Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Aros

Galluogi myfyrwyr i ddeall - yng nghyd-destun cymdeithas ddiamynedd - bod aros yn rhan bwysig o ffydd a bywyd.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Galluogi myfyrwyr i ddeall - yng nghyd-destun cymdeithas ddiamynedd - bod aros yn rhan bwysig o ffydd a bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen copi, ar gyfer ei chwarae, o’r hysbyseb gan Samsung, sy’n nodi fel ergyd y neges, ‘mae bod yn ddiamynedd yn rhinwedd (Impatience is a virtue)’. Gellir llwytho’r hysbyseb i lawr o YouTube ar https://www.youtube.com/watch?v=s8tWLEsLpxs

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol cael copi o’r gân ‘I Want It All’ gan Queen.

  • Y darlleniad o’r Beibl yw Luc 2.25–32.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch tua munud o’r gân ‘I Want It All’ gan Queen, ac yna dangoswch hysbyseb Samsung.

    ‘I want it all – and I want it now’. ‘Impatience is a virtue’. Dyma ddau ymadrodd sydd fel petaen nhw’n adlewyrchu rhywbeth sy’n ddwfn yng nghalon ein cymdeithas: boddhad ar unwaith. Yn y byd gorllewinol, yn yr unfed ganrif ar hugain, rydyn ni eisiau pethau ar unwaith – dydyn ni ddim yn barod i ddisgwyl amdanyn nhw. O adloniant i wasanaethau cwsmeriaid, o wybodaeth i gariad – rydyn ni’n credu mai ein hawl ni yw cael y pethau hyn ar unwaith.

    Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae’r newyddion yn cael ei drosglwyddo yn y cyfryngau. Mae newyddion y dyddiau hyn yn ymwneud llai â dadansoddi, ac yn ymwneud mwy â rhoi gwybod am y newyddion ar unwaith, fel mae’n digwydd. Ychydig iawn o amser ac amynedd sydd gennym ar gyfer dadleuon cymhleth pobl hirwyntog. Rydyn ni eisiau’r sylw bachog, mewn brawddeg slic. Rydyn ni eisiau cyrraedd y diwedd cyn cychwyn, bron. Ychydig iawn o amser sydd gennym i fyfyrio ac ystyried – rydyn ni bob amser ar frys.

  2. Mae pobl ifanc fel petaen nhw’n naturiol wrth eu bodd yng nghanol cyffro gweithgarwch a symudiad. Yn gwbl briodol, mae gennych chi ddyheadau ac amcanion. Rydych chi’n awyddus i symud ymlaen – symud ymlaen i’r canfyddiad o freintiau a’r statws o fod yn eich arddegau, neu ddod yn oedolyn, neu adael yr ysgol. Mae cymaint o’r hyn sy’n perthyn i fyd ieuenctid fel petai’n ymwneud â brys mawr.

    Does dim ond angen i chi wylio pobl mewn ceir ar y ffordd, neu ar strydoedd ein dinasoedd, i gael synnwyr gwirioneddol o’r ffaith ein bod ni’n gymdeithas sydd ar frys (er, wrth gwrs, rhywbeth rhyfeddol o gyferbyniol yw gwylio myfyrwyr yn symud rhwng gwersi – yn sicr nid oes llawer o synnwyr o frys bryd hynny!).

  3. Ac yn wir, fe allai rhywun ofyn, ‘Beth sydd o’i le mewn bod ar frys?’  Does bosib bod Samsung yn iawn drwy ddweud bod nifer o ddyfeisiadau’r oes fodern wedi cael eu gyrru gan ein hawydd i gael pethau’n sydyn: ateb i’r awydd am gyfathrebu’n gynt yw’r ffôn a’r cyfrifiadur, yr ateb i’r awydd am drafnidiaeth gynt yw’r awyren, ac ati.

  4. Ac eto, os mai’r hyn sy’n gyrru ein cymdeithas yw ein hangen i fodloni ein dymuniadau ar unwaith, onid ydyn ni’n dod yn gaeth i’r dymuniadau hynny?

    Os yw ein hathroniaeth yn adleisio Queen, ‘I want it all, and I want it now’, onid ydyn ni’n caniatáu i drachwant fod yn rym pwysicaf ein bywydau?  

    Ac os ydyn ni bob amser yn mynd ar ôl y peth materol nesaf – y ddyfais neu’r ategolyn ffasiwn diweddaraf – ymhle y bydd hynny’n stopio?  Oni fyddwn ni’n cael ein condemnio i fod ag awydd cyson am rywbeth, ond heb gael ein bodloni?

    Ac yn fwy na hyn, mae dweud bod ‘diffyg amynedd yn rhinwedd’ yn anwybyddu’r ffaith nad yw’r pethau rydym eu hangen o ddifrif – o’u cymharu â’r pethau rydym eu hawydd yn unig – ar gael ar unwaith bob amser. Cariad, cyflawniad, diben, doethineb, dealltwriaeth, llwyddiant mawr – nid cynnyrch clicio eich bysedd, llithro cerdyn credyd wrth y til, na throi peiriant ymlaen, yw’r pethau hynny. Dim ond trwy ddewrder, dyfalbarhad – ac amynedd – y mae’n bosib cyflawni’r pethau hyn.

  5. Rhan ganolog o’r stori Feiblaidd yw’r syniad o aros. Yn yr Aifft ac yn ddiweddarach ym Mabilon, fe arhosodd pobl Israel am ganrifoedd i gael eu rhyddid. 

    Pan gafodd Iesu ei eni, roedd yr Iddewon yn aros am y Meseia. Yn wir, mae Efengyl Luc yn dweud wrthym fod dyn o’r enw Simeon wedi treulio ei holl fywyd yn gwneud hynny - aros. Roedd Simeon yn aros am achubiaeth Israel. 

    Yn y darlleniad y byddwn yn ei glywed mewn ychydig funudau, rydym yn clywed am lawenydd Simeon pan welodd y baban Iesu yn y deml - mae’n gwybod wedyn bod y Gwaredwr y bu’n aros amdano gyhyd wedi cyrraedd o’r diwedd.

  6. Fe ddylen ni gofio nad yw aros, o angenrheidrwydd, yn rhywbeth goddefol. Fe arhosodd yr Israeliaid – ond fe weithredodd Moses. Fe ddylai ‘aros’ fod yn rhywbeth gweithredol. Wrth gwrs, fe ddylen ni weithio tuag at ein hamcanion yn hytrach na dim ond aros yn oddefol i bethau ddigwydd. 

    Er hynny, mae golwg aeddfed ar fywyd, ac yn wir safbwynt ffydd, yn ein helpu ni i sylweddoli waeth pa mor galed rydyn ni’n gweithio, waeth faint rydyn ni’n dymuno cael rhywbeth, dim ond drwy aros y daw rhai pethau.

  7. Yn y flwyddyn Gristnogol, mae pedair wythnos cyn Dydd Nadolig yn cael eu galw ‘yr Adfent’, ac ystyr y gair yw ‘dyfodiad’ neu ‘cyrraedd’. Yn achos Gristnogion, mae’r Adfent yn gyfnod o aros. 

    Yn siopau Tesco, aeth y nwyddau Nadolig ar werth ym mis Hydref – symbol pellach o’n cymdeithas ddiamynedd, fasnachol. Ond, yn hytrach nag achub y blaen ar y Nadolig cyn iddo gyrraedd mewn gwirionedd, fe ddylen ni geisio defnyddio’r Adfent i aros yn ddisgwylgar a pharatoi ein hunain am ddyfodiad Crist. Mae’n rhaid i ni ddysgu aros.

Amser i feddwl

Darllenwch: Luc 2.25–32 (Cân Simeon).

Gweddi
Arglwydd,
mewn byd sydd mor aml yn dangos trachwant a diffyg amynedd,
rho i ni ras i allu bod yn amyneddgar a gostyngedig,
i aros i’th ewyllys di ddatblygu.
Rho i ni’r doethineb i wybod pryd i weithredu
a pha bryd i aros.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

I want it all’ gan Queen

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon