Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Id Al-Adha

Ystyried pwysigrwydd yr wyl Fwslimaidd, Id al-Adha, ac edrych ar y ffordd y mae’n cael ei dathlu.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd yr wyl Fwslimaidd, Id al-Adha, ac edrych ar y ffordd y mae’n cael ei dathlu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae cân am wyl Id, ‘Let us rejoice indeed’, i’w chael ar y wefan http://www.islamiclyrics.net/sami-yusuf/eid-song/ (gwelwch yr ‘Amser i feddwl’). Fe allech chi daflunio’r geiriau os hoffech chi, i’r myfyrwyr eu dilyn wrth i chi wrando arni.

  • Siart troi (gwelwch adran 1).

  • I gael stori Ibrahim ac Isma’il fel y mae yn y Qur’an, gwelwch www.mythicmaps.net/Festival_calendar/January/Eid-ul-adha.htm
    (Nodwch: Fe fydd y cymeriad y mae pobl sy’n dilyn ffydd Islam yn ei alw’n Ibrahim yn cael ei adnabod fel Abraham yn y traddodiadau Iddewig/ Cristnogol. Ac fe fydd Isma’il yn cael ei adnabod fel Ishmael yn y traddodiadau Iddewig/ Cristnogol. Roedd pobl yn credu bod breuddwydion, ambell dro, yn negeseuon gan Dduw.)

  • Paratowch gyflwyniad byr, neu trefnwch i chwarae rôl (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. Holwch y myfyrwyr pa wyliau crefyddol y maen nhw’n gyfarwydd â nhw, a lluniwch restr ar siart troi.

    Holwch a oes rhywun yn gwybod pa rai o’r rhain sy’n wyliau Mwslimaidd? Dywedwch eich bod yn mynd i sôn heddiw am yr wyl Id al-Adha (hefyd yn cael ei galw’n Eid al-Adha), sy’n wyl Fwslimaidd bwysig (efallai y bydd yn rhaid i chi ychwanegu enw’r wyl hon at eich rhestr o wyliau). 

    Mae dyddiad Id al-Adha yn newid bob blwyddyn oherwydd bod y dyddiad yn  dibynnu ar safle’r lleuad. Eleni, mae’r wyl ar 6 Tachwedd.

  2. Holwch: Ydych chi’n gwybod beth mae’r wyl yn ei ddathlu? Eglurwch mai ystyr yr enw Id al-Adha yw ‘Gwyl Aberth’. (Weithiau, mae’r wyl yn cael ei galw’r Wyl Fwyaf, neu’r Id Fwyaf, i’w gwahaniaethu oddi wrth wyl lai pwysig o’r enw Id ul-Fitre, sy’n dathlu diwedd Ramadan.) 

    Mae’r Id al-Adha yn cofio am ufudd-dod y proffwyd Ibrahim, a’i barodrwydd i ladd ei annwyl fab, Isma’il, fel aberth pan orchmynnodd Allah (Duw) iddo wneud hynny. Ar y funud olaf, fe glywodd Ibrahim lais Allah yn dweud wrtho am beidio â lladd ei fab, ond lladd hwrdd yn lle hynny.

    Efallai y byddai’n well archwilio’r stori trwy chwarae rôl.

  3. Mae Id al-Adha yn adeg o lawenhau i Fwslimiaid ledled y byd. Holwch a oes rhai o’r myfyrwyr yn gwybod sut mae Mwslimiaid ledled y byd yn dathlu Id?   
    Holwch a oes ganddyn nhw unrhyw brofiad personol o’r wyl yr hoffen nhw sôn amdano?

  4. Mae’r Id yn dechrau gyda’r Mwslimiaid yn gwisgo’u dillad gorau ac yn mynd i’r mosg i weddïo ac i wrando ar anerchiad. Yn eu gweddïau, maen nhw’n diolch i Allah am yr holl fendithion y maen nhw wedi eu derbyn. 

    Er mwyn atgoffa’r bobl o aberth Ibrahim, fe fydd Mwslimiaid cyfoethog mewn rhai gwledydd yn aberthu buwch, dafad, gafr, neu gamel, ac yn rhannu’r cig gydag aelodau eu teulu a’u ffrindiau.

    Oes rhywun yn gwybod pam nad yw’r arferiad hwnnw’n gyffredin ym Mhrydain? (Mae deddfau llym yn rheoli lladd anifeiliaid, er enghraifft, dim ond mewn lladd-dy swyddogol y mae’n bosib lladd anifeiliaid yn y wlad hon.)

    Mae Id yn adeg, hefyd, pan fydd Mwslimiaid yn ymweld â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn anfon cardiau Id, yn rhoi melysion i’w plant, ac yn cyfnewid anrhegion.

  5. Ar wyl Id, mae’n orfodol rhoi swm penodol o arian i elusen, i’w ddefnyddio i helpu pobl dlawd brynu dillad newydd a bwyd fel y gallan nhw hefyd ddathlu’r wyl.

    Oes raid i ni fod yn grefyddol i roi arian i elusen? Holwch y myfyrwyr ydyn nhw wedi rhoi arian at elusen neu i bobl mewn angen ryw dro?

Amser i feddwl

Gwrandewch ar y gân am wyl Id, ‘Let us rejoice indeed’ (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

Gweddi
Arglwydd Dduw, rydyn ni’n
rhanedig
yn anghariadus
yn rhagfarnllyd ar adegau
yn tueddu i gamddeall
ac yn anoddefgar.

Gwna hi, yn lle hynny, i fod
yn unedig
yn gariadus
yn barod i ddysgu
i fod yn barod i ddeall a bod yn faddeugar
ac yn oddefgar.

Bydded i dy Ysbryd di fod yn bresennol o’n mewn, fel yr wyt ti ym mhawb.

Cerddoriaeth

Gwrandewch ar y gân am wyl Id eto.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon