Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Grwp 'Occupy London'

Pam protestio?

gan Claire Rose

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5 - Gwasanaeth Sylwadau

Nodau / Amcanion

Meddwl am y protestio a fu yn Ninas Llundain yn ddiweddar, a holi’r myfyrwyr beth yw eu barn am brotest o’r fath.

 

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr rai lluniau o’r protestiadau ledled y byd (gwelwch wefan y mudiad Occupy, neu Wikipedia).
  • Efallai bod gwersyll yn eich dinas leol chi – ymchwiliwch i hyn cyn cyflwyno’r gwasanaeth.
  • Efallai bydd gofyn i chi ddiweddaru’r gwasanaeth fel mae’n ymddangos yma: gwiriwch wefan Occupy.
  • Edrychwch ar wefan Amnest Rhyngwladol am hyd yn oed ragor o wybodaeth am yr Arab Spring, ac am arweiniad ynghylch beth allech chi ei wneud i helpu.
  • Er mwyn cael gwybodaeth bellach am y mudiad Occupy, edrychwch ar Wikipedia: en.wikipedia.org/wiki/Occupy_movement

Gwasanaeth

  1. Ers canol Hydref 2011, fe ddatblygodd meicro-ddinas o bebyll o flaen y grisiau sy'n arwain at Eglwys Gadeiriol Sant Paul yng nghanol Llundain. Mae'r gwersyll yn cynnwys grwp o brotestwyr sy'n galw eu hunain yn 'Occupy London'.

    Mae'r llety yno’n eithaf sylfaenol: pebyll, sachau cysgu, tarpolin a chyflenwadau gwersylla. Ond mae gan y gwersyll ei ganolfan fwyd ei hun, llyfrgell, system wastraff ac ail-gylchu, ac mae hyd yn oed gyfres o ddarlithoedd yn cael eu cynnal yno.

    Pam y mae pobl yn dewis byw y tu allan, mewn pebyll, trwy nosweithiau oer y gaeaf, a beth maen nhw'n gobeithio ei gyflawni?

  2. Un uned fechan gan fudiad byd-eang yw'r brotest yn Ninas Llundain, mudiad sy’n cael ei alw’n gyffredinol yn 'Occupy', ac sydd wedi cael ei drefnu gan gylchgrawn gwrth-gyfalafiaeth 'Adbusters'.

    Fe ddechreuodd y mudiad hwn yn Kuala Lumpur yng nghanol 2011, gydag un gwersyll, ac fe ledaenodd y syniad yn fuan wedyn i Efrog Newydd (Occupy Wall Street) a San Francisco, cyn dod i Lundain a dinasoedd eraill y Deyrnas Gyfunol ym mis Hydref 2011.

    Erbyn diwedd 2011, credir bod protestiadau neu wersylloedd Occupy yn digwydd mewn 2,464 o drefi a dinasoedd ledled y byd.

  3. Mae'r mudiad Occupy wedi ennyn emosiynau cryf o blaid, ac yn erbyn, y protestwyr.

    Mae'r brotest yn Efrog Newydd wedi wynebu cael ei throi allan gan heddlu'r ddinas. Mae'r protestwyr yn cwyno bod dadfeddiannu yn taro ar eu hawliau i ryddid llafar.  

    Yn Llundain, mae dau gorff wedi bygwth gweithredu cyfreithiol yn eu herbyn: Corfforaeth Dinas Llundain – corff llywodraethol yr ardal – ag Eglwys Loegr. Y ddau gorff yma sy'n berchnogion ar y cyd ar y tir y mae'r protestwyr wedi codi eu gwersyll arno. Mae David Cameron a Maer Llundain, Boris Johnson, ill dau wedi siarad yn erbyn gadael i'r protestwyr aros ar y safle hwn am amser hir, gan honni fod y gwersyll yn achosi tramgwydd mewn ardal brysur o Lundain.

    Mae'n anodd gwybod sut i fynegi teimlad am grwp bach o bobl fel hyn a all fod yn achosi trafferthion i lawer o bobl eraill sy'n dymuno mynd o gylch eu busnes a'u gwaith beunyddiol – heb anghofio'r holl ymwelwyr a thwristiaid sy'n dod i'r ardal.

  4. Mae protestiadau fel hyn yn codi o deimlad cyffredinol o rwystredigaeth gan grwp mawr o bobl. Wrth ddod at ei gilydd mae'r bobl hyn yn ffurfio 'mudiad'. Mae eu rhwystredigaeth yn ymledu i weithrediadau ar y strydoedd, a'r rheini yn aml yn cael eu trefnu trwy'r media cymdeithasol a chyfathrebu ar y Rhyngrwyd. 

    Mae sawl dull a modd o brotestio, o grwpiau yn cyfarfod i ddadlau yn erbyn bwriad i gau llyfrgell neu ryw gyfleuster arall, i ralïau gwleidyddol enfawr - fel y protestiadau oedd ynghlwm wrth yr ‘Arab Spring’ yn gynnar yn 2011 - sydd yn gallu cymryd drosodd rannau sylweddol o ddinasoedd.

    Fe alwodd mudiadau'r 'Arab Spring' am ddemocratiaeth, ac roedd ganddyn nhw'r amcanion uchelgeisiol o newid y ffordd yr oedd eu gwledydd yn cael eu gweinyddu. Yn Tunisia a'r Aifft, fe lwyddodd y mudiadau hyn i ddymchwel eu llywodraethau. (Efallai yr hoffech chi wneud sylwadau yma am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Aifft.)

    Mae protestiadau cyffelyb yn parhau mewn gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol. Wrth sefyll i fyny dros yr hyn y maen nhw'n credu ynddo, mae protestwyr yn Syria yn wynebu'r risg yn ddyddiol o gael eu hanafu neu eu lladd gan eu llywodraeth eu hunain. 

  5. Yn ôl yn Llundain, mae protestwyr 'Occupy' yn galw am gyfiawnder a chydraddoldeb yn wyneb yr arian sy'n cael ei wario i achub banciau, toriadau'r llywodraeth a chynnydd yn y nifer sy'n ddi-waith. Dyna restr fras o'u gofyniadau, ond mae rhai beirniaid yn awgrymu bod 'Occupy London' heb ffocws pendant, ac yn afrealistig, ac na fyddan nhw'n cyflawni dim yn y pen draw.

    Ond efallai bod hwn yn fath gwahanol o brotest i'r ymgyrchoedd lleol neu wleidyddol sydd dan sylw yn Rhan 4. Fel mae'r gyfres o ddarlithoedd a'r llyfrgell sydd gan wersyll 'Occupy London' yn dangos, yn ogystal â gwrthdystio yn erbyn y dulliau presennol o wneud pethau, mae'r brotest hon yn rhoi cyfle i ni feddwl am atebion a dulliau amgen o weithredu. 

    Er mwyn cyfathrebu eu neges, mae protestwyr 'Occupy' wedi cael cyhoeddusrwydd yn y wasg, y ogystal â siarad gyda phobl sy'n pasio heibio'u gwersyll. Maen nhw'n amcanu i dynnu sylw at y materion hynny y maen nhw'n eu cael yn rhwystredig.  Eu gobaith yw y byddwn ni'n stopio am foment i feddwl am yr hyn maen nhw'n eu ceisio, boed ni'n digwydd cerdded heibio eu gwersyll neu weld adroddiad amdanyn nhw ar y newyddion.  Felly, er gwaethaf y ffaith bod rhestr eu gofynion nhw â llai o ffocws iddyn nhw na'r rhai sy'n gysylltiedig â phrotestiadau'r 'Arab Spring', maen nhw'n cwrdd â'u hamcanion mewn ffyrdd eraill.

  6. Mae protestiadau yn rhan bwysig o gymdeithas iach, boed nhw'n canolbwyntio ar ryw fater penodol, neu'n llai penodol, a'u hamcan i'w gwneud i ni stopio a meddwl.  

    Maen nhw'n tynnu sylw at fater neu grwp o faterion na fyddai o reidrwydd yn denu llawer o sylw. 

    Fe allan nhw newid cwrs polisi llywodraeth, neu hyd yn oed newid llywodraethau.

    Mae protestiadau heddychlon yn rhoi i ni, fel dinasyddion, y modd i fynegi ein teimladau ynglyn â'r materion hynny sydd yn agos at ein calonnau heb yr ofn o ddial.

    Myfyrdod a thrafodaeth bellach

    Beth sydd o bwysigrwydd mawr yn eich golwg chi a fyddai'n gwneud i chi brotestio yn ei gylch a gwneud i bobl eraill dalu sylw?

    Pam mae hi mor bwysig bod pobl yn gallu protestio mewn heddwch, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno gyda'u safbwynt?

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn ystyried a gwerthfawrogi’r rhyddid rydyn ni’n gallu ei fwynhau yn y wlad hon.

Diolchwch am y rhai hynny sydd, ar hyd y canrifoedd, wedi gweithio fel y gallwn ni fwynhau’r rhyddid hwnnw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘Blowing in the wind’ gan Bob Dylan, neu unrhyw gân brotest arall

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon