Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Gwyl Dewi Sant

1 Mawrth

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Edrych ar darddiad Dydd Gwyl Dewi a’i symbolau, ac ar rai o’r storïau am Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch y myfyrwyr beth sy’n gyffredin rhwng y genhinen a’r daffodil. Mae’n debyg y byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi bod y ddau beth yn cael ei ddefnyddio fel arwyddluniau cenedlaethol i Gymru.

  2. Mae’r diwrnod cyntaf o fis Mawrth yn ddydd gwyl ein nawddsant, Dydd Gwyl Dewi Sant.

    Ond pwy oedd Dewi, a pham y caiff y cennin a’r daffodil eu cysylltu ag ef?

  3. Ychydig a wyddom yn sicr am Dewi, ond cafodd ei eni tua’r flwyddyn AD 500, ac yn ôl y sôn bu fyw’n hen iawn - tua chant oed, oedd yn oedran mawr iawn yn y dyddiau hynny! Yn ôl y sôn, cafodd ei genhedlu wedi i’w fam gwrdd â dyn treisgar, a chafodd ei eni ar ben clogwyn mewn storm!

    Roedd yn fynach ac yn esgob,  fu’n teithio ledled Cymru yn addysgu’r bobl am Gristnogaeth ac fe sefydlodd fynachlogydd yn y mannau lle bu. Credir ei fod yn arweinydd diwygiad yn y ffydd Gristnogol yng Nghymru yn y chweched ganrif.

    Mae ambell stori amdano’n creu gwyrthiau. Y wyrth fwyaf enwog sy’n gysylltiedig â’i enw yw’r hanes amdano’n annerch tyrfa fawr un tro a’r bobl yn y cefn yn cwyno nad oedden nhw’n ei weld. Yn ôl y stori, fe gododd y tir o dan ei draed a ffurfio bryn, ac wedi hynny roedd pawb yn gallu ei weld!

    Ar ei wely angau, fe ynganodd Dewi’r geiriau, ‘Gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’ Caiff y geiriau hyn eu hailadrodd yn aml gan bobl Cymru ar Ddydd Gwyl Dewi.

  4. Ar Ddydd Gwyl Dewi, fe fydd llawer o bobl yng Nghymru a Chymry ledled y byd yn gwisgo cenhinen neu ddaffodil i ddathlu’r diwrnod.

    Mae cyfeiriad yng ngwaith Shakespeare at ddynion o Gymru’n gwisgo cennin ar Ddydd Gwyl Dewi, ac mae’n ei alw’n ‘hen draddodiad’. Ond does neb yn hollol sicr o darddiad y traddodiad. Un awgrym yw bod y genhinen wedi dod yn arwyddlun i Gymru yn dilyn digwyddiad pan ofynnwyd i filwyr y fyddin Gymreig wisgo cenhinen ar eu helmed, i’w gwahaniaethu oddi wrth y gelyn – y Saeson – a oedd yn gwisgo dillad tebyg iddyn nhw. Credir mai mewn cae yn llawn o gennin y digwyddodd y frwydr, ac mai ar orchymyn Dewi y gwisgodd y fyddin Gymreig genhinen ar eu helmedau er mwyn iddyn nhw allu cael eu gwahaniaethu oddi wrth y gelyn Sacsonaidd. Pwy â wyr?

    Heddiw, y genhinen yw’r arwyddlun ar y bathodyn sydd ar gapiau milwyr yn y gatrawd Gymreig, ac mae’r genhinen i’w gweld yn amlwg iawn hefyd mewn gemau rygbi rhyngwladol. (Efallai yr hoffech chi ddangos lluniau yma, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

  5. Yn ddiweddar, mae mwy o bobl yn dewis gwisgo’r daffodil, sy’n haws i’w wisgo, yn fwy dymunol yr olwg, ac yn arogli’n well! Mae’n ddiddorol sylwi mai’r enw Cymraeg arall ar y daffodil yw cenhinen bedr.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am y geiriau a ddywedodd Dewi Sant cyn iddo farw:

‘Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’

Weithiau, fe allwn ni fod yn rhy brysur yn gwneud y pethau ‘mawr’ yn ein bywydau – arholiadau, dilyn ein gyrfa, pryderu am arian, ac ati – nes ein bod yn anghofio gwneud y ‘pethau bychain’. Oes rhai pethau bach y dylech chi fod yn ei wneud – gofalu am rywun, cymodi â rhywun ar ôl cweryla, dweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi, bod yn garedig, annog rhywun? Yn aml iawn, y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.

Gweddi  

Annwyl Dduw,

Helpa ni i beidio ag anghofio bod pobl eraill yn bwysig.

Helpa ni i dreulio ychydig o amser bob dydd  yn gwneud rhywbeth bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun arall.

Helpa ni bob amser i chwilio am gyfle i annog pobl eraill ac am gyfle i fod yn garedig.

Helpa ni i beidio â bod yn rhy brysur i helpu pobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon