Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffasiwn Gynaliadwy?

Archwilio’r cysyniad o ffasiwn gynaliadwy.

gan Claire Rose

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o ffasiwn gynaliadwy.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Ar Oxford Street yn Llundain, fis Gorffennaf diwethaf, agorwyd siop ddillad a ddenodd sylw’r wasg a’r cyhoedd (a chiwiau o tua 500 o bobl). Yn rhifyn 29 Hydref 2010 o Retail Week, nododd y cwmni siopau cadwyn Americanaidd eu bod yn bwriadu agor 100 o siopau ym Mhrydain ‘yn y dyfodol agos’. Nawr mae’r siop hon eto, ymysg brandiau cyfarwydd eraill, yn cyflenwi dilladau ac eitemau ffasiwn rhad a rhwydd, yn ogystal â rhai archfarchnadoedd. Mae’n ymddangos nad yw dilladau ffasiynol rhad erioed wedi bod mor ffasiynol. 

    A pham lai? Mae ffasiwn yn gwneud i ni deimlo’n dda. Mae’n ein helpu i fynegi ein hunain, ac fe all fod yn ffordd greadigol o archwilio ac arddangos pwy ydyn ni a mynegi sut rydyn ni’n teimlo. Mae’n fodd i ni ddangos i ba ‘lwyth’ rydyn ni’n perthyn neu’n ein galluogi ni i sefyll ar wahân. Yn symlach, fe allai crys T llachar fywiogi ein diwrnod llwydaidd, neu fe allai sgarff lliwgar wneud i wyntoedd oer y gaeaf fod yn haws eu dioddef..

  2. Gymaint yw ein cariad at ffasiwn rad a rhwydd, rydyn ni nawr yn prynu hyd at 40 y cant o’n holl ddilladau mewn siopau manwerthu sy’n gwerthu dilladau rhad. Dyma ffaith fasnachol y mae’r siopau cadwyn newydd wedi manteisio arni. Ac o ganlyniad, maen nhw’n ehangu ar raddfa anhygoel (TNS Worldpanel (2006) Fashion Focus rhifyn 29, o Ethical Fashion Forum). Mae’r siopau hyn yn cynhyrchu steiliau newydd a chasgliadau newydd o fewn wythnosau - dyddiau hyd yn oed.

  3. Ond beth yw effaith ein hawydd am ddilladau sy’n fwyfwy rhad a rhwydd? 

    -  Yn ôl adroddiad gan Oxfam, a gyhoeddwyd yn 2004, nodwyd y ffaith drist mai’r gweithwyr tecstiliau sy’n dioddef fwyaf wrth i berchnogion ffatrïoedd sydd dan bwysau mawr i gynhyrchu’n gyflym, fynnu bod y gweithwyr yn gwneud mwy a mwy o waith i gwrdd â gofynion amser y manwerthwyr. 

    Dro yn ôl, pan gafodd perchennog ffatri o Sri Lanka ei gyfweld gan aelod o Oxfam, fe eglurodd: ‘Llynedd, roedd dyddiad cwblhau’r archeb ymhen  tua 90 diwrnod . . . Erbyn hyn mae’r terfyn amser i drosglwyddo’r nwyddau wedi lleihau i tua 60 diwrnod. Ambell waith does gennym ond 45 diwrnod i wneud yr holl waith. . . Mae’r amser sydd gennym i’w gwneud wedi mynd yn llai a llai (gwelwch Just Style (2006), ‘Purchasing trends in the fashion industry’, o Ethical Fashion Forumwww.just-style.com <http://www.just-style.com/>/).

    Y gweithwyr yn y gwledydd sy’n datblygu  - o Sri Lanka i Tsieina, neu hyd yn oed yn nes gartref, yn Nwyrain Ewrop - sy’n talu’n ddrud am ein hawydd mawr i fynnu steiliau newydd yn gyflym a rhad.

    -  Ac nid yw effaith y ffasiwn gyflym yn gorffen yn y man hwn ychwaith. Mae’r amgylchedd yn dioddef hefyd: mae siopau cadwyn eang, gyda’r dilladau’n cael eu cario iddyn nhw o bob cwr o’r byd i’n siopau lleol ar y Stryd Fawr, yn trethu’r amgylchedd. Mae’r llygredd sy’n cael ei gynhyrchu yn yr awyr yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. 

    -  Ac wedi i ni gael digon ar ddillad y tymor (neu wedi iddyn nhw ddisgyn yn ddarnau), beth nesaf? Yn aml, fe fyddwn ni’n tueddu i’w taflu i’r bin, ac fe fyddan nhw wedyn yn cael eu cludo i’r domen sbwriel ar safle tirlenwi - tra byddwn ninnau’n mynd eto i chwilio am rywbeth newydd i’w wisgo.

  4. Felly, os ydyn ni wrth ein bodd gyda ‘ffasiwn’, ond ddim eisiau niweidio’r blaned na’i phobl, beth allwn ni ei wneud? Y newydd da yw bod llawer o gwmnïau ffasiwn moesegol erbyn hyn yn sefydlu siopau i ni gael ein bodloni heb i hynny gostio’r ddaear. Mae cwmnïau fel People Tree yn darparu ffasiwn masnach deg o ansawdd da, gydag addewid bod y gweithwyr sydd wedi cynhyrchu’r eitemau wedi cael eu trin yn deg. 

    Ac fe allwch chi wneud gwahaniaeth gyda’r dilladau sydd eisoes yn eiddo i chi: y tro nesaf y byddwch chi’n meddwl taflu dilledyn am ei fod wedi rhwygo - neu dim ond am ei fod yn hen - arhoswch i feddwl sut y gallech chi ailddefnyddio’r dilledyn er mwyn gwneud rhywbeth newydd, diddorol. Fyddai’n bosibl troi’r hen jîns hwnnw’n siorts neu’n sgert? Fyddai hi’n bosibl defnyddio defnydd y ffrog honno i wneud sgarff? 

    Mae term newydd wedi’i fathu, sef uwch-gylchu (upcycling), sy’n golygu troi’r hen ddilladau’n eitemau newydd, gwell. Mae llawer o wybodaeth am hyn ar-lein, ac mae hyd yn oed grwpiau lleol ar gael sy’n gallu eich helpu i ddysgu sut i wnïo ac ailddefnyddio. Mae gwefan ffasiwn Oxfam yn lle da i ddechrau.

    Yr hyn sy’n dda yw y bydd rhywbeth rydych chi wedi ei wneud eich hun yn golygu llawer mwy i chi. Does dim amheuaeth nad yw dillad a ffasiwn yn bwysig i ni. Felly, pam y dylem ni brynu dilladau rhad, y byddwn ni’n eu taflu wedi i ni gael digon arnyn nhw, pryd y gallwn ni wneud ychydig o ymdrech a gwneud rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw, ac sydd yn wir yn mynegi pwy ydyn ni?

  5. Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n ystyried prynu eitem ffasiwn rhad a rhwydd, meddyliwch am y rheswm pam y mae’r dilledyn mor rhad. Efallai nad yw’n costio llawer i chi ar y pryd - ond mae’n costio’n ddrud i rywun yn rhywle.

    Yn fyr

    ‘Ble cefaist ti’r sgert yma?!’

    -  ‘Yn y siop honno sydd newydd agor ar y Stryd Fawr - a wyddost ti faint oedd hi? Dim ond £7! Grêt yndê?’

    -  ‘O weithdy cyflog isel ym Manila - ac roedd hi mor rhad oherwydd mai dim ond 11 ceiniog yr awr yr oedd y ferch a wnaeth y sgert yn ei gael am weithio. Does gan y ffatri lle mae hi’n gweithio ddim llawer o reoliadau diogelwch, ac mae’r defnydd o ansawdd gwael (wedi ei wneud yn rhad mewn gweithdy cyflog isel arall yn un o’r gwledydd sy’n datblygu, mae’n debyg, sydd â’r un math o amodau gwaith). Ac oherwydd ei bod mor rhad, fe alla i fforddio i daflu’r sgert i’r bin pan fydda i wedi ei gwisgo am ychydig fisoedd (neu efallai y bydd wedi dod oddi wrth ei gilydd  beth bynnag erbyn hynny) ac fe fydd yn diweddu ei hoes ar y domen sbwriel.’

Amser i feddwl

‘Llynedd, roedd dyddiad cwblhau’r archeb ymhen  tua 90 diwrnod . . . Erbyn hyn mae’r terfyn amser i drosglwyddo’r nwyddau wedi lleihau i tua 60 diwrnod. Ambell waith does gennym ond 45 diwrnod i wneud yr holl waith. . . Mae’r amser sydd gennym i’w gwneud wedi mynd yn llai a llai.’

Gadewch i ni feddwl am yr effaith y mae ein hawydd i gael dillad newydd, rhad, yn ei gael ar y bobl sy’n gorfod eu cynhyrchu.

A meddwl am yr effaith y mae cario’r dilladau o’r naill le i’r llall yn ei gael ar ein planed.

Ac, yn y pen draw, yr anhawster o gael gwared â’r holl ddefnydd rhad wedyn . . .

A yw fy nillad newydd yn werth y gwir gost?

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon