Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pedwar Munud

Archwilio’r cwestiwn: beth fyddech chi’n ei wneud petaech chi’n gwybod mai dim ond pedwar munud sydd gennych chi i fyw?

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

 Archwilio’r cwestiwn: beth fyddech chi’n ei wneud petaech chi’n gwybod mai dim ond pedwar munud sydd gennych chi i fyw?

Paratoad a Deunyddiau

Llwythwch i lawr y gân ‘Four Minute Warning’ gan Mark Owen.

Gwasanaeth

  1. Beth ddaw i’ch meddwl chi pan fyddaf yn dweud ‘pedwar munud’?  Yr amser y bydd hi’n cymryd i’r gwasanaeth hwn ddod i ben?  Y gân gan Madonna a Justin Timberlake?  Hyd yr amser y gwnaethoch chi ei dreulio yn y gawod y bore ’ma?  Y tro cyntaf y rhedodd Roger Bannister filltir mewn llai na phedwar munud?

    Petaech chi’n gofyn i athro, rhiant neu daid neu nain, efallai y bydden nhw’n rhoi ateb gwahanol iawn i chi.

  2. Rhwng 1953 a 1992, roedd Rhyfel Oer rhwng y Gorllewin a’r Undeb Sofietaidd.  Teimlodd Prydain fygythiad gwirioneddol ymosodiad niwclear Sofietaidd drwy gydol y cyfnod hwnnw.  Roedd y rhybudd pedwar munud yn system rhybuddio’r cyhoedd a ddyfeisiwyd gan Lywodraeth Prydain i roi gwybod i’r cyhoedd am ymosodiad o’r fath.  Unwaith y byddai taflegrynnau niwclear Sofietaidd yn cael eu tanio, y gred oedd y bydden nhw’n cymryd pedwar munud i gyrraedd eu targed.  Yn ystod yr amser hwnnw, roedd hi’n bwysig ceisio cael lloches a dilyn camau penodol.

    Roedd nifer o bobl yn ystyried sut y bydden nhw’n treulio eu pedwar munud olaf.  Dweud wrth ffrindiau a theulu gymaint yr oedden nhw’n eu caru nhw?  Chwarae eu gitâr am y tro olaf?  Gwrando ar hoff gân?  Gafael yn eu hoff anifail anwes?

    Mae’n gwestiwn diddorol, yn sicr.  Sut y byddech chi’n treulio pedwar munud olaf eich bywyd?  (Oedwch am foment i fyfyrio.)

    Mae hyn wedi bod ar feddwl sawl cenhedlaeth o bobl, ac mae wedi bod yn destun nifer o ganeuon a llyfrau, yn cynnwys ‘Four Minute Warning’, cân a ganwyd gan Mark Owen yn y flwyddyn2003.

  3. Er hynny, gyda diwedd y Rhyfel Oer, nid yw’r perygl niwclear yn flaenllaw ym meddyliau pobl.  Mae bygythiad marwolaeth ddisymwth wedi diflannu o ymwybod pobl.  Fe allech chi ddweud fod rhai pobl yn credu eu bod nhw’n gallu byw am byth.  Maen nhw’n cymryd bywyd yn ganiataol.

    Yn y Beibl, adroddodd Iesu stori am ddyn nad oedd wedi meddwl unwaith am farwolaeth (Luc 12.16–21).  Roedd yn gyfoethog a llwyddiannus, gan fod ei dir wedi cynhyrchu digon o gnydau.  Roedd yn rhaid iddo adeiladu ysguboriau mwy a mwy o faint i storio’r cnydau.  Pan oedd wedi gwneud hyn, dywedodd wrtho’i hun: ‘Gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen’ (12.19).  Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno mynnir dy einioes yn ôl gennyt’ (12.20).

  4. Nid yw’r un ohonom yn gwybod pa flwyddyn, ar ba ddiwrnod, nac ar ba awr y daw ein bywydau i ben.  Fe allai fod yn ddamwain, yn salwch, yn ymosodiad gan derfysgwyr, yn weithred ddewr … mae un peth yn sicr, fe fydd pawb ohonom yn marw.  Mae rhai pobl yn ceisio byw pob diwrnod fel mai hwnnw fydd eu diwrnod olaf, byth yn mynd i’r gwely heb ddatrys gwrthdaro, neu wella perthynas a allai fod wedi bod dan straen yn ystod y diwrnod.

    Ydi hyn yn rhywbeth y gallech chi roi cynnig arno?  Nid dim ond byw ar gyfer y foment ddylen ni ei wneud; nid mater o orffwys, bwyta, yfed, a bod yn llawen yn unig yw bywyd.  Mae hi hefyd yn braf rhoi amser i fyfyrio ar sut i fyw, gan wybod y byddwn ni i gyd yn marw rhyw ddydd.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio eto ar y rhybudd pedwar munud.  Sut y byddech chi’n treulio eich pedwar munud olaf?

Mae eich ateb yn datgelu’r pethau a’r bobl sy’n bwysig iawn yn eich golwg chi.

Weithiau, mae ein heiddo a’n huchelgeisiau yn gallu dod ar draws y pethau sydd fwyaf pwysig yn ein bywydau.

Wrth i chi wrando ar y gân (‘Four Minute Warning’ gan Mark Owen, neu gerddoriaeth arall sy’n addas ar gyfer myfyrio):

Byddwch yn ddiolchgar am eich bywyd ac am y bobl rydych chi’n malio amdanyn nhw.

Atgoffwch eich hun beth sydd wirioneddol yn bwysig i chi.

Byddwch yn benderfynol na fyddwch chi’n cymryd y pethau pwysicaf yn ganiataol.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon