Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nadolig: Peth o Hanes Y Traddodiadau

Archwilio tarddiad llawer o’n harferion traddodiadol ar adeg y Nadolig.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio tarddiad llawer o’n harferion traddodiadol ar adeg y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys llawer o wybodaeth: efallai yr hoffech chi ddewis rhannau i’w defnyddio fel mae’n addas i’ch ysgol chi.

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o luniau gwahanol fwydydd ac addurniadau Nadolig.

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol taflunio map o’r byd fel ei bod hi’n bosib i chi nodi’r gwareiddiadau rydych chi’n cyfeirio atyn nhw (gwelwch https://www.mapsofworld.com/world-political-map.htm).

Gwasanaeth

  1. Ychydig iawn o bobl yn y byd heddiw sydd heb fod yn gwybod rhywbeth am yr hyn y mae Gwyl y Nadolig yn ei olygu. Gofynnwch i’r plant pam rydym ni’n dathlu’r Nadolig.

    Achlysur dathliad yw’r Nadolig, dathlu bod Iesu Grist wedi cael ei eni dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Talfyriad yw’r gair Saesneg ‘Christmas’ o’r geiriau ‘Christ’s Mass’ (‘Offeren Crist neu’r Cymun Bendigaid i gofio am Grist’). 

    Fodd bynnag, ni ddechreuodd yr arfer o gynnal gwyl ganol gaeaf gyda genedigaeth Crist, ac mae llawer o’r traddodiadau sydd yn cael eu cadw gennym yn ystod tymor y Nadolig wedi dechrau ymhell cyn ei eni. Roedd cyfnewid anrhegion, addurno coed, a llosgi’r boncyff Nadolig i gyd yn draddodiadau’r gaeaf a ddechreuodd ymhell cyn i’r grefydd Gristnogol ddod i fodolaeth ond a gafodd, ymhen amser, eu hymgorffori i mewn i’r Wyl a ddaeth i gael ei hadnabod fel y Nadolig.

  2. Beth, felly, oedd gwreiddiau paganaidd rhai o’n traddodiadau Nadoligaidd?

    Deuddeg diwrnod y Nadolig
     
    Tua phedair mil o flynyddoedd yn ôl, roedd y wlad sydd bellach yn ddwyrain Syria a gogledd Irac yn cael ei galw’n Mesopotamia. Roedd hen wareiddiad yn byw yno. (Dangoswch hyn ar fap o’r byd)

    Byddai pobl Mesopotamia yn dathlu eu Blwyddyn Newydd yng nghanol y gaeaf gyda gwyl dros 12 diwrnod o’r enw Zagmuth. Byddai’r Mesopotamiaid yn cynnal yr wyl hon er anrhydedd i’w prif dduw, Marduk, oherwydd eu bod yn credu ei fod ef yn ymladd ‘angenfilod anhrefn’ ar ddechrau pob gaeaf.  Credir bod y syniad o ddathlu’r Nadolig dros ddeuddeg o ddyddiau wedi dechrau o’r wyl hon.  

    Gwyliau, anrhegion a chanhwyllau ar goed
    Byddai’r Rhufeiniaid yn cynnal dathliad bob blwyddyn i anrhydeddu eu duw Sadwrn. Roedd yr wyl, a oedd yn cael ei galw’n ‘Saturnalia’, yn dechrau yng nghanol mis Rhagfyr ac yn parhau tan y diwrnod cyntaf o fis Ionawr. 

    Byddai’r Rhufeiniaid yn addurno’u cartrefi gyda garlantau, yn ogystal â choed ac yn hongian canhwyllau arnyn nhw.

    Yn ystod yr wyl byddai dinasyddion Rhufain yn ymweld â chartrefi’r naill a’r llall, yn cynnal gwleddoedd mawr, ac yn cyfnewid anrhegion er mwyn hyrwyddo lwc dda. 

    Boncyff y Nadolig, caneuon, ac afalau ar ganghennau
    Mae gwledydd Llychlyn (Sweden, Norwy a Denmarc) mor ogleddol fel yng nghanol y gaeaf nid yw’r haul yn codi bron uwch y gorwel. Fel mater o ffaith, yn y rhannau mwyaf gogleddol, bydd dyddiau canol gaeaf cyn dywylled â’r nos.  

    Yn Llychlyn, yn yr hen amseroedd, byddai’r Llychlynwyr yn cynnal gwyl o’r enw ‘Yuletide.’ Byddai Boncyff yr ‘Yule’ yn cael ei losgi ar dân arbennig, a byddai pawb yn ymgynnull o gwmpas y tân ar gyfer gwledd.  Er mwyn atgoffau’u hunain y byddai’r gwanwyn a’r haf yn siwr o ddychwelyd unwaith eto, byddai pobl mewn rhai llefydd yn Llychlyn yn clymu afalau ar ganghennau’r coed. Credir bod y traddodiad sydd ynghlwm wrth y goeden Nadolig wedi esblygu o’r ddefod hon, ynghyd â’r traddodiad Rhufeinig o addurno coed gyda chanhwyllau yn ystod gwyl ‘Saturnalia’. 

    Yn Llychlyn, byddai pobl yn canu caneuon dathlu ar droad rhod y gaeaf, sef dydd byrraf y flwyddyn. Mae rhai yn credu mai dyma o bosib ddechrau’r arfer o ganu carolau Nadolig.

    Pam fod Dydd y Nadolig yn cael ei ddathlu yng nghanol gaeaf?
    Nid yw’r Beibl yn rhoi dyddiad pryd y cafodd Iesu ei eni. Ond mae’r cyfeiriad at fugeiliaid yn gwylio eu praidd liw nos yn awgrymu’r gwanwyn oherwydd yn ystod y gaeaf byddai’r bugeiliaid yn hebrwng eu defaid i lawr i gorlannau ar lawr y dyffrynnoedd.  

    Un ddamcaniaeth yw bod Cystennin Fawr, yr ymerawdwr Rhufeinig, a gafodd dröedigaeth a dod yn Gristion tua’r flwyddyn 312 Oed Crist, eisiau ymgorffori’r defodau paganaidd a oedd yn ymwneud â’r gaeaf yn y dathliadau am enedigaeth Iesu. Trwy wneud hyn, roedd Cystennin Fawr yn gobeithio helpu paganiaid a Christnogion i ddathlu ar y cyd. Mae llawer yn credu mai dyma’r rheswm pam y byddwn yn dathlu genedigaeth Iesu yn ystod y gaeaf. 

    Yn y diwedd, fe lwyddodd yr eglwys Rufeinig bron yn llwyr i wneud y dathliad canol gaeaf yn ddathliad am eni Crist yn unig. 

  3. Mae’r wyl Gristnogol, y Nadolig, bob amser yn ddathliad o enedigaeth Crist.  Nid yw, fodd bynnag, yn cael ei dathlu yn yr union ffordd ym mhob gwlad yn y byd.  

    Ym Mhrydain 
    Un traddodiad sy’n cael ei gadw ym Mhrydain yn ystod tymor y Nadolig yw Gwyl San Steffan, sef ‘Boxing Day’ yn Saesneg. Ar ‘Boxing Day’, y traddodiad fyddai mewn llawer o eglwysi i agor blychau’r offrwm fyddai’n cynnwys cyfraniadau tuag at y tlodion, ac fe fyddai’r rhoddion hynny’n cael eu dosbarthu ymysg y tlodion. 

    Un ddamcaniaeth am garolau yw eu bod yn tarddu o Brydain ac nid o Lychlyn.  Boed hynny’n wir ai peidio, cafodd llawer o garolau’r Nadolig a llawer o gerddoriaeth y Nadolig ei gyfansoddi yn Lloegr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

    Credir bod y cerdyn Nadolig cyntaf yn gerdyn a gynlluniwyd gan yr arlunydd Prydeinig, John Callcott Horsley. Cynlluniodd Horsley ei gerdyn yn y flwyddyn 1843 ar gyfer ei ffrind, Syr Henry Cole, cyfarwyddwr cyntaf yr Amgueddfa Victoria ac Albert. Roedd y cerdyn yn dangos teulu’n dathlu’r Nadolig, a neges arno yn dweud: ‘A Merry Christmas and a Happy New Year to You’. Cydiodd y traddodiad hwn yn gyflym yn Lloegr, ac ymhen dim yr oedd cardiau Nadolig yn ymddangos yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.

    Tsieina 
    Bydd Cristnogion yn Tsieina yn dathlu’r Nadolig trwy addurno eu tai a’u coed â lanternau papur, blodau papur a chadwynau papur.  

    Iran
    Mae Cristnogion yn Iran yn ymwrthod rhag bwyta unrhyw gynnyrch o anifeiliaid o ddiwrnod cyntaf mis Rhagfyr tan ar ôl gwasanaethau Nadolig yn yr eglwys ar 25 Rhagfyr.   Yna, maen nhw’n bwyta gwledd draddodiadol o stiw cyw iâr. 

    Venezuela
    Yn Venezuela, bydd Cristnogion yn mynychu gwasanaethau boreol yn yr eglwys bob dydd o’r 16eg hyd at y 24ain o Ragfyr.  Yn y brifddinas, Caracas, mae’n draddodiad i ddod i’r gwasanaethau hyn ar esgidiau rholio. 

    Gogledd Brasil
    Mae pobl yng ngogledd Brasil yn dathlu’r Nadolig gyda drama draddodiadol o’r enw ‘Los Pastores’, neu ‘Y Bugeiliaid’. Yn y ddrama hon, bydd y bugeiliaid bob amser yn cael eu cynrychioli bob amser gan ferched, ac y mae un olygfa yn y ddrama pan fydd sipsi yn ceisio herwgipio’r baban Iesu.

    Twrci
    Nid yw’n bosib trafod hanes y Nadolig heb sôn am Siôn Corn. Roedd Esgob Nicholas o Smyrna, a oedd yn byw yn ystod y bedwaredd ganrif yn y wlad sydd yn cael ei galw’n Twrci gennym ni heddiw. Roedd Nicholas yn ddyn cyfoethog, haelionus a charedig. Roedd pobl yn gwybod y byddai’n mynd ag anrhegion i gartrefi’r tlodion er mwyn codi eu calonnau. Ymhen amser cafodd y teitl Sant Nicholas, a daeth yn nawddsant plant a morwyr. O’i stori ef y datblygodd y chwedl am Santa Claus neu Siôn Corn - y dyn llawen sydd yn dod ag anrhegion i blant ledled y byd i gyd ar Noswyl y Nadolig. 

    Yn Lloegr, daeth Sant Nicholas i gael ei adnabod fel ‘Father Christmas’, tra caiff ei adnabod yn Tsieina gyda’r enw ‘Dun Che Lao Ren’, sydd yn golygu ‘Hen Ddyn y Nadolig’.

    Mae llawer yn credu bod rhoi anrhegion yn tarddu o weithredoedd Esgob Nicholas, ac nid o’r traddodiad Rhufeinig o roi anrhegion yn ystod gwyl Saturnalia. O bosib, fe ddatblygodd y traddodiad o’r ddau arferiad.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y traddodiadau Nadoligaidd y mae eich teulu chi’n eu cadw, a pha mor bwysig ydyn nhw i chi.

(Saib)

Byddwch yn ddiolchgar am yr holl bethau y mae oedolion yn eich yn eich bywyd yn ei wneud, ac am yr holl amser y maen nhw’n ei dreulio, er mwyn cadw’r traddodiadau teuluol hynny.

(Saib)

Beth bynnag yw ein daliadau, yn ystod y Nadolig y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon lwcus i allu treulio cyfnod o amser o ansawdd da gyda’n teulu a’n ffrindiau. Ond mae’n bwysig i ni feddwl am bobl sydd yn byw ar ben eu hunain ac sy’n unig, o bosib.  Yn aml mae’r Nadolig yn gyfnod mwy unig i bobl fel hyn nag unrhyw gyfnod arall.  

Gweddi
Gweddi’r Arglwydd

Cerddoriaeth

Canwch unrhyw un o hoff garolau’r ysgol.

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Lonely this Christmas’ gan Elvis Presley.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon