Y Ffilm 'The King's Speech'
Ystyried y cyflwr atal dweud, gan gyfeirio at y Brenin Siôr VI, a’r ffilm The King’s Speech.
gan Tim and Vicky Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y cyflwr atal dweud, gan gyfeirio at y Brenin Siôr VI, a’r ffilm The King’s Speech.
Paratoad a Deunyddiau
- Hysbyslun y ffilm The King’s Speech oddi ar YouTube: www.youtube.com/watch?v=s_-RLe-2eVM (gwiriwch yr hawlfraint).
- Lluniwch gyflwyniad PowerPoint yn dangos lluniau o’r gwir Frenin Siôr VI gyda’r Fam Frenhines a’u dwy ferch, y Dywysoges Elizabeth a’r Dywysoges Margaret.
- Mae’n bosib casglu gwybodaeth ynghylch atal dweud oddi ar wefan y British Stammering Association (www.stammering.org).
- Byddwch yn sensitif, fe allai rhai yn eich cynulleidfa fod ag atal dweud..
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw erioed wedi teimlo'n rhwystredig pan oedden nhw'n ceisio dweud rhywbeth, ond doedd y bobl ddim yn gwrando neu ddim yn ceisio deall. Heriwch y myfyrwyr i gofio pa mor rhwystredig yr oedden nhw'n teimlo. Dywedwch fod hyn yn broblem sy'n aml yn rhan o brofiad pobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae llefaru'n bwysig iawn. Fe all yr hyn sydd gennym i'w ddweud ddod â llawenydd mawr, ond gall hefyd achosi tristwch gwirioneddol. - Mae'r flwyddyn hon yn ben-blwydd marwolaeth tad y Frenhines Elizabeth, y Brenin Siôr VI. Roedd y Brenin Siôr VI yn frenin y Deyrnas Gyfunol a'r Gymanwlad o 1936 hyd at ei farwolaeth ar 6 Chwefror 1952.
Fe ddaeth Siôr yn frenin mewn ffordd annisgwyl, yn dilyn ymddiorseddiad ei frawd hyn, Edward (y Brenin Edward VIII), a ildiodd ei orsedd er mwyn gallu priodi merch o'r enw Wallis Simpson - gwraig Americanaidd oedd wedi ysgaru. Lai na blwyddyn yn unig y bu Edward VIII yn frenin cyn ei ymddiorseddiad, gan adael Siôr i ddod yn frenin ychydig cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau.
Roedd gan y Brenin Siôr nam ar ei leferydd, a oedd wedi dechrau arno pan oedd yn fachgen ifanc. Pan oedd yn blentyn, yr oedd wedi cael ei orfodi i ysgrifennu gyda'i law dde, er gwaethaf y ffaith ei fod yn llaw chwith o natur, a thrwy gydol ei fywyd bu'n dioddef o iechyd bregus.
Tynnodd y ffilm o'r enw The King’s Speech, a enillodd sawl Oscar yn 2010, sylw at frwydr ddewr y Brenin Siôr i goncro'r nam oedd ganddo ar ei leferydd. - Dangoswch ran o'r ffilm The King’s Speech, a gofynnwch i'r myfyrwyr ydyn nhw wedi gweld y ffilm, a beth oedd eu barn amdani.
Fe achosodd The King’s Speech i fwy o bobl na'r cyffredin ddechrau meddwl am y cyflwr atal dweud. Maen nhw'n gofyn beth yw atal dweud, pwy sy'n cael eu heffeithio ganddo, a beth sy’n ei achosi. Ers y 1930au, y cyfnod sy'n cael ei bortreadu yn y ffilm, mae'r wybodaeth am y cyflwr wedi gwella'n fawr. - Beth yw atal dweud?
Mae atal dweud yn cael ei 'nodweddu gan ataliadau ac amhariadau yn rhuglder y llefaru sy'n torri ar ei lithrigrwydd a'i amseru. Gall yr ataliadau hyn fod yn ailadroddiadau o synau, sillafau neu eiriau [e.e. te-te-te-teimlo], estyniadau o synau fel bo'r geiriau'n ymddangos fel pe bydden nhw wedi cael eu hymestyn [e.e. mmmmmmmmm-m-meddwl] ac fe all achosi atal llif yr anadl fel na chlywir unrhyw swn o gwbl.' (addasiad o eiriau Enderby, sydd wedi cael eu dyfynnu gan y British Stammering Association). Mae rhai, ond nid y cyfan, o arbenigwyr yn credu ei fod yn cael ei nodweddu hefyd gan ailadroddiad o eiriau cyfan.
Mae dwysedd atal dweud yn amrywio o berson i berson. Dim ond ychydig bach o atal dweud sydd gan rai pobl. Nid yw hyd yn oed y rhai sydd ag atal dweud difrifol yn dioddef ohono trwy'r amser. Yn aml, mae'n llai dwys neu hyd yn oed ddim yn amlwg o gwbl pan fydd rhywun yn canu, yn sibrwd, yn llefaru mewn côr neu wrth actio. Yn achos rhai pobl mae'n waeth mewn sefyllfaoedd ingol, fel siarad cyhoeddus, i eraill, mae'r sefyllfaoedd ingol yn gwella'r atal dweud.
Pwy sy'n cael eu heffeithio, a faint?
- Mae hyd at 5 y cant o blant o dan bump oed yn mynd trwy gyfnod o atal dweud. Fe ddangosodd ymchwil diweddar ei bod hi'n bosib rhagdybio pa blant ifanc gydag atal dweud arnyn nhw fydd yn cael gwared ohono wrth brifio, ac yn adennill llefaredd normal erbyn iddyn nhw gyrraedd llencyndod.
- Mae oddeutu 1.2 y cant o holl blant oed ysgol ag atal dweud arnyn nhw. Yn y Deyrnas Gyfunol mae hynny'n gyfystyr â 109,000 o blant rhwng 5 ac 16 oed.
- Mae 1 y cant o’r holl oedolion yn dioddef o atal dweud.
- Ambell waith bydd oedolion yn cael atal dweud o ganlyniad i anaf ar yr ymennydd, fel strôc.
- Ymysg y rhai sydd dan bump oed, mae dwywaith nifer y bechgyn ag atal dweud arnyn nhw na genethod; ymysg oedolion mae tua phedwar dyn ag atal dweud arnyn nhw am bob un ferch.
Caiff y ffigyrau hyn eu darparu gan y British Stammering Association, sy'n ychwanegu bod y ffigyrau'r un peth drwy'r byd i gyd, ar draws pob diwylliant ac ym mhob grwp cymdeithasol. Maen nhw hefyd yn dweud nad oes unrhyw dystiolaeth fod pobl sydd ag atal dweud yn llai deallus na'r rhai sydd heb atal dweud arnyn nhw.
Beth sy'n achosi atal dweud?
Nid oes unrhyw achos penodol wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn. Mae tystiolaeth bod y cyflwr, mewn rhai pobl o leiaf, yn cael ei etifeddu. Mae'n ymddangos hefyd bod rhywfaint o wahaniaeth yn ochr chwith ymennydd y dioddefwyr. Yn anffodus, mae ystadegau yn dangos bod plant sy'n dioddef o atal dweud yn fwy tebygol o fod wedi wynebu bwlio. Rydym yn gwybod bod pryder, o ganlyniad i fwlio efallai, yn gallu bod yn ffactor pwysig mewn achosi atal dweud neu ei waethygu.
Oes iachâd i'w gael i atal dweud?
Hyd yn hyn, does dim triniaeth iachâd benodol i’w gael at atal dweud. Ond mae’n bosibl i’r atal gael ei wella gyda therapi lleferydd ac ymarfer cyson. Mae'r gyfradd o lwyddiant uchaf ymhlith plant dan bump oed. Gyda phlant ifanc iawn, bydd ymarferion llefaru da yn fodd i rwystro'r trafferthion rhag datblygu i fod yn atal dweud parhaol.
Mae rhai dyfeisiadau artiffisial sydd yn gallu helpu pobl sy'n dioddef o atal dweud i arafu eu llefaru fel eu bod yn gallu siarad yn fwy clywadwy. Yn anffodus, unwaith y bydd y ddyfais yn cael ei dynnu ymaith, bydd yr atal dweud yn dychwelyd.
Gydag ymdrech egniol ac anogaeth, bydd pobl gydag atal dweud yn gallu ei reoli i'r graddau y byddan nhw'n gallu gweithio fel cyflwynwyr rhaglenni darlithwyr prifysgol, neu hyd yn oed i ymddangos ar University Challenge.
Mae llawer iawn mwy o ddarganfyddiadau i'w gwneud eto ynglyn ag atal dweud er mwyn datblygu’r math o driniaeth sy’n bosib er mwyn gwella’r cyflwr. - Yn anffodus, mae ystadegau'n dangos bod plant sy'n dioddef o atal dweud yn fwy tebygol o gael eu bwlio. Fe allai hynny beri iddyn nhw fynd yn rhwystredig a swil. Mae’n bosibl iddyn nhw golli eu hyder, ei chael hi'n anodd llwyddo yn yr ysgol, ac yn y pen draw ei chael hi'n anodd cael swyddi da wedyn.
Ni ddylai neb gael ei ddifrïo na'i gam-drin oherwydd bod ef neu hi'n wahanol.
Wrth ddangos i bobl eich bod yn gwerthfawrogi'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud, gall hynny ein helpu i gyd oherwydd bod hyn yn dangos eich bod yn eu gwerthfawrogi fel bodau dynol.
Amser i feddwl
Dychmygwch fod atal dweud arnoch chi, a'ch bod yn cael eich bwlio dim ond oherwydd y ffordd rydych chi’n siarad. Sut y byddech chi'n teimlo am hynny?
Oes unrhyw un y byddwch chi’n ei iselhau oherwydd bod ganddo ef neu hi nam ar y lleferydd?
A yw hynny'n rhesymol?
Sut y buasech chi’n gallu newid eich agwedd fel eich bod yn fwy caredig ac yn fwy parod i dderbyn pethau?
Meddyliwch am ffordd y byddech chi’n gallu cefnogi rhywun sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu. Fel arfer, y cyfan sydd ei angen yw amser, ac i chi beidio â cheisio dyfalu beth mae'r person yn dymuno'i ddweud - rhowch gyfle a byddwch yn amyneddgar ac fe ddaw'r geiriau allan.
Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolchwn i ti am bob therapydd lleferydd a gwyddonydd
sy'n gweithio'n galed i ofalu bod gennym ni well dealltwriaeth
o gyflyrau llefaru fel atal dweud,
ac fel bod pobl sy'n dioddef yn gallu cael y cymorth y maen nhw ei angen.
Gweddïwn y byddi di'n cysuro ac yn annog
y rhai hynny sy'n dioddef camdriniaeth oherwydd bod atal dweud arnyn nhw.
Helpa ni i fod yn gymuned ble mae'r holl bobl yn gallu bod yn nhw'u hunain.