhau, ac mae’n llyfr sydd wedi gwerthu llawer iawn o gopïau (bestseller). Mae’n cael ei gydnabod fel bod yn air byw, yn llyfr sy’n rhoi pobl mewn cysylltiad â Duw. Mae’n hawlio cynnwys gwirionedd, doethineb ac arweiniad ar gyfer ein bywydau. Dywedodd Iesu, ‘Cewch wybod y gwirionedd a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.’ (Ioan 8.32)

    Dyna’r rheswm pam y bydd y Gideoniaid yn rhoi copi o’r Beibl yn rhodd i bob myfyriwr ysgol uwchradd yn y wlad. Mae’n siwr o fod yn werth edrych arno!

Amser i feddwl

Pa gân neu ddarn o gerddoriaeth y byddech chi’n hoffi ei gael gyda chi?
Pa dri llyfr y byddech chi’n eu dewis?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Yn ôl y Beibl, dy air di i ni heddiw ydyw.
Mae’n dweud ynddo ei fod yn air byw,
ac y byddwn ni’n gallu cael profiad ohonot ti a dod i dy adnabod
wrth i ni ddarllen trwy dudalennau’r Beibl.
Rho i ni’r awydd i ddarllen y llyfr hwn
ac i ddod o hyd i wirionedd ar gyfer ein bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon