Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Phillip K. Dick

Awdur hynod

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio lle ffantasi yn ein bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. A ydych chi erioed wedi edrych ar y byd a gweld bod yr hwn sydd i fod yn 'real' yn edrych rywsut...  yn ffug?

    Yn Disneyworld, yng Nghaliffornia, mae nifer o strydoedd artiffisial sydd wedi cael eu cynllunio i edrych yn union fel y Stryd Fawr Americanaidd glasurol. Ond, wrth gwrs mae'r strydoedd hyn heb y fandaliaeth achlysurol a'r gwrthdaro cymdeithasol y gellir eu canfod yn aml mewn bywyd go iawn. Nid yw’r Stryd Fawr yn Disneyland yn Stryd Fawr go iawn oherwydd ei bod yn anwybyddu'r gwirioneddau hyll sy'n nodweddu 'Stryd Fawr' real, o blaid fersiwn sy'n cymysgu ffantasi a realaeth ar y cyd: fersiwn o realaeth wedi ei berffeithio sy'n parhau'n ffantasi pur.

  2. Trwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif, mae ysgrifenwyr wedi bod yn ymlafnio gyda'r syniad nad yw'r byd y mae gennym brofiad ohono’n gwbl real. Yr enghraifft fwyaf nodedig o hyn yw'r ffilm 'The Matrix', lle mae'r byd modern mewn gwirionedd yn ddim mwy nag efelychiad cyfrifiadurol.

    Cymerodd y ffilm 'The Matrix', a ryddhawyd yn 1999, y syniad i'r brif ffrwd oedd wedi bod yn datblygu dros hanner canrif. Yn y 1960au, roedd nifer fawr o lyfrau wedi dechrau ymchwilio i'r posibilrwydd o fyd tywyllach, cuddiedig, oedd i'w gael y tu ôl i'r cyfoeth disglair o ddiwylliant modern Americanaidd.

  3. O holl awduron y llyfrau hyn, yr un mwyaf llwyddiannus oedd Philip K. Dick, a fu farw 30 mlynedd yn ôl i'r mis hwn.

    Creodd Dick gymeriadau oedd yn ymddangos eu bod yn gwneud yn dda iawn iddyn nhw'u hunain, ond sydd wedyn yn cael eu gorfodi i addasu er mwyn goroesi mewn amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.

    Yn ei nofel 'Minority Report', mae plismon sy'n defnyddio pobl seicig i gynorthwyo rhagfynegi llofruddiaethau yn sydyn yn cael ei gyhuddo ei hun o drosedd yn y dyfodol.

    Yn y ffilm 'We Can Remember It For You Wholesale' (gydag Arnold Schwarzenegger fel 'Total Recall'), mae dyn cyffredin, sy'n ceisio mewnblannu atgofion ffug i'w feddwl, mewn gwirionedd yn dod o hyd i atgofion y mae galluoedd nerthol yn mynnu eu cadw'n ôl.

    Yn y ffilm 'Blade Runner', nid ydym yn gwybod pwy yw'r bobl iawn a phwy sydd yn ffug - ond mae'r rhai sydd yn gwybod yn meddu ar y pwer dros fywyd a marwolaeth.

    Yn yr achosion uchod, yr ydym yn gweld ochr dywyll y system y mae'r prif gymeriad wedi ei chefnogi.

  4. Yr adnabyddiaeth o'r potensial llygredig sydd mewn ffantasïau sy'n rhoi'r pwer i Dick. Yn ei ysgrifau, mae'r modd y mae'n atal y gwirionedd hyll yn fantais i rywun, a bydd hwnnw neu honno yn defnyddio pob ffordd posib i gelu'r gwirionedd hwnnw. Mae'n wirionedd am bwer, real neu ffug, bod pwer a rheolaeth o'r gwirionedd yn rhedeg yn gyfochrog.

  5. Yn eu nofelau a'u storïau byrion, mae'r awduron ffuglen-wyddonol gorau yn dweud mwy wrthym am ein cymdeithas a'n byd ni nag am y teyrnasoedd yn y dyfodol y maen nhw'n eu creu. Mae Dick yn sicr yn rhan o'r grwp yma. Er gwaethaf y ffaith bod profiadau a chymeriadau bisâr, od yn byw yn ei lyfrau, mae'r gwir beryglon yn rhy ddynol o lawer: pwer ac ofn.

    Wrth i'r creisis economaidd barhau i ddangos y natur ledrithiol o lawer o'n bywyd goludog, mae yma wersi i'w dysgu o'r math hwn o ysgrifennu. Wrth i'r ffantasïau gael eu chwalu, mae gwirioneddau hyll yn ymddangos ac mae'r rhai sydd wedi elwa o’r mythau yn gweld eu hunain bob dydd yn cael eu hamlygu.

Amser i feddwl

Oedwch am foment yn awr i feddwl am unrhyw ffantasïau all fod wedi bod yn rhan o'ch bywyd:
-  a ydych yn breuddwydio dod yn enwog dros nos;
-  neu am fod yn athletwr gorau yn y byd heb y blynyddoedd angenrheidiol o ymarfer;
-  neu, efallai, am gyfarfod rhywun cyfoethog, a chael ernes ariannol fel yna?

(Soniwch am ffantasïau eraill sy'n amlwg iawn yn niwylliant eich ysgol.)

A oes gwirioneddau hyll y tu ôl i'r ffantasïau hyn, neu ai dim ond mannau braf ydyn nhw i ddianc iddyn nhw o bryd i'w gilydd?

Ydyn ni'n cydnabod mai dyna yw ein ffantasïau ninnau – ffrwyth dychymyg fel rhyw fath o ledrith? Neu a ydyn nhw'n dechrau dod yn bethau real i ni?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch y gerddoriaeth thema o un o’r ffilmiau y soniwyd amdanyn nhw. Mae’r gerddoriaeth thema o’r ffilm Blade Runner gan Vangelis. Er ei bod yn gerddoriaeth ei chyfnod, mae’n ddarn grymus o gerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon